Y gwir yn brifo

Mae ymgyrch y refferendwm i roi’r hawl i Gymru ddeddfu yn y meysydd datganoledig heb orfod gael caniatad San Steffan yn gyntaf wedi dechrau, gyda’r Ymgyrch Ie wedi lawnsio yn ffurfiol nol ar ddechrau’r mis yma a Gwir Gymru (neu Cymru Wir fel y mae’n nhw’n galw eu hunen!) wedi lawnsio eu hymgyrch Na yr wythnos hon.

Ond mae yna dwist, mae Gwir Gymru wedi dweud nad ydyn nhw am gael eu penodi fel yr Ymgyrch Na ffurfiol gan honni fod hynny oherwydd nad ydyn nhw am wastraffu arian y trethdalwr ar gael ymgyrch swyddogol wedi ei arianu gan y pwrs cyhoeddus (dadl ddwl, oherwydd byddai hyn yn arbed £140k tra fod’r drefn LCO bresenol yn costio miliynnau – mwy am hyn wedyn).

Rwtsh.

Rwy wedi datgan ers hydoedd bellach mai’r rheswm pam nad ydy Gwir Gymru am gael ymgych ffurfiol ‘Na’ yw am y byddai hynny bron yn sicr yn colli’r bleidlais iddyn nhw. Pam ydw i’n dweud hynny? Wel, o dan reolai y Comisiwn Etholidaol mae’n rhaid i ymgyrchoedd swyddogol ymgyrchu ar sail y ffeithiau, sef hyd a lled cwestiwn y refferendwm.

Yn yr achos yma y cwestiwn yw a ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael yr hawl i lunio mesurau (deddfu) yn yr ugain maes datganoledig (amaeth, trafnidiaeth, addysg, iechyd, diwylliant, amgylchedd ayb) yn annibynol, yntau a ddylid cadw’r system LCO bresenol, gyda San Steffan yn cymeradwyo a rheoli hyd a lled mesur/deddf.

Mae Gwir Gymru serch hynny yn awyddus i ymgyrchu ar sail eu honiad fod hyn am fod yn gam tuag at annibyniaeth a rhwygo’r Deyrnas Unedig ac eu bont, mewn gwirionedd, am weld dileu y Cynulliad yn gyfangwbl. Fel ymgyrch Na swyddogol byddai ymgyrchu ar sail hyn yn anghyfreithlon, gan nad dyna beth y mae’r refferendwm yn ei ofyn. Felly yn lle gorfod cael eu cyfyngu gan rhyw reolau bondigrybwyll, mae’n nhw’n mynd i fynd ati i ymgyrchu yn ‘answyddogol’ gan olygu y can nhw ledaenu pa bynnag anwireddau y mae’n nhw’n ei ddymuno. Mae’n ymgais fwriadol a sinigaidd i osgoi cyfraith gwlad er mwyn codi ofn ar bobl i bleidleisio Na.

Amlygwyd hyn yng nghyfweliad Rachel Banner o Gwir Gymru ar Dragons Eye neithiwr lle yr honnodd mai cam arall tuag at annibyniaeth byddai pleidlais Ie yn y refferendwm. Mae’r Golwg360 wedi nodi hyn heddiw.

Beth bynnag fo barn rhywun am y ddadl annibyniaeth y ffaith yw nad yw’r refferendwm yma yn mynd i wthio Cymru ddim pellach i lawr llwybr annibyniaeth. Mae’r egwyddor o roi’r hawl i Gymru lunio ei mesurau ei hun – atebion Cymreig i broblemau Cymreig – wedi ei dderbyn eisioes, a hynny yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Cynulliad Cymru wedi cael yr hawl i lunio ei deddfau ei hun ers hynny. Y rheswm pam nad ydy hi wedi gwneud rhyw lawer yw am fod y drefn mor boenus o hir a lletchwith.

Cwestiwn technegol yw’r hyn a roir ger ein bron ar Fawrth 3ydd. Pa system ydyn ni’n credu fydd yn ein gwasanaethu ni orau. Beth bynnag y canlyniad fydd Cymru yn parhau i lunio ei mesurau ei hun wedi Mawrth 3ydd.

Y rheswm y mae’r sefydliad gwleidyddol mor awyddus i weld pleidlais Ie (o bob plaid) yw am eu bont yn gweld fod y drefn bresenol mor aneffeithiol. Mae’n rwystr i lywodraethu’n effeithiol, mae’n rhwystro datblygu polisi a scrwitineiddio effeithiol, ac yn dal pob dim yn ol am flynyddoedd.

Os am weld y Cynulliad yn eu gwedd bresenol yn cyflawni ei photensial ac yn gwasanaethu pobl Cymru yn y modd gorau a mwyaf effeithiol (a chost-effeithiol) mae’n rhaid cael pleidlais Ie ar Fawrth y 3ydd. Dydio’n ddim mwy neu llai na hynny.

1 Comment

Comments are closed.