Perthynas prynwriaeth a mentrau moesol

Mae cyfoeth a’r ffordd yr ydym yn ei gael a’i ddefnyddio yn fater syml a chymhleth ar yr un pryd. 

Mae’n syml oherwydd ar y lefel mwyaf elfennol os nad oes gennych gyfoeth yna mae’ch dewis yn cael ei gyfyngu (heblaw eich bod chi’n mynd y tu hwnt i’ch adnoddau ac i ddyled, sy’n destun erthygl arall). 

Mae’n gymhleth oherwydd y modd y daeth y cyfoeth yna i fodolaeth a sut y mae rhywun yn defnyddio’r cyfoeth hwnnw. 

Mae hyn yn wir am arian ac eiddo materol. 

Mae cyfoeth yn cael ei greu trwy ecsploitio: o’r amgylchedd o’n hamgylch i’r ffordd yr ydym yn gwneud gwaith â’n gilydd mae’n amhosib creu cyfoeth heb ecsploitio. Y cwestiwn yw pa lefel o ecsploitio sydd yn dderbyniol i’r unigolyn ac i’r amgylchedd. Nid mater o ddiwallu anghenion neu gyflenwi yn ôl y galw ydyw, fel y mae llawer yn honni. Fel pobl hunanol a barus mae ein hawydd a chwant am nwyddau materol yn anniwall, ac rydym o hyd yn cynhyrchu mwy o bethau gyda’n hadnoddau prin, llawer ohonynt yn gwbl ddi-angen ac yn cyfranu dim at ansawdd bywyd. Mae hefyd yn bosib creu awydd artiffisial am gynnyrch pan nad yw’r angen yn bodoli mewn gwirionedd. 

Mae pob un ohonom (heblaw am y mwyaf hunanol) yn derbyn na allwn barhau i ddifa a defnyddio adnoddau y ddaear fel yr ydym ni’n ei wneud ar y raddfa bresennol. Serch hynny rydym ni, yn y gorllewin o leiaf, yn parhau i greu a phrynu pethau newydd. Defnyddiwn adnoddau cyfyngedig sydd at ddefnydd pawb er budd lleiafrif tra fod eraill yn ceisio byw ar $1 y diwrnod. 

Ond oherwydd natur global yr economi a’n rhyng-ddibyniaeth, nid yw pethau mor hawdd ag y mae’n nhw’n ymddangos. 

Gymaint ag ydw i’n cefnogi Fairtrade, ardystiad Fforestydd Cynaladwy, a mentrau gwerth chweil tebyg, ac yn cael fy nghalonogi gyda’u twf cyson, y gwir anffodus yw mai sop ydyn nhw wedi eu llunio ar gyfer bleedin’ heart liberals fel fi. Nid yn unig eu bod nhw yn chwarae mewn i ddwylo y marchnadoedd, ond yn eironig mae’n nhw’n rhan o’r system sydd yn cynnal y cyfalafiaeth rhemp yma sydd wedi cael gafael ar ein cymdeithas yn ystod y genhedlaeth ddiwethaf. Y broblem yw ein bod ni wedi rhoi ein ffydd i mewn i brynwriaeth (consumerism) a grym y prynwr, gan gredu mai’r prynwr fydd yn y pendraw yn (a) penderfynu ar lwyddiant neu fethiant unrhyw gynnyrch a (b) yn datrys materion moesol. Rydym yn cael ein harwain i gredu y bydd prynwr sydd am weld gwell telerau i weithwyr y trydydd byd yn prynu Fairtrade; os nad ydym am weld plant yn gweithio mewn sweat shops yna ni fyddwn yn prynu nwyddau a gynhyrchir ynddyn nhw. Gwych mewn theori…y trueni yw nad yw’n gweithio. 

Y gwir yw tra fo gennym drefn sy’n caniatau i ychydig o bobl reoli cylchrediad cyfoeth, gan gadw y rhan helaethaf o’r cyfalaf yn nwylo ychydig o bobl, yna mae’r ‘dewis’ yna i gefnogi neu beidio a chefnogi cynnyrch yn cael ei wadu i ni. Mae yna ‘farchnad’ ar gyfer cynnyrch Fairtrade, wrth gwrs, ond dyna’r broblem, mae’n farchnad benodol sydd yn rhedeg law yn llaw â’r marchnadoedd eraill, yn caniatau i bleedin heart liberals fel fi i gysgu’n dawel yn y nos tra fod ecspolitio pobl a’r amgylchedd yn parhau’n ddiedifar. Yn ail mae technoleg modern wedi cyfranu’n fawr at ledaenu gwybodaeth, ond os yw’r wybodaeth yna’n cael ei gadw wrthym (trwy gynllwyn neu anwybodaeth) yna sut mae disgwyl i’r prynwr bwyso a mesur ynghylch pryniant moesol? 

Rwy’n siwr y byddai’r rhan fwyaf o Gymry am weld ffermwyr y trydydd byd yn cael pris teg am eu coffi, ond mae Nescafe yn rhatach; mae’n siwr y byddai’n well ganddyn nhw fwyta pysgod sydd wedi eu pysgota’n gynaladwy, ond mae tiwna tin yn rhatach; mae’n bur debyg y byddai’n well ganddyn nhw weld plant Uzbekistan yn cael addysg yn hytrach na gorfod gweithio oriau hir mewn amgylchiadau enbyd i gynaeafu cotwm, ond mae dillad George Asda yn rhatach. Y gwir yw os orfodwch chi unigolyn i ddewis rhwng ei deulu ei hun a’i gysuron, neu berson di-enw mewn gwlad bell, fe wna’n nhw roi anghenion eu teulu nhw eu hunain yn gynta. Nid beirniadaeth mo hyn, dyma yw realiti bywyd; ac mae anghenion economaidd o dan y drefn gyfalafol bresennol yn gorfodi hynny. Cyflenwi a galw? Fe allwn ni ‘alw’ am fasnach deg, ond nid yw’r economi yn ein galluogi i gefnogi’r galw gyda’n gweithredoedd. 

Beth dylid ei wneud felly? Yn anffodus dim ond dau ddewis sydd gennym o dan y drefn gyfalafol bresennol. Y cyntaf yw ymarfer ein grym fel prynwyr y gorau y gallwn ni, a’r ail yw defnyddio dulliau gwleidyddol. Felly mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein grym cydweithredol, lle’n bosib, i gefnogi Fairtrade a mentrau gwerthchweil eraill. Mae’r ail beth yn wleidyddol. Mae’r agwedd lled laissez-faire tuag at y marchnadoedd sydd yn bodoli yn y gorllewin yn niweidio y prynwr â chystadleuaeth, wedi’r cwbl o adael y farchnad i’w ddibenion ei hun mae’r budd o hyd am symud tuag at y cryfaf a’r grymus. Ni fydd yn sefyll yn stond na’n cyrraedd rhyw fath o ecwilibriwm oherwydd bydd y cwmniau mawr yn parhau i arall-gyfeirio ac ymestyn allan i feysydd eraill fel rhyw fath o black hole yn traflyncu pob dim o fewn ei gyrraedd. Yr enghraifft mwyaf amlwg o hyn i ni yw Tesco, ond mae’n wir am gwmniau megis Mitsubishi, G&E, Unilever ac eraill. Rhaid i lywodraethau ymyrryd er mwyn sicrhau cydraddoldeb cyfle yn y farchnad, gan roi gwell cyfle nid yn unig am gystadleuaeth go iawn, ond hefyd i gymunedau llai a mwy bregus allu blaguro. 

Tra bydd hyn yn helpu i wneud cyfalafiaeth ychydig yn decach, nid dyma’r ffordd yr hoffwn i weld cymdeithas yn cael ei drefnu yn y pendraw. Rwy’n credu bod angen cael chwyldro llwyr (di-drais!!) yn y ffordd yr ydym yn meddwl am ac yn gweithredu’r economi. Nid yw cystadleuaeth yn creu cyfartaledd yn y farchnad, ond yn hytrach mae’n anog y math gwaethaf o ecsploitio, gan yrru busnesau i dorri corneli a thorri costau er mwyn cynnig gwell pris na’u cystadleuwyr, a hybu’r rheibio a’r difa o hyd yn oed rhagor o’n hadnoddau prin ni er mwyn cynhyrchu mwy o ddeunydd di-werth er mwyn cynyddu elw. Does dim rhaid dweud fod cael monopoli ar ddŵr, dyweder, yn beth gwael. Mae hyn yn amlwg; oherwydd mae dŵr yn hanfodol i fywyd, a chymdeithas ddylai benderfynu ar sut y dylid defnyddio a dyranu dŵr. Mae’r un rheol yn wir am bob peth arall sydd yn hanfodol ar gyfer cynnal bywyd yn yr G21ain. Ta waeth, mae hyn yn destun ar gyfer erthygl arall!