Y ffeithiau moel

Gyda’r newyddion fod y Ceidwadwyr yn Ne Clwyd wedi lawnsio rhyw fath o wefan (uniaith Saesneg) dros y diwrnodau diwethaf i hyrwyddo eu hymgeisydd (wna i ddim rhoi linc i’r wefan nac enwi’r ymgeisydd yma, am y tro!), roeddwn i’n meddwl efallai y byddai’n syniad da eich hysbysu o rai ystadegau yn ymwneud a’r blog yma. Hefyd a hithau’n dymor y Dolig gyda’r teledu yn llawn rhaglenni ‘deg uchaf’ dyma gyfle i fi gyflwyno fy siartiau i i chi!

Mae’r blog wedi bod yn mynd ers dau fis a hanner, ac heddiw mae’r blog wedi croesi 4,000 o ddarllenwyr (4,053 wrth ysgrifennu hwn).

Y diwrnod prysuraf hyd yma oedd Hydref 21ain. Mae yna reswm pam – dyna’r diwrnod y postiais i’r pwt am Rod Liddle.

Y cyfeirwyr gorau yw: (1) Facebook, (2) Blog Menai (3) Syniadau (4) Miserable Old Fart (5) Blog Golwg 360. Mae Plaid Wrecsam, Blogiadur, Guto Dafydd, Twitter, a Housepricecrash.co.uk oll hefyd yn cyfeirio tipyn o draffig draw yma. Diolch i chi gyd.

Yr un diddorol o’r rhestr  uchod yw Houspricecrash.co.uk – ymddengys fel fod rhywun wedi pigo i fyny ar un o fy erthyglau a wedi rhoi linc iddo ar y wefan. Mae’r linc yna yn cyfeirio darllenwyr cyson draw at y blog.

Mae pobl wedi cyrraedd y blog trwy ryfedd ffyrdd hefyd.

Y termau mwyaf poblogaidd i gael eu defnyddio ar beiriant chwilio yw: (1) consumerism, (2) blog mabon, (3) rod liddle wales, (4) rod liddle s4c, (5) george osborne artful dodger, (6) mabon ap gwynfor blog, (7) powys fadog mabon gwynfor, (8) rod liddle welsh, (9)  blog mabon ap gwynfor, (10) “clwyd plaid cymru”.

Fel y gwelwch chi mae nifer o wahanol gyfuniadau yn ymwneud a Rod Liddle. Mae’r un ‘artful dodger’ yn cysylltu yn uniongyrchol ag ymgyrch 38degrees.

Mae yna lwyth o dermau rhyfedd iawn, a sut ar wyneb ddaear mae nhw wedi darganfod y blog yma trwy’r termau hynny pwy a wyr. Dyma’r deg mwyaf rhyfedd:

(1)am ddim rhyw cymraeg safle; (2) cyngrhair traws gwlad gogledd cymru; (3) fi angen benthyciad ar frys 2010; (4) police regulation a19; (5) rod liddle fireman sam; (6) ierse pay pay; (7) amanda richards unilever; (8) actionaid beer; (9) lunio; (10) grolsch.

Y tudalennau mwyaf poblogaidd yw fel a ganlyn: (1) cartref, (2) Reporting Rod Liddle to the Police for Racism, (3) The Daily Mail and the audacity of the Welsh, (4) About Mabon, (5) Fairtrade and consumerism, (6) Tackling Affordable Housing, (7) Riportio Rod Liddle i’r Heddlu am hiliaeth, (8) Exciting Llangollen enterprise in jeopardy, (9) Homes for who? (part 2 of the Housing article), (10) Child benefits and taxing the rich.

Beth wnewch chi o hyn?

O’m rhan i mae’n anodd dweud. Mae’n amhosib i mi fesur faint ohonoch chi sy’n byw yn yr etholaeth, ar y llaw arall mae’r erthyglau mwy lleol yn cael darlleniad teilwng, ond yr erthyglau mwyaf poblogaidd yw’r rhai sy’n ymateb i ragfarnau eraill – yn benodol yr un am Rod Liddle a’r erthygl am ymateb y Daily Mail.

Serch hynny rydym yn dal i fod yn nyddiau cynnar y blog. Cawn weld sut beth fydd y sefyllfa erbyn y Pasg!

Diolch i chi gyd am ddarllen a chyfranu. Gobeithio fod rhywun yn rhywle yn cael budd o’r blog.