Wythnos diwethaf fe benderfynodd cyngor Wrecsam i ohirio gwneud penderfyniad ar roi caniatad cynllunio terfynol i gynllun uchelgeisiol i adeiladu tŵr ag arni gerflun o’r Ddraig Goch.
Rwy’n falch mai gohirio penderfyniad ac nid gwrthod y cynllun wnaethon nhw.
Rwy’n mawr obeithio y gwnan nhw roi caniatad iddo.
Mae’n gynllun unigryw heb ddim byd cyffelyb yn unman arall. Mae rhai wedi dweud ei fod yn dwyn ei weledigaeth o gerflun Angel y Gogledd ger Gateshead. Fyswn i’n dadlau fod cynllun y Waun yn well ac hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol.
Yn gyntaf mae’r cerflun am sefyll ar dŵr fydd yn cartrefi cyflwyniadau bywiog a chyffrous o’n hanes ni fel cenedl.
Yn ail mae’n fusnes ynddi ei hun, nid darn o gelfyddyd yn unig fydd hwn i ysbrydoli ac ysgogi myfyrio athronyddol, ond yn hytrach busnes fydd yn cyflogi pobl lleol i hyrwyddo y diwylliant lleol.
Ond mae yna ffactorau eraill ar waith y mae’n rhaid eu hystyried. Dros y ddegawd diwethaf mae Cymru wedi tyfu fel cenedl. Ry’m ni wedi dechrau darganfod ein llais, ac ail ddarganfod ein hunaniaith. Mae yna fwrlwm yma a hyder newydd, ac mae’r ymdeimlad yma o falchder yn ein cenedl i’w darganfod ar draws y wlad.
Ond ar yr un adeg ag yr y’m ni wedi canfod hyder cenedlaethol newydd mae gogledd ddwyrain Cymru wedi gweld tŵf aruthrol mewn datblygu tai, a hyn ar yr un pryd ag y mae gogledd orllewin Lloegr wedi gweld tŵf economaidd sylweddol. Mae’r gogledd Ddwyrain ôl-ddiwydianol, nepell o rai o ddinasoedd mwyaf Lloegr, yn teimlo yr angen i gyfleu eu Cymreictod yn glir i weddill Cymru a’r byd, a pha ffordd gwell na chyda cherflun anferthol o symbol mwyaf eiconig a hynafol Cymru, y Ddraig Goch?
Mae rhai wedi beirniadu’r cynllun am ymdebygu i drincet twristaidd. Efallai’n wir, ond dyma’r math o ddelwedd o ddraig y mae pobl wedi ymgyfarwyddo â hi ers i’r Ddraig gael ei fabwysiadu yn faner cenedlaethol nôl yn 1959, dyma’r ddraig y mae pobl yn cysylltu â Chymru, ac mae gan bobl gogledd Ddwyrain Cymru yr hawl i ddatgan eu bod hwy yn gystal Cymry ag unrhyw un arall, ac yn falch o hynny.
Mae’n ddatganiad unigryw o hyder, a chynllun fydd yn hyrwyddo cof cenedl a meithrin balchder cenedlaethol a hynny yng nghanol ardal magwraeth Glyndŵr.
Wrth gwrs mae nifer o’r rhai hynny sy’n gwrthwynebu’r cynllun yn gwneud hynny nid ar sail gweledol nac ychwaith ar sail economaidd, ond yn hytrach yn yr ymwybyddiaeth o sgîl effaith cynllun fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o Gymreictod yr ardal a’i phobl. Gyda chynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r fath fe welwn dŵf yn yr Iaith a thŵf yn y dealltwriaeth o’n hanes. Piler holl bwysig yn y prosiect i adeiladu cenedl.
Y Ddraig Goch Ddyry Gychwyn meddai’r arfbais Brenhinol, gadewch i ni obeithio hynny!
Efallai mai gogledd Ddwyrain Cymru fydd crud y genhedlaeth nesaf fydd yn arwain y Gymru newydd!