Chwenychu Grym

Pwy ohonoch chi glywodd neu ddarllenodd araith Ed Miliband i gynhadledd flynyddol y Blaid Lafur rai wythnosau yn ol? Roedd ganddo rai syniadau pwerus i herio y pliwtocratiaeth Prydeinig, ac rwy’n ei longyfarch am leisio’r syniadau yma.

Ond yr hyn sydd yn fy mhoeni yw ymateb y cyfryngau a sylwebyddion gwleidyddol i’r araith.

Tra fo nifer yn cydnabod ei fod wedi gosod gweledigaeth (lled) sosialaidd gerbron, yr ymateb cyffredinol oedd na fyddai Tony Blair wedi traddodi araith o’r fath ac nad oedd yn debygol o ennill etholiadau gydag areithiau tebyg.

Dyma wendid mawr ein gwleidyddiaeth heddiw.

Ymddengys mae’r wobr fawr yw ennill etholiad.

Ond ennill i beth?

Efallai na fydd ei blaid yn ennill etholiadau trwy hyrwyddo syniadaeth o’r fath. Ond onid rôl ei blaid wedyn yw ennill pobl drosodd i’r weledigaeth a’r syniadaethau yma?

Ennillodd Tony Blair dair etholiad cyffredinol Prydeinig, do, ond beth wnaeth e gyda’r tair tymor a gafodd mewn grym? A lwyddodd ef a’i gabinet mewn gwirionedd i drawsnewid bywyd pobl Prydain? Yr unig wir wahaniaeth parhaol hyd y gwela i yw ei fod wedi gwneud bywyd yn llawer mwy peryglus ac wedi sicrhau fod y cyfoethog hyd yn oed yn gyfoethocach!

Ai dyma pam ein bod ni’n ethol gwleidyddion, er mwyn ennill grym?

Cymharwch hyn gyda Plaid Cymru. Dydi’r Blaid erioed wedi bod mewn grym yn San Steffan – a byth yn debygol o fod, heb son am chwennychu grym yno! Ychydig iawn o etholiadau ennillodd Plaid Cymru rhwng 1925 ac 1997. Ond mae hanes Cymru wedi newid yn llwyr o ganlyniad i Blaid Cymru.

Os daw grym gwleidyddol i’n rhan yna rhaid manteisio ar y cyfle i weddnewid Cymru er gwell. Ond dyliwn ochel rhag chwenychu grym. Dydy grym yn eu hunan yn cyflawni dim. Syniadau a gweledigaeth ac ennill pobl drosodd sydd angen. Ennill y ddadl syniadaethol.

‘Hearts & Minds’ chwedl George Bush – a phwy fyse’n meddwl fod ganddo e unrhyw wersi i’w ddysgu i ni!

1 Comment

  1. ‘tasa pleidleisio yn newid unrhywbeth basa nw yn ei wneud yn anghyfreithlon’ Emma Goldman.
    Ma Cymdeithas wedi newid lot mwy ar gymru na Plaid cymru… lawr i ymgyrchoedd a pobol yn cymryd rhan mewn democratiaeth go iawn ydio… dim rwtsh party politics

Comments are closed.