Cymru: ‘pawn’ mewn gem wyddbwyll

Does gen i ddim amheuaeth y bydd penderfyniad Cameron i droi cefn ar y cytundeb Ewropeaidd i sicrhau disgyblaeth ariannol yn niwediol i Gymru.

Mae Cymru i raddau helaeth yn ddibynol ar fod yn rhan o’r prosiect Ewropeaidd er mwyn medru gwella ein safon byw a datblygu ein heconomi gynhenid. Os ydy Cymru’n yn mynd i gynhyrchu fwy o bethau yna y prif farchnad – yn ol y gwybodusion – yw’r Undeb Ewropeaidd. Os ydy’n cymunedau gwledig am barhau i fod yn gymunedau amaethyddol, gyda’r budd economiadd, cymdeithasol, a diwyllianol a ddaw yn sgil hynny yna mae’r drefn Taliadau Amaethyddol bresenol o fudd i ni, ac mae bwriad y Llywodraeth Geidawdol Lundeinig i ddod a’r drefn honno i ben am fod yn hynod niweidiol. Os ydym am barhau i gael buddsoddiadau i’n cymunedau tlotaf trwy gynlluniau cyd-gyfeirio yna rhaid wrth fod yn rhan ganolog o’r prosiect Ewropeaidd.

Mae’r egwyddor ganolog yma o wledydd a chymunedau llewyrchus yn cynorthwyo’r rhai llai llewyrchus yn un nobl, ac rwy’n awyddus i weld Cymru yn chwarae ei rhan ynddi.

Mae penderfyniad Cameron i wrthod Cynllun Disgyblaeth Ariannol Ewropeaidd felly am fod yn niweidiol i Gymru.

Ond er mwyn bod yn rhan o’r prosiect yma mae angen i ni gefnogi Cynlluniau Merkel a Sarkozy i orfodi trefn arianol llym ar wledydd sydd mewn trafferthion ariannol. Mae’r drefn newydd yma, o’i weithredu, am olygu gweithwyr sector cyhoeddus yn colli eu swyddi, taliadau cymdeithasol yn cael eu cwtogi ayb – yn debyg iawn i’r hyn sy’n digwydd ym Mhrydain ar y foment. Rhyw fath o Osborne-Lite, os liciwch chi.

Rwy felly yn cael fy hun mewn sefyllfa anodd. Rwy’n cefnogi’r egwyddor o Undeb Ewropeaidd gyda phawb yn cyd-ranu a chyd-weithio; rwy’n gweld budd yr UE i Gymru; ond fedra i ddim cefnogi cynllun sydd am fygwth swyddi a thaliadau cymdeithasol miliynnau o bobl ar draws Ewrop a hynny am resymau y tu hwnt i’w rheolaeth nhw.

A dyma’r broblem gyda chynllun Merkel a Sarkozy.

Mae’n siwr y bydd nifer ohonoch yn cydweld a’u dadl na ellir gadael i wledydd megis Groeg orwario a dibynu ar wledydd fel yr Almaen i’w digolledi drosodd a thro. Ac rwy’n derbyn hyn ac mae’r cynllun yn mynd i’r afael a hynny. Os yw gwlad megis Groeg yn dechrau gor-wario yna bydd gorfodaeth arnyn nhw i gwtogi.

Ond dyd’r Cynllun ddim yn mynd i’r afael a’r cwestiwn creiddiol o PAM fod gwledydd megis Groeg yn gor-wario a chael ei hun yn y fath bicil arianol?

Mae yna ddigon o gyfoeth yng Ngwlad Groeg. Y drafferth yw fod y mwyafrif o’r cyfoeth y mae Groeg wedi ei gynhyrchu wedi ei gorlanu gan ganrhan bach iawn o’r boblogaeth ac yn eistedd mewn banciau yng ngwledydd megis y Swistir. Ar ben hynny mae rheolaeth ariannol Groeg yn golygu ei fod yn hawdd i bobl osgoi talu cyfranau sylweddol o’u trethi. O ganlyniad does gan y Llywodraeth ddim o’r arian disgwyliedig i ariannu ei rhaglen lywodraethol. Nid yw’r miliwnyddion Groegaidd (nifer ohonynt yn byw hanner eu hamser ym Mhrydain) wedi dioddef nemor ddim yn ystod y trafferthion diweddar, trigolion gyffredin Groeg sydd wedi dioddef yn enbyd gyda, er enghraifft, treth eiddo yn unig yn cymryd dros hanner incwm pensiynwyr y wlad, a hynny ar eiddo bychan iawn.

Felly tra fo Cynlluniau Merkel a Sarkozy yn mynd i’r afael a’r symptomau, mae’n nhw’n osgoi yn llwyr yr achos.

Mae Ffrainc mewn peryg o ddisgyn i fewn i drafferthion economaidd dybryd dros y misoedd nesaf. Byddai cynllun o’r fath wrth gwrs o fudd gwleidyddol i Sarkozy. Gallai weithredu toriadau llym ar y pwrs cyhoeddus yno gan roi’r bau am hynny ar reolau ariannol Ewropeaidd newydd. Mae’n sicr am fod o fudd i Merkel yn wleidyddol gan olygu eu bod hi’n gallu dweud wrth eu hetholwyr llafar yn yr Almaen na fydd y wlad honno’n gorfod ariannu gwledydd eraill Ewropeaidd i’r un graddau byth eto.

Cynllun gwleidyddol yw hwn wedi cael ei greu er mwyn diwallu anghenion gwleidyddol prif wleidyddion Ewrop. Wrth gwrs does gan bobl Gwlad Groeg na’r Eidal ddim dweud yn y peth oherwydd nid gwleidyddion etholedig sydd yn trafod ar eu rhan ond yn hytrach ‘technocrats’ an-etholedig sydd yn edrych ar y peth yn nhermau elw a cholled nid impact cymdeithasol.

Mae Cameron wrth gwrs yn chwarae gem wleidyddol hefyd.

Y rhai hynny sy’n dioddef yn hyn oll, eto fyth, yw’r gwanaf, y tlotaf, a’r mwyaf methedig – gyda Chymru yn eu plith.

Os ga i ddyfynu’r Tystion:

“Dwi methu diodde’r twyll, dwi’n teimlo fel rhan mewn gem o wyddbwyll.”