Arwyddocad Ympryd Gwynfor

Mae’n dri deg mlynedd ers sefydlu S4C yn dilyn cyhoeddiad Gwynfor i ymprydio hyd farwolaeth ac ymgyrch dorfol boblgaidd.

Beth , serch hynny, yw arwyddocad y digwyddiadau a arweiniodd at sefydlu S4C ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i ni heddiw?

Does neb all ddweud i unrhyw sicrwydd beth allai wedi bod petai pethau wedi bod yn wahanol, felly barn yn unig gall rhywun ei roi. Ond byddwn i’n dadlau yn sicr y byddai’r iaith Gymraeg mewn sefyllfa gwanach o lawer pe na fyddai S4C wedi cael ei sefydlu. Does dim amheuaeth fod datblygiadau technolegol diweddar yn rhoi gobaith newydd i’r iaith gryfhau ac esblygu wrth i ddefnyddwyr yr iaith fedru cyhoeddi myfyrdodau, llyfrau, fideos a pheth wmbreth o bethau yn eu mamiath am y nesaf peth i ddim cost trwy’r we. Ond dim ond yn y saith neu wyth mlynedd diwethaf y mae’r we wirioneddol wedi cael ei ddemocrateiddio fel hyn. Heb S4C yn yr ugain mlynedd rhwng 1982 a 2002 rwy’n gwbl argyhoeddiedig y byddai’r Gymraeg wedi crebachu a sefydlu ei hun yn iaith y bobl hŷn heb ddim perthnasedd i’r genhedlaeth iau. Yr her fawr i S4C heddiw wrth gwrs yw parhau efo’r genhadaeth hon ond gwneud hynny gyda thirwedd technolegol cwbl wahanol.

Yn sicr byddai Gwynfor yn teimlo’n anghyfforddus efo’r haeriad mai ei weithred ef yn unig a arweiniodd at sefydlu S4C. Ei weithred ef oedd yr olaf mewn cyfres o weithredoedd dros flynyddoedd ac mai rhoi’r clod i Gwynfor yn unig yn anhegwch mawr i’r miloedd hynny a frwydrodd am flynyddoedd i sefydlu sianel deledu Gymraeg ei hiaith.

Ond mae sôn am S4C yn unig yn tynnu oddi ar weithred Gwynfor ac yn colli’r pwynt. Mae’n anwybyddu’r cyd-destun hanesyddol a’r cyd-destun personol.

Cofier fod ysbryd y Mudiad Cenedlaethol ar ei hisaf yn dilyn methiant Refferendwm ac etholiad 1979. Gellir dweud fod holl bwrpas bodolaeth Plaid Cymru ers 1925, a holl weithredoedd gwleidyddol Gwynfor drwy gydol ei oes, wedi arwain at y refferendwm hwnnw. Er gwaethaf holl fethiannau etholiadol Plaid Cymru a methianau ymgyrchoedd y Mudiad Cenedlaethol ar hyd y degwadau roedd ffydd ddisigl Gwynfor yn y Cymry yn parhau. Roedd gan Gwynfor ffydd lwyr yn ei gyd-wladwyr. Dywed rhai mai un o wendidau mawr Gwynfor oedd ei arfer i weld y gorau ym mhob person ar waethaf ei hanes a’i arferion. Tarddai’r arfer yma allan o’i ffydd Gristnogol, y gred fod pawb yn gallu newid (edifeirwch) yn haeddu maddeuant ac ail-gyfle. Ymestynodd y ffydd yma oedd ganddo yn y drefn ddwyfol a’r natur ddynol at gymdeithas a chenedl hefyd. Roedd Gwynfor, wedi’r cyfan, yn ddyn o ffydd ddisigl.

Erbyn 1979 Roedd Gwynfor yn Hydref ei oes. Gwelodd dwf y mudiad cenedlaethol a ieunectid Cymru yn ymuno mewn torfeydd i fynnu eu hawliau. Ymddengys fel bod Cymru yn rhan o chwyldro rhyngwaldol a welodd nifer o genhedloedd eraill yn cael eu rhyddhau o orthrwm ymerodraethol yn ystod y genhedlaeth flaenorol – India, Nigeria, Botswana, Kenya, gwledydd y Carib, gwledydd y Mor Tawel… pwy all feio Gwynfor am gredu mai dyma oedd moment fawr Cymru a’i fod yno yn rhan o’r digwyddiad ac yn cael y fraint o brofi’r wefr, a hynny trwy ddulliau cyfansoddiadol heddychlon? Gellir yn hawdd gredu mai dyma oedd ei dynged.

Meddyliwch y siom dybryd felly a gafodd ef a’i gyfoedion yn dilyn canlyniad refferendwm 1979. Nid yn unig efo’r canlyniad, ond hefod natur y canlyniad. Chwalfa. Crasfa. Siom yn y Blaid Lafur yn enwedig yn dilyn ymgyrch fradwrus a brwnt Neil Kinnock a’i debyg.

Does dim amheuaeth y byddai ysbryd Gwynfor wedi disgyn i fannau isel iawn yn dilyn hyn. A fyddai hyn wedi ei arwain i feddwl am hunan-laddiad, fel y’i gyhiddir gan rai? Na! Nid ymdrech ar hunan-laddiad oedd bwriad Gwynfor wrth ymprydio. Gallai’n rhwydd fod wedi rhoi i fyny a phenderfynu ei fod yn haeddu ymddeoliad tawel ar ôl bywyd o roi a gweithio dros yr achos. Ond nid gwleidydd ‘proffesiynol’ oedd, un a allai ymddeol heb boeni rhagor yn ei gylch. Un a gyflwynodd ei fywyd i gyd i achos cyfiawnder i Gymru ydoedd. Gwyddai Gwynfor yn iawn ei le – gwyddai mai un dyn ydoedd ac nad oedd yr un dyn yn fwy na’r achos cenedlaethol. Roedd yn ddyn hynod ddiymhongar ond pendant. Yr achos cenedlaethol oedd flaenaf yn ei feddwl. Serch hynny gwyddai a deallodd hefyd bwysigwrydd y statws a roddwyd iddo yn dilyn ei weithgareddau fel Llywydd y Blaid a’i Haelod Seneddol cyntaf ar hyd y degawdau, er nad oedd statws o’r fath erioed wedi gorwedd yn gyfforddus ar ei ysgwyddau.

Pe bai wedi rhoi fyny, pa neges fyddai hynny wedi ei roi? Beth fyddai hanes y mudiad a’r achos cenedlaethol wedyn? Na, nid ymdrech at hunanladdiad ydoedd ond gweithred bwriadol i adfer y mudiad a rhoi bywyd newydd i’r achos. Er gwaethaf ei siom dybryd, cynhaliodd ei ffydd ef, ac adferwyd ei ffydd yn ei gyd-wladwyr. Roedd yn rhaid cael ymgyrch symbolaidd ond pwysig. Efallai nad S4C oedd y mwyaf pwysig o achosion y dydd ond, fel gwladweinydd, gwelai y tu hwnt i’r foment honno – roedd ei olygon ef erioed wedi eu gosod ar gyfnod ymhell i’r dyfodol, un nad oedd y mwyafrif o bobl yn medru ei ddirnad na’i ddychmygu, yn wahanol i wleidyddion eraill oedd yn poeni am bethau mympwyol y dydd. Ystyriai sianel deledu fel rhan allweddol o’r darlun cynhwysfawr. Gwleidydd â gweledigaeth ydoedd.

I mi, yr oedd hyn yn allweddol i ail-ddeffro’r ymdeimlad cenedlaethol a fu’n cymaint cyfraniad i lwyddiant 1997 ac at yr egin Senedd sydd gennym heddiw. Roedd dangos i’w gyd-Gymru fod posib ennill brwydrau yn erbyn y rhai a fynnai ein dal i lawr yn symbolaidd a seicolegol bwysig.

Mae hyder yn magu hyder a llwyddiant yn creu llwyddiant medde nhw. Dyma a ddigwyddodd yn yr achos yma. Roedd yn rhaid i rywun wneud rhywbeth cyn i’r achos farw’n llwyr, ac, yn dilyn ei natur, penderfynodd Gwynfor nad oedd am eistedd yn ôl a disgwyl i eraill i wneud y gwaith ond y byddai’n mynd ati a chwistrellu bywyd newydd yn y Mudiad cenedlaethol, a thrwy wneud hynny yng nghenedl y Cymry.

A fyddai rhywun arall wedi medru gwneud hyn? Byddai. Dyn cyffredin oedd Gwynfor ond oedd ganddo genhadaeth anghyffredin iawn yn ei ddydd. Y wers i ni yw fod Gwynfor wedi dewis cymryd ei gyfrifoldeb o ddifri a gweithredu, dewis eraill yw peidio a gwneud hynny. Mae’r gallu yma ynddom ni i gyd i wneud rhywbeth rhyfeddol, y cwestiwn i ni 30 mlynedd yn ddiweddarach yw ydyn ni am gymryd ein cyfrifoldeb o ddifri, yntau a ydyn ni wedi ymgolli’n ormodol ym materion mympwyol y dydd? A oes gennym ni weledigaeth?

 

1 Comment

Comments are closed.