Fedra i ddim deall pam fod Cyngor Gwynedd yn meddwl fod cau Ysgol Gynradd yn un o gymunedau Cymreiciaf Cymru yn syniad da.
Mae gan y Blaid hanes hir a balch o sefyll i fyny dros y rhai bychain ac amddiffyn cymunedau Cymru. Mae arna i ofn nad yw’r penderfyniad yma i gau Ysgol y Parc yn perthyn i’r traddodiad hwnnw.
Dyma araith y draddodais mewn rali i gefnogi Ysgol y Parc yr haf diwethaf. Mae’r un mor berthnasol heddiw ag ydoedd bryd hynny. Dyma hefyd fraslun o fy safbwynt ar Addysg, sy’n atseinio’r hyn a ddywedais yn yr araith.
Mae’r rhai hynny sydd o blaid y cau yn cefnogi’r penderfyniad am amryw o resymau. Rwy’n parchu’r unigolion hynny, ac yn credu eu bont oll, yn eu hamryfal ffyrdd, wedi gwneud tyrn o waith dros Gymru. Ond rwy’n ofni eu bont wedi dod i’r penderfyniad anghywir y tro yma.
Rwy wedi trafod gyda nifer sy’n dweud wrthyf fod 19 o ddisgyblion yn llawer rhy fychan, ac yna yn fy herio i ddweud faint o ddisgyblion sy’n nifer rhy fychan.
Yn gyntaf gadewch i ni ddilyn rhan gyntaf y ddadl i’w therfyn synhwyrol. Fel cynifer o’r dadleuon eraill mae’n ddadl economaidd. Cost y ddarpariaeth. Ond os yw 19 yn nifer rhy fychan onid yw’r gymuned yn rhy fychan hefyd? Onid yw’n fwy costus casglu ysbwriel mewn cymunedau gwledig diarffordd, er enghraifft? Dylid hefyd tynnu yn ol y ddarpariaeth o wasanaethau eraill, o ddilyn y ddadl i’w therfyn.
Ymddengys fel ein bod ni gwybod pris pob dim, ond gwerth dim byd. Y cwestiwn sy’n rhaid ei ofyn yw beth yw gwerth yr Ysgol i’r Gymuned?
Ynghylch ail ran y ddadl hon, sut mae 19 yn nifer rhy fychan? Beth yw’r nifer derbyniol? Y nifer derbyniol, i fy meddwl i, yw’r nifer y mai’r gymuned sy’n byw yno yn ei weld yn dderbyniol. Ysgol gymunedol ydyw, a dylai penderfyniadau ar ddyfodol y gymuned honno orwedd yn nwylo’r gymuned.
Mae eraill yn llawer mwy parod i ddadlau mai cost yw’r prif reswm, heb guddio’r ddadl i fyny wrth son am niferoedd disgyblion neu safon addysg. Mae cynnal ysgol fach fel Y Parc yn llawer rhy ddrud, meddent. Yn ol y Cyngor byddant yn arbed £70,000 trwy gau’r ysgol, gan ddenu grant o dros filiwn o bunnoedd o’r Llywodraeth yn ganolog i ddatblygu Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn. Arbediad? Yn ddi-os mae buddsoddiad o’r fath yn Ysgol OM Edwards i’w groesawi. Ond ai’r pris am hyn yw cau Ysgol y Parc? Yn ogystal a hyn, byddai’r cynnig o ffederaleiddio gyda Ysgol y Berwyn ac ysgolion bychain eraill y Plwyf wedi sicrhau arbedion sylweddol, o bosib yn £70,000 – ond diystyrwyd y cynnig yma. Mae Ysgol OM Edwards yn sefydliad arbennig ac yn darparu addysg heb ei ail, a byddai’n wych o beth petai’n derbyn grant i ddatblygu’r ysgol. Mae Ysgol y Parc hefyd yn ysgol arbennig sy’n haeddu bod.
Mae rhai, yn enwedig o fewn y sector addysg, wedi dadlau ynghylch yr anhegwch fod plant Ysgol y Parc yn cael £x yn fwy wedi ei wario na phlant ysgolion trefol. Wn i ddim beth yw’r union ffugwr, ond mae’n creu argraff syfrdanol. Ond eto, nid dyma’r pwynt.
Yn gyntaf nid arian cyfred (currency) mo plant. Nid marchnad mo ysgolion. Dylai plant Ysgol y Parc ddim cael eu cosbi am ffaeleddau trefn ariannu addysg. Does dim dweud ganddyn nhw yn y peth. Mae’n codi cwestiwn amgenach ynghylch natur ariannu addysg – un y dylid fynd i’r afael a hi yn fuan, ond yn y cyfamser pam cosbi plant cymunedau gwledig oherwydd ein bod yn dilyn trefn ariannu addysg Thatcher?
Mae’r ddadl yma hefyd yn disgyn i fewn i’r drefn Brydeinig fiwrocrataidd o gyfyngu pob dim i adranau penodol. Mae addysg, yn ol y drefn hon, i gael ei hystyried o fewn ffiniau yr Awdurdod Addysg Lleol yn unig. Does dim ystyriaeth o rol amgenach addysg yn ein cymdeithas; o’r rol ychwanegol y gall adnoddau addysg eu chwarae yn y ddarpariaeth o wasanaethau eraill gan y Cyngor.
Mae hefyd, i mi, yn awgrymu cymhelliad mwy llechwraidd, sef mai buddsoddiad arianol ydyw er mwyn, yn y pendraw, cael ad-daliad arianol. Pwrpas addysg, i mi, yw nid i ddatblygu ffatri i gynhyrchu gwneuthurwyr arian i’n cyfoethogi yn faterol, ond yn hytrach i greu pobl cyflawn fydd yn cyfoethogi ein cymunedau.
Mae eraill yn dangos angrhediniaeth ein bod ni’n pryderi am ddyfodol y Parc, gan ofyn beth sy’n gwneud Y Parc mor wahanol i gymunedau eraill? Maent yn cyfeirio at Gwmtirmynach, er enghraifft, cymuned Cymreig ym Meirionnydd sy’n ffynni ond heb ysgol.
Yr hyn sy’n arbennig am Y Parc, yw mae Y Parc yw hi. Yr hyn sy’n arbennig hefyd am Gwmtirmynach yw mai Cwmtirmynach yw hi. Yr hyn sy’n arbennig am bob un cymuned yw’r gymuned ei hun.
Nid dadlau yn erbyn cau’r ysgol er mwyn bod yn ots ydw i ac eraill, ond oherwydd mai dyma yw dymuniad y gymuned. Yn yr un modd yng Ngheredigion penderfynodd pentrefi yno mae’r ffordd gorau ymlaen oedd creu ysgol ardal yn Banc Sion Cwilt. Penderfyniad y cymunedau oedd hyn a wnaed wedi dwys ystyried y ffordd ymlaen a beth oedd orau iddyn nhw. Rhaid parchu hynny.
Yn anffodus, yn ogystal a hyn, tra fo Cwmtirmynach yn engrhaifft o eithriad clodwiw i’r rheol, mae gormod lawer o enghreifftiau o bentrefi sydd wedi dioddef yn ofnadwy oherwydd cau ysgolion. Rhaid ond edrych i fro fy nheulu, Dyffryn Tywi, a gweld hanesBethlehem, Gwynfe, Myddfai, Llansadwrn, Llanddeusant a nifer o bentrefi eraill.
Fe wnaeth cymuned Y Parc ddatganiad clir eu bont yn awyddus i gadw’r ysgol er mwyn eu plant a’r gymuned. Ein dyletswydd ni yw ffeindio ffordd o barchu’r dymuniad yma.
Yn olaf, dyma ddyfynu rhan o’r llythyr yr anfonais at Gyngor Gwynedd. Sori os oes yna ail-adrodd:
Fel sydd wedi ei nodi eisioes mae safon addysg Ysgol y Parc yn rhagorol. Ond yn fwy na hyn mae’n rhaid i ni gofio fod addysg plant yn llawer mwy na’r addysg academaidd ffurfiol a gynigir o fewn i furiau ysgol. Mae’r ymwneud â’u ffrindiau a’r gymdeithas leol mewn digwyddiadau all-gyrsiol yn gymaint rhan o addysg a datblygiad plentyn yn ogystal. Pe collir Ysgol y Parc, gyda’r disgyblion yn gorfod teithio i Lanuwchllyn, bydd y pentref hefyd yn colli allan ar yr amryw o weithgareddau cymunedol a ddaw yn sgil presenoldeb Ysgol y Parc. Gan fod y disgyblion yn byw filltiroedd o Lanuwchllyn byddai’n anos iddynt ddatblygu bywyd cymdeithasol naturiol gyda disgyblion Llanuwchllyn, gan yn hytrach fyw bywydau unigolyddol ym mhentref y Parc ond yn cael eu bysio i fewn i Lanuwchllyn yn y boreau. Byddai’r Parc yn colli’r asbri a’r bywyd ifanc bywiog a ddaw o gael Ysgol Gynradd Gymunedol, gan ddatblygu i fod yn ddim mwy na chasgliad o aneddleoedd, gyda’r bywyd cymdeithasol yn cael ei gynnal yn Llanuwchllyn a’r Bala.
Adnodd cymunedol yw’r Ysgol (nid Brics a Mortar i’w hystyried o fewn cyllideb yr adran addysg yn unig), sydd yn cael ei ddefnyddio yn llwyddianus gan y gymuned. Byddai cau’r ysgol yn tanseilio gweithgareddau cymunedol gan olygu eu bont am fod yn y fantol. Mae sôn y byddai’r Awdurdod yn edrych i liniaru yr effaith negyddol y byddai cau’r ysgol yn ei gael ar fywyd y pentref (cyfaddefiad y byddai cau yn niweidiol), ond byddai gwneud hynny ar ôl cael gwared o’r ysgol yn ffug ac yn sicr o fethu. Byddai fel rhoi trawiad ar y galon bwriadol i berson holliach ac yna ei gynnal yn fyw trwy gynhaliwr bywyd artiffisial – ar rhyw bwynt bydd yn rhaid tynnu’r plwg. Rwy’n ofni nad yw’r Awdurdod Addysg yn deall gwerth nac ychwaith rôl cymdeithasol Ysgol, yn enwedig mewn pentref bychan gwledig, heb ystyried pethau elfennol fel rhieni yn cyfarfod a chael sgwrs wrth lidiart yr ysgol ar ddiwedd y dydd, a digwyddiadau all gyrsiol eraill sydd yn tynnu’r gymdeithas at ei gilydd gan ddefnyddio’r Ysgol fel y glud.
Yn wir er gwaethaf y ffugurau mympwyol sydd yn rhagdybio nifer y disgyblion, y tebygrwydd yn ôl trigolion y pentref yw y bydd Ysgol y Parc yn tyfu o ran nifer disgyblion dros y blynyddoedd nesaf. Mae cael Ysgol yn y gymuned yn apelgar i deuluoedd ifanc, ac yn ein brwydr parhaol i sicrhau dyfodol ein cymunedau (yn enwedig y rhai Cymraeg) yr un ddadl cyson a roir yw’r ffaith fod ein hieuenctid yn ymadael! Byddai cau Ysgol y Parc ond yn atgyfnerthu’r tueddiad yma gan roi rheswm arall i deuluoedd ifanc adael y gymuned.
Rwy’n deall fod yna ddadl ynghylch pris arianu disgyblion Ysgol y Parc. Serch hynny mae hyn unwaith eto yn atgyfnerthu y pryder mai ystyrion arianol sydd y tu ôl i’r cynnig, ac hefyd y dangos y diffyg gwerth a roir ar elfenau eraill o bwys a gynnigir gan yr Ysgol. Erfyniaf ar y cyngor i ddechrau edrych ar addysg gymunedol fel pwnc traws-adranol. Mae gwerth Ysgol y Parc i’r gymuned honno gymaint yn fwy na hafaliad arianol y pen yn unig. Peidiwch a chael eich dallu gan y ffigurau arianol a phris y pen – mae gwerth amgenach i’r Ysgol nag addysg academaidd ffurfiol nad sy’n cael ei werthuso yn yr hafaliadau arianol.
Mae’r opsiwn o ffederaleiddio yn un deniadol sydd a llu o fanteision. O ffederaleiddio’r ysgol gyda Ysgol y Berwyn ac ysgolion cynradd eraill lleol gellir gwneud arbedion ariannol sylweddol, gyda’r pwrcasu a’r costau rheoleiddiol yn cael ei wneud o Ysgol y Berwyn ar ran y ffederasiwn. Byddai hyn yn ateb y broblem o arbedion ariannol, cyflogi penaethiaid, ac yn cadw addysg gynradd yn y gymuned.
Mae ein pentrefi gwledig yn marw ar raddfa gyflym iawn gyda siopau, tafarndai, neuaddau cymunedol a chapeli yn cau. Mae’r Parc mewn sefyllfa freintiedig i gael adnodd mor werthfawr ag ysgol all hefyd ddyblygu i fod yn neuadd gymunedol, ffreutur cymunedol, maes chwarae cymunedol, ymhlith llu o bethau eraill sydd o fudd i’r gymuned. Efallai yn wir nad yw’r adnodd yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial, ond nid cosbi’r gymuned a chau’r ysgol yw’r ateb, ond yn hytrach datblygu cynllun cymunedol sydd gyda’r adnodd gymunedol werthfawr yma yn graidd iddo.
Yn olaf rhaid cofio mai y Parc yw un o gadarnleoedd y Gymraeg gyda’r Gymraeg a’r diwylliant byw sydd ynghlwm â’r iaith yn fwrlwm yn y pentref. Mae’r pentref yn atseinio gyda iaith goeth lafar y plant wrth iddyn nhw gyraedd yr ysgol, chwarae yno, a gadael gyda’r prynhawn. Mae hyn oll o dan fygythiad o gau’r ysgol.
Mae yna ffordd arall, amgenach a mwy cadarnhaol ar gael, ond rhaid yn gyntaf penderfynu edrych ar sefyllfa yr Ysgol fel cyfle yn hytrach nag fel problem.
Cyfraniad da iawn Mabon, a mentraf ddweud mai unigolion fel ti a Swel sy’n cynnal hynny o hygrededd sydd gan y Blaid yn y cymunedau hynny sy’n teimlo eu bod tan fygythiad parhaus.
Un ffaith syml i ategu mor dwyllodrus yw’r golwg biwrocrataidd ar y ddadl hon. Dywedir ei bod yn costio £7000 y pen i addysgu’r 19 0 ddisgyblion Y Parc. Ac eto, os gwireddir yr hyn a ddywed y trigolion, fe gostiai ond £4925 y pen i addysgu’r 27 disgybl a fuasent yno mewn 3 blynedd. Mae’r ffigur i’w weld yn drawiadol yn llai – ac eto union yr un gwariant ydyw ar yr ysgol. Ymarferiad biwrocrataidd llwyr.
Mae yn gywilydd i’r cyngor eu bod yn bwriadu cau Ysgol Y Parc, ond mae angen i bawb wybod mai cynghorwyr Plaid Cymru yw’r rhaisydd yn cau ein ysgolion, cartrefi ein trigoloion hyn, toiledau cyhoeddus ac yn y blaen. Nid Cyngor Gwynedd sydd yn gweud y toriadau, ond swyddogion y cyngor a Plaid Cymru sydd wedi llwyr colli eu ffordd, ac sydd yn brysur yn bradychu pobl Gwynedd.