Anniddigrwydd ieuenctid

Mae hen ffrind Ysgol i mi bellach yn byw yn Sbaen. Ces i neges ganddi heddiw, ac rwy’n credu ei fod yn haeddu cynulleidfa mwy na’r criw ffrindiau yn unig. Dyma ni:

Soi’n gwybod os chi di gweld hwn ar y teledu (posib iawn nad ydych chi, o beth dwi’n clywed) ond mae canol Madrid we troi mewn i wersyll enfawr gyda phobl ifanc yn protestio yn erbyn corruption, y creisis a mwy neu dim wedi cael digon yw digon o’r sefyllfa (5 miliwn yn ddiwaith). Mae’n ddiddorol ystyried mai nid grwpiau anti-system sy wedi trefnu hwn, er eu bod yn bresennol, ond lot o bobl yn ei 20au a’i 30au, sy’n cael trafferth mawr ffeindio gwaith ac wedi colli ffydd yn y system wleidyddol sy’ gennym ni draw fan hyn. Mae gennym ni etholiadau dydd Sul – edrych yn debyg bod y Ceidwadwyr yn mynd i ennill dros y wlad gyfan a’r llywodraeth Sosialaidd yn mynd i ddioddef yn wael; mae hyd yn oed sôn bod posibilrwyydd y gallant ennill Andalwsia (wedi bod yn Sosialaidd ers 1978) – bydd rhaid aros i weld.
 
Mae’r grwp yn Sol, er hynny, yn trial codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc am bwer eu pleidlais a’u cael i ystyried gwneud pleidlais wag (dy’n ni’n rhoi emlynnau mewn bocs mas fan hyn) i weld os bydd canran uchel yn tynnu sylw’r dosbarth wleidyddol.
 
Os chi moin dilyn e ar Twitter, chwiliwch am yr hashtag #yeswecamp neu #15m

2 Comments

  1. Wast o amser. Dylsai pobl ifanc Catalwnia a Gwlad y Basg fod ar y strydoedd yn mynnu annibyniaeth nid newid bach yn llywodraeth Sbaen.

    Mae’r brotest yma ond yn cadarnhau mai gan Sbaen dylsai’r polisi economaidd fod ac nid Catalwnia neu GyB. Petai Catalwnia neu GyB yn rhydd byddai mwy o waith i bobl ifanc. Ond wrth gwrs, wnaiff Sbaen ddim gadael i’r Basgwyr a’r Catalanwyr gynnal refferendwm democragaidd ar annibyniaeth.

    Mae’r brotest jyst yn ffrynt mwy trendi, asgell chwith ar Espaniolista.

    Cofier – fel ym Mhrydain, Portiwgal a Groeg, llywodraeth Sosialaidd sydd wedi creu’r llanast economaidd yma.

  2. Gweler sut byddai Catalwnia’n well off petai’n annibyniol yn lle gofyn yn neis am newid llywodraeth ym Madrid.

    http://www.catalonianewstate.com/

    t’beth, y PP fydd yn ennill etholiad nesa Sbaen. Pe wneith y protestwyr wedyn? Mwy o drydar?! Dim ond annibyniaeth all dod â gwell economi i’r Catalanwyr a’r Basgwyr.

Comments are closed.