Cynnigiodd Llywodraeth SNP yr Alban yn ddiweddar y dylid rhoi isaf-bris ar bob uned o alcohol. Gwrthodwyd y cynnig yma gan y pleidiau eraill er gwaethaf y ffaith for yr Heddlu, elusenau a sefydliadau iechyd ac alcohol a phobl llawr gwlad yn cegfnogi’r cynnig.
Pasiwyd cynnig tebyg yng nghynhadledd y Blaid rhai blynyddoedd yn ol, yn cynnig y dylid rhoi isaf-bris o 50c yr uned ar ddiodydd alcohol. Mae’n bolisi yr ydw i’n ei gefnogi er mwyn mynd i’r afael a’r cam ddefnydd o alcohol ac effeithiau hyn ar ein cymdeithas.
Ond mae yna ffordd arall.
Rhai blynyddoedd yn ol cefais Drwydded Bersonol i werthu alcohol. Er mwyn cael trwydded o’r fath rhaid pasio arholiad i brofi fod person yn addas i gario trwydded. Tra’n astudio ar gyfer yr arholiad yma does i fyny a pholisi arall ar gyfer alcohol un fyddai’n helpu i daclo’r camddefnydd o alcohol ac yn achub ein tafarndai ar yr un pryd.
Gadewch i mi esbonio.
Roeddwn i’n gefnogwr brwd o’r oriau hyblyg a roddwyd i lefydd trwyddedig gan y Llywodraeth Lafur Brydeinig blaenorol, gan mod i’n credu fod cau tafarnai am 11yh yn arwain at ormod o alcohol yn cael ei yfed mewn amser byrr iawn yn arwain i fyny at stop tap, oedd yn ei dro yn arwain at drafferthion ar y stryd a’r heddlu yn methu ymdopi. Rwy’n dal i gredu hyn. Ond methodd y llywodraeth a chymryd i ystyriaeth y byddai’r archfarchnadoedd yn gwerthu alcohol ar golled, ac fod gan archfarchnadoedd fwy o rym pwrcasu oddi wrth y bragwyr yn eu galluogi i gael telerau gwell na thafarndai a busnesau eraill yn y sector lletygarwch, sydd felly yn eu galluogi i werthu alcohol am bris dipyn yn rhatach na thafarndai – 50c am gan o Lager Cryf neu £5 am botel o Fodca, tra fod prisiau tafarndai wedi saethu i fyny yn bennaf oherwydd cynnydd treth. Pam gwario £10 ar dri pheint o Kronenberg yn y dafarn pan allwch chi gael 15 can o’r un ddiod am yr un pris yn yr archfarchnad lleol? Canlyniad hyn yw fod nifer yn yfed yn drwm adref cyn mynd allan i’r dref yn hwyrach yn y nos.
Ond mae’r elfen yma o yfed mwy adref yn peri problemau ychwanegol. Er mwyn i rywun gael trwydded personol mae’n rhaid iddyn nhw addo i beidio a gwerthu alcohol i berson meddw:
141 Sale of alcohol to a person who is drunk
(1) A person to whom subsection (2) applies commits an offence if, on relevant premises, he knowingly—
(a) sells or attempts to sell alcohol to a person who is drunk, or
(b) allows alcohol to be sold to such a person.
Mae’n llawer haws rheoli y defnydd o alcohol os ydyw’n cael ei gyfyngu (i raddau helaeth) i’r dafarn a llefydd trwyddedig eraill. Mae hyn nid yn unig yn wir am yr unigolyn trwyddedig ond hefyd ar gyfer y rhwydwaith o lefydd trwyddedig, sydd yn aml yn aelodau o gynlluniau megis Pub Watch. Ond mae’n amhosib i berson trwyddedig i reoli’r defnydd o alcohol os ydyw’r rhan helaethaf ohono yn cael ei hyfed yn y cartref.
Mae ffigurau y British Beer and Pub Association yn dangos fod gwerthiant alcohol ‘off trade’ (archfarchnadoedd, siopau cornel, siopau off license ayb) yn ail chwarter eleni yn fwy na gwerthiant alcohol on trade am y tro cyntaf erioed (tafarndai, clybiau cymdeithasol, clybiau nos ayb). 3,914,000 casgen off trade; 3,784,000 casgen on trade. Cymharwch hyn gyda’r un cyfnod 13 mlynedd yn ol pan ennillodd Llafur rym, gyda 2,412,000 casgen off trade yn cael ei werthu a 6,694,000 on trade.
Nid cyd-ddigwyddiad yw hi ein bod ni’n gweld oddeuty 39 tafarn yr wythnos yn cau yn y DU bob wythnos. Nid llefydd i feddwi yn unig yw tafarndai, ond mae’n nhw’n chwarae rhan allweddol yn y gymuned. Yn ol adroddiad gan yr ippr yn 2009:
“The report found that pubs inject an average £80,000 into their local economy each year adding more value than beer sold through shops and supermarkets, because of the jobs they generate. They are also proven to provide a controlled environment for socially responsible drinking.
ippr’s report found that pub closures have a serious impact on community life because of the role pubs play in strengthening local social networks, as well as facilitating many local services, events and activities which contribute to local life. These can include: hosting a range of important public services such as running post offices, and general stores; and providing a place for local charities, sports clubs and civic groups to host meetings and activities.” Beth dylid ei wneud felly?
Wel mae’n amlwg y mi y gellir cyfarwyddo ymddygiad cyhoeddus i raddau trwy drethiant. Pe cynyddir y dreth ar werthiant off trade yn sylweddol, a gostwng y dreth ar werthiant on trade byddai hyn yn annog pobl i yfed yn fwy cymdeithasol yn y dafarn; byddai hyn yn ei dro yn rhoi gwell gobaith i’r tafarnwyr i fonitro faint o alcohol sy’n cael ei hyfed gan unigolion, ac hefyd yn cryfhau busnes y tafarndai gan roi gwell gobaith iddyn nhw i’r dyfodol a’u caniatau i chwarae eu rhan yn y gymdeithas. Ond yn bwysicach fyth byddai’n gyfraniad mawr yn y frwydr yn erbyn y cam ddefnydd o alcohol a’r problemau lu a ddaw yn sgil hyn i’r unigolyn, y teulu a’r gymdeithas.
Dyw hi’n ddim syndod fod y syniad yma wedi cael ei ddatblygu gan eraill hefyd, ac roeddwn i’n hynod falch o ddarllen fod Dr Nick Sheron, arbenigwr ar yr iau of Brifysgol Southampton wedi cynnig rhywbeth tebyg mewn erthygl yn y BMA.
Os ydyn ni am daclo’r camddefnydd o alcohol ac am gadw’n tafarndai ar agor yna mae’n rhaid i ni orfodi’r archfarnchnadoedd i gyfranu mwy i gywiro’r niwed cymdeithasol y mae’n nhw’n cyfranu ato.