Ysgol Brofiad 1 – Y Sefydliad 0

Rwy wedi ysgrifennu o’r blaen am helyntion S4C, ac mae eraill wedi ysgifennu yn doreithog ar y mater. 

Er gwaethaf y ffaith fod y cyfryngau bellach wedi newid eu sylw i bethau eraill, mae trafferthion y sianel yn parhau, ac mae dyfodol y sianel a’i gyfraniad sylweddol i ddiwylliant ac economi Cymru yn dal yn y fantol, felly mae’n rhaid parhau gyda’r ymgyrchu. 

Ond gadewch i ni gofio yn ôl i fwrlwm mis Tachwedd. Pryd hynny, gyda thrafferthion S4C yn denu sylw cyfryngau Lloegr yn ogystal, roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn sydyn iawn i drio cael clod am y gwaith rhagorol yr oeddwn nhw’n i ei wneud i sicrhau dyfodol y sianel. 

Gadewch i ni ystyried eiriau Glyn Davies AS er enghraifft, 

Watched the Politics Show today, when Alun Cairns, my fellow MP, was in excellent form. Alun has been terrific on this issue (S4C), along with other Welsh Coalition MPs… I can inform readers of this site that without the determination and guile of Welsh Coalition MPs, the future would have looked rather more bleak. 

Nôl ym mis Tachwed roedd pobl yn ymddangos ar y cyfryngau i ddweud wrthym/ein hatgoffa o pa mor galed yr oedd ASau Ceidwadol Cymreig wedi ymladd dros S4C, yn benodol felly Glyn Davies, Guto Bebb ac Alun Cairns. Yr awgrym oedd y byddai pethau wedi bod yn llawer gwaeth hebddyn nhw ac y dyliwn ni fod yn ddiolchgar. 

Yna, hyn gan Glyn Davies eto,

Its a pity so much publicity was given to the non-payment of the licence fee though. This sort of talk makes the lives of political friends of S4C more challenging. 

ac eraill, megis yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn dweud na ddylid gweithredu yn uniongyrchol dros S4C (y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn darllen o’r un llyfr rheolau yn amlwg). 

Dyma wyneb gyhoeddus y ddadl. Dyma’r naratif sydd wedi cael ei gyflwyno i ni, sef fod aelodau parchus y Sefydliad Brydeinig yn gweithio o’n plaid ac na ddylid achosi trafferthion gan y byddai hynny yn gweithio yn ein herbyn. 

Pam mod i’n cyfeirio at yr ymdriniaeth gyhoeddus diweddar yma o drafferthion S4C? Yn syml oherwydd fod yna atsain hanesyddol i’r holl beth, ond fod hanes, diolch byth, yn dysgu gwersi pwysig i ni. 

Rydym ni yn y mudiad cenedlaethol yn gwybod fod y sianel wedi dod i fodolaeth yn dilyn ymgyrchu poblogaidd ac uniongyrchol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a’r bygythiad o ympryd hyd farwolaeth gan Gwynfor Evans. Ond y naratif cyhoeddus ym 1981 oedd rhoi canmoliaeth a chlod i waith dygn gan aelodau y Sefydliad o Gymru, ac mai y nhw a sicrhaodd sefydlu S4C.

Dyma ddywedodd Nicholas Edwards, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd,

“the change had been made in response not to violence but to moderate opinion following very wide consultations in Wales”.

Dyma’r hanes sydd wedi cael ei wthio arnom ni ers hynny. Y naratif oedd fod S4C wedi cael ei sefydlu oherwydd gwaith Wyn Roberts, Gwilym Prys Davies, a’r cyn Archesgob GO Williams. Nawr dydw i ddim am eiliad yn amau cyfraniad y gwŷr yma, ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd eu cyfraniadau i’r ymgyrch. Ond…

Ar y 30ain o Ragfyr 2010 rhyddhawyd rhai o bapurau’r llywodraeth Geidwadol 30ain mlynedd yn ôl. Ynddynt mae’n nhw’n dangos yn glir mai bygythiad ympryd Gwynfor Evans oedd y ffactor allweddol yn y penderfyniad i sefydlu Sianel 4 Cymru.

Yn ol Willie Whitelaw, yr Ysgrifennydd Cartref, byddai sefydlu S4C yn,

“have the advantages of…. persuading Mr Gwynfor Evans, the leader of Plaid Cymru, to withdraw his threat to fast to death”.

Cadwyd y farn yma’n dawel iawn wrth gwrs, a thros y deg mlynedd ar hugain dilynol rydym ni wedi cael ein harwain i gredu fod y diolch yn perthyn i wleidyddion y sefydliad; pobl oedd ddim am weld trafferth; pobl barchus.

Mae’r gwir yn dra wahanol.

Dyma’n union yr un neges y mae’r sefydliad Brydeinig yn ceisio ei wthio arnom ni heddiw. Ond mae hanes yn dangos fod gweithredu di-drais uniongyrchol yn gallu bod yn effeithiol.

Pwy ydych chi am gredu, gwleidyddion y Sefydliad yntau’r ysgol brofiad? Efallai nad yw Glyn Davies AS a’r Arglwydd Roberts o Gonwy a’u tebyg am siglo’r sefydliad, ond os am gael y maen i’r wal…

5 Comments

  1. Dwi’n cytuno a dy ddadadansoddiad Mabon, ond tybed ai’r broblem sy’n wynebu unrhyw ymgyrch tor-cyfraith newydd i ddiogelu S4C yw’r ffaith bod y sefyllfa bresennol mor amwys? Does dim son am ddileu y sianel fel y cyfryw ( er mor andwyol fyddai ei osod o dan adain y BBC), a dydi ymgyrch “diogelu annibyniaeth olygyddol” i S4C ddim yn debyg o danio neb. Tybed onid oes angen nod clir a dealladwy i unrhyw ymgyrch gwrthod talu’r drwydded deledu, e.e yr angen i ddatganoli S4C i’r Cynulliad Cenedlaethol.? Byddai hynny’n fodd o roi tan ym mol ymgyrchwyr a charedigion yr iaith ac fe fyddai hefyd yn gorfodi gwleidyddion Cymru i ymgodymu’n llawn a’r cwestiwn eu hunain yn hytrach na hel esgusodion a beio pobl eraill.

  2. Rwy’n cytuno a thi Aled – mae’n anodd tanio dychymyg gyda materion trefniadaethol (dyna’r drafferth sy’n wynebu yr ymgyrch ‘Ie’ dros y misoedd nesaf).

    Ond fyswn i’n dadlau fod dyfodol S4C yn y fantol. Er nad marwolaeth dramatig a la Pobol y Cwm, ond dedfryd o farwolaeth yr un modd. Gyda safon y rhaglenni’n siwr o ddisgyn oherwydd diffyg buddsoddiad a rheolaeth annibynol, nifer gwylwyr am grebachu o ganlyniad, ac yn y pendraw galw cynyddol i gael gwared ohono oherwydd y safon gwael i’r nifer bach o wylwyr – cylch saethig yn cael ei chreu i gyflawni ei ddiben ei hunan.

    Ond ar y mater o ddatganoli S4C – rwy’n cytuno a thi, er mod i’n amau a yw pob un o fewn y Blaid yn cydweld a hyn. Rwy wedi galw am hyn eisioes yn fy nhystiolaeth i’r Pwyllgor materion Cymreig (yma: https://mabonapgwynfor.wordpress.com/egwyddorion/s4c/). Ond os gwneud hyn rhaid hefyd ‘top-sleisio’ (!) arian trwydded y BBC a rhoi’r cyfran Cymreig yng nghoffrau’r Cynulliad. Does dim pwynt datganoli’r sianel os nad yw’r gallu arianol gan y Cynulliad i’w warchod.

  3. Yn hollol Mabon, mae hanes yn wahanol iawn i sbin gwleidyddol y pryd. Mae cofiant Ned Thomas yn atgoffa ni hefyd sut roedd llawer o garedigion yr iaith Gymraeg yn fodlon derbyn y briwsion oedd yn cael ei gynnig ar y pryd, ond roedd Gwynfor wedi gweld ymhellach na hynny.

Comments are closed.