Mae’n ymddangos fel fod gan bawb farn ynghylch beth sydd wedi mynd o’i le ac, yn achlysurol, beth sydd wedi mynd yn iawn gyda Plaid Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r ffaith fod gymaint o drafod wedi bod ar bwnc cyfeiriad a dyfodol y Blaid yn awgrymu i mi fod nifer fawr o bobl yn poeni amdan y Blaid a hynny am eu bont, os nad yn uniongyrchol, yna yn anuniongyrchol yn cefnogi’r Blaid ac yn awyddus i’w gweld hi’n llwyddo – neu rhyw fesur o lwyddiant oleiaf.
Yn hynny o beth tybed a fyddech gystal a rhoi munud o’ch amser i mi. Rwy’n edrych i fewn i ddulliau cyfathrebu y Blaid: cyfryngau torfol (papurau newydd, radio, teledu); mewnol; technoleg fodern (rhwydweithio cymdeithasol, blogiau, gwefannau etc); ar lafar (geirda etc) ac unrhyw math arall o gyfathrebu gan neu am y Blaid.
Byswn i wrth fy modd pebai chi’n gallu rhoi eich barn, awgrymiadau ac engrheifftiau o arfer da yr ydych yn credu y gallai fod o fudd i Blaid Cymru trwy wneud sylwad isod neu trwy fy e-bostio: mabonapgwynfor@gmail.com
Diolch o galon.
Nid y cyfathrebu yw’r broblem o bosib……ond y diffyg neges.