Wrecsam – Dinas neu tref?

Y cwestiwn sy’n poeni trigolion Wrecsam a’r cylch ar y foment yw a ddylai Wrecsam wneud cais i gael bod yn ddinas. 

Mae amryw o bobl ddylanwadol wedi lleisio eu cefnogaeth i gael statws dinas – yn wleidyddion ac yn gynrychiolwyr busnes o’r rhanbarth. 

Rwy’n erbyn y cynnig, ac yn credu na fydd o unrhyw fudd sylweddol i’r ardal. 

Mae’r dadleuon o blaid y statws yn ymwneud â’t tŵf economaidd honedig a ddaw yn ei sgîl. 

Dyw hyn ddim yn dal dŵr. 

Mae Llanelwy, Tŷ Ddewi, Aberhonddu a Bangor oll yn ddinasoedd (yn rhinwedd y ffaith eu bont yn cartrefi Cadeirlan nid oherwydd siartr frenhinol) ac nid yw’r un o’r trefi yma yn byrlymu a swyddi neu’n ganolfanau economaidd. 

Rhoddwyd statws Dinas i Gasnewydd ddeng lynedd yn ôl, a’r wythnos diwethaf fe gynghorodd arweinydd Ceidwadol Casnewydd i arweinydd Rhyddfrydol Wrecsam i fynd am statws dinas (mae rhaid fod perthynas y Tôris a’r Rhyddfrydwyr yn ddyfnach lawer na’r gwen arwynebol rhwng Cameron a Clegg!). 

Nawr, gan anwybyddu y propoganda a’r troelli, meddai arweinydd Dinas Casnewydd fod statws dinas wedi eu cynorthwyo i ddatblygu isadeiledd y ddinas, yn benodol felly y stesion. Byddai wedi bod yn fwy cywir i ddweud fod y stesion wedi cael ei ail-ddatblygu oherwydd y Cwpan Ryder a oedd yn cael ei gynnal yn y Celtic Manor, ychydig i lawr y ffordd. 

Cyfeiria at y Velodrome – rwy’n barod i gael fy nghywiro ar hyn, ond yn ôl fy nealltwriaeth i cafodd y Velodrome ei adeiladu yn 2003, flwyddyn ar ôl i Gasnewydd ennill statws dinas, byddai’r arianu a’r caniatâd cynllunio wedi cael ei sicrhau ymhell cyn ennill statws dinas felly. 

Honnir fod statws dinas wedi denu busnes yno. Mae hyn yn anhebygol. Mae busnes yn cael ei ddenu nid oherwydd statws dinas ond oherwydd, ymhlith rhesymau eraill, cost cyflogaeth. Os oes yna bwll llafur parod yno sydd yn barod i wneud y gwaith am bris rhatach na thref/dinas arall yna y tebygrwydd yw y bydd y cwmni am symud yno. Does a wnelo hyn ddim byd â statws dinas, ond mae’n feirniadaeth lem o bolisi economaidd y llywodraeth Brydeinig yn canoli tŵf economaidd yn ne Ddwyrain Lloegr. Mae ffactorau eraill ar waith hefyd, wrth reswm – agosatrwydd at ganolfanau grym economaidd a gwleidyddol, gwerth treth busnes, a grantiau allau fod ar gael yn eu plith, ond nid statws dinas.

Mae’r arweinydd hefyd yn honni fod statws dinas wedi eu galluogi i ddenu nifer o gyflogwyr mawr o’r sector gyhoeddus hefyd. Serch hynny, ychydig ddyddiau ar ôl gwneud y sylwadau yma cyhoeddodd y Centre for Cities eu hymchwil blynyddol mewn i ddinasoedd Prydain. Dyma a ddywedodd am Gasnewydd:

“…five vulnerable cities which may not feel the full benefits of national economic recovery for some time: Sunderland, Liverpool, Birkenhead, Swansea and Newport. These places will be affected more by Government spending cuts, given they have low skill levels and levels of business activity, more people employed in the public sector, and more people claiming unemployment benefits.  They will need additional financial support from central government, and a realistic local plan of action.”

Yn amlwg mae hyn yn newyddion drwg i’r dinasoedd yma, ac fel un o gyn-feibion Abertawe mae’n fy nhristau i glywed am drallod dinas sydd yn parhau i fod yn agos iawn i nghalon. Nid llawenhau ydw i yma, i’r gwrthwyneb, rwy’n dweud hyn oherwydd ei fod yn berthnasol i Wrecsam heddiw. 

Pwy yw arweinydd Ceidwadol Casnewydd i roi gwersi i Wrecsam? Yn 2009 caewyd i gweithfeydd dur Llanwern i lawr gyda cholled o 1000 o swyddi; cafodd Lloyds wared ar 200 o weithwyr yno; torrodd Panasonic ei gweithlu yn sylweddol; a blwyddyn diwethaf cafwyd y cyhoeddiad fod y Swyddfa basport am gau yno gan wneud 300 yn ddi-waith. Dyma’r enghreifftiau amlycaf o’r newyddion drwg y mae Casnewydd wedi gorfod ei ddioddef yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn unig. A gafodd statws dinas unrhyw effaith gadarnhaol? Naddo.

Fel y soniais, nid yw ail adrodd trallod Casnewydd yn rhoi dim boddhad i mi. Efallai yn wir i statws dinas ddenu datblygiad siopa gwerth £200m i ganol y ddinas gyda siop enfawr Debenhams newydd yng nghanol y bŵm . Ond pa effaith gafodd hyn ar fasnachwyr bach lleol? 

Gall mân werthu ddim cynnal economi. Mae llwyddiant mân werthu a’r sector gwasanaethu yn llwyr ddibynol ar lwyddiant y sectorau eraill i gynhyrchu gan roi’r incwm angenrheidiol ym mhocedu’r gweithlu i wario ar y gwasanaethau yma.

Yn lle gwario ein hadnoddau prin ar gais i fod yn ddinas dylswn edrych ar ddatblygu strategaeth i ddatblygu y sgiliau a’r adnoddau sydd eisioes ganddom ni. Mae cynhyrchu deunydd technegol eisioes yn gyflogwr gwerthfawr yn yr ardal, ac mae ganddom y sgiliau a’r wybodaeth i sicrhau fod Wrecsam yn arwain yn y maes. Mae’n ganolfan dysg gyda thraddodiad balch o ranu sgiliau rhwng sefydliadau academaidd a diwydianol, gan ddatblygu prosiectau blaengar. Mae’r ardal yn cynhyrchu peth o’n bwydydd gorau, ac mae yma’r potensial i gynhyrchu ynni. Does a wnelo hyn ddim â statws dinas, ond mae angen gweledigaeth ac arweiniad gwleidyddol i’w wireddu. 

Rwy’n cynnig fod Cyngor Wrecsam yn rhoi’r gorau i unrhyw syniad gwag am ennill statws dinas gan edrych i ddatblygu gweledigaeth fydd yn dod a balchder yn ôl i’r dref unwaith yn rhagor yn lle hynny.

Gallwch arwyddo y ddeiseb yn erbyn cy syniad o greu Dinas Wrecsam yma.

Advertisements

One thought on “Wrecsam – Dinas neu tref?

  1. Pingback: Tweets that mention Wrecsam – Dinas neu tref? | Blog Mabon -- Topsy.com

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s