Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ddifyr – mae’n ffenestr ar fyd-olwg pobl eraill, sydd yn beth iach. Yn enwedig I blaid wleidyddol. Mae’n bwysig fod pleidiau gwleidyddol yn gwrando ar y ganmoliaeth a’r feirniadaeth er mwyn peidio a llaesu dwylo ac er mwyn miniogi eu hymgyrchu.
Roedd dilyn Trydar neithiwr yn ddifyr wrth I ganlyniadau Ewrop ddod i fewn.
A minnau’n Bleidiwr roedd y farn ar y Blaid yn amlwg yn apelio. Ymhlith pobl nad oedd yn Bleidwyr perfformiad rhyfeddol o dda Ukip a pherfformiad gwaradwyddus y Dem Rhydd aeth a’r sylw. Ond ymhlith cenedlaetholwyr Cymreig roedd yna rincian dannedd a chwyno nad oedd y Blaid wedi gwneud yn well.
Yn bersonol rwy’n anghydweld a hyn ac o’r farn fod hi’n ganlyniad solet – da – i Blaid Cymru, yn yr amgylchiadau.
Hefyd, o ystyried yr wythnosau diwethaf roedd hi’n berfformiad siomedig i’r Blaid Lafur.
Hyd nes wythnos yn ol roedd y cyfryngau oll yn rhagweld y Blaid yn colli ei sedd. Roedd siarad mawr fod Llafur am gael 36% o’r bleidlais neu hyd yn oed efallai 40%, a dwy sedd. Rhagwelwyd llwyddiant Ukip, ond nid i’r fath raddau. Wrth gwrs roedd hi’n anodd i’r cyfryngau beidio a rhagweld llwyddiant Ukip gan mai llwyddiant o’i gwneud nhw ydoedd yn bennaf.
Mae Plaid Cymru yn parhau i fod yn blaid fechan pan fo’n dod i adnoddau ymgyrchu. Does gan y Blaid ddim cefnogwyr hynod arianog; dim undebau; dim miliwnyddion. Rhaid felly bod yn fwy ciwt, mwy strategol gyda’n hymgyrchu.
Yn hynny o beth roedd yr ymgyrch eto’n lwyddiant.
Roedd yr holl bolau piniwn yn arwain I fyny at yr etholiad yn dangos y Blaid gyda rhywle rhwng 8% a 12% o’r bleidlais, a Llafur gyda 36%-40%. Yn y diwedd cafodd y Blaid 15%. Byddai wedi bod yn hyfryd cael mwy, wrth gwrs, ond nid yw’r ffigwr yma yn dangos y darlun cyfan chwaith.
Unwaith eto gadewch I ni edrych ar bolau piniwn. Mae pob un yn ddiweddar wedi dangos y Blaid yn colli Arfon yn San Steffan. Cafodd y Blaid bleidlais rhyfeddol yng Ngwynedd, yn cynnwys Arfon. Bydd hyn yn rhoi hwb mawr i’r Blaid yno, ac yn codi amheuon am allu Llafur I gipio’r sedd.
Ynys Mon – cynyddodd y Blaid ei phleidlais yno hefyd. Bydd hwn yn codi gobeithion y Blaid yn lleol ar gyfer ymgyrch San Steffan ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar Albert Owen, yn enwedig yn dilyn perfformiadau Rhun ap Iorwerth a’r Cynghorwyr y llynedd.
Ceredigion – chwalwyd pleidlais y Rhyddfrydwyr, a chafodd y Blaid bleidlasi gadarn iawn, yn ennill yr etholaeth o ran nifer pleidleisiau. Bydd Ymgyrch Mike Parker yn fodlon iawn a hyn, ac er gwaethaf mwyafrif sylweddol mark Williams, AS Rhyddfrydol yr etholaeth, bydd yntau yn poeni’n arw.
Mae’r polau piniwn hefyd wedi dangos y bydd y Blaid yn cadw Dwyrain Caerfyrddin, ind y bydd hi’n agos, ac y gallau’r Blaid gipio Llanelli yn etholiadau’r Cynulliad. Mae perfformiad y Blaid yn Sir Gaerfyrddin yn gwbl syfrdanol, ac yn cynnig gobaith go iawn ar gyfer Llanelli. Yn ogystal a hyn bydd yn rhoi hwb sylweddol I Nerys Evans ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin, er fod pleidlais y Blaid yn Sir Benfrom yn siomedig.
O ran Sir Ddinbych, roeddwn i’n asiant yma, ac rhaid dweud mod I ar y cyfan yn fodlon a chanlyniad y Blaid, yn enwedig o fod wedi gweld y blychau unigol yn y wardiau unigol.
Does dim amser I mi ymhelaethu yma, ond mae peryg I genedlaetholwyr Cymraeg fod yn or-besimistaidd a gweld y gwaethaf drwy’r amser ac alaru am rywbeth nad oedd yn gyrhaeddiadwy yn y lle cyntaf.
Yn yr amgylchiadau, ac wrth ystyried y cyd-destun rhaid I ni fod yn fodlon a’r canlyniad, ac mae’n rhoi gobaith I ni ar gyfer etholiadau 2015 ac ’16.