Ad-drefnu Ysgolion Edeirnion

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dechrau ar broses o ad-drefnu addysg cynradd yn ardal Edeirnion o’r sir.

 Yr ysgolion sy’n cael eu trafod yw: Ysgol Maes Hyfryd, Cynwyd; Ysgol Bro Elwern, Gwyddelwern; Ysgol Llandrillo; Ysgol Carrog; Ysgol Glyndyfrdwy; Ysgol Betws Gwerfil Goch; ac Ysgol Caer Drewyn, Corwen.

Penderfynodd y cabinet fynd am yr opsiwn a elwir yn ‘rationalisation’, sef cadw Maes Hyfryd a Chaer Drewyn, a chau tair neu bedair o’r  pump arall.

 Gellwch weld y dogfennau perthnasol yn eu cyfanrwydd yma.

Os am gael syniad o fy safbwynt ynghylch rol a phwysigrwydd ysgolion cymunedol yna cewch ddarllen rhagor yma.

Rwy’n credu fod yr araith honno yn ei wneud yn eithaf clir fy mod yn cefnogi y galw i gadw addysg yn y gymuned, mor agos ag sydd yn bosib at yr uned deuluol, yn enwedig felly pan ei fod yn dod i gefnogi a chryfhau y Gymraeg.

Ond mae’r papurau uchod ar hyn y mae’r Cyngor yn ei drafod yn peri pryder pellach. Mae’r paragraff yma yn y dudalen gyntaf (Cefndir) yn gosod y ton ar gyfer yr holl ddogfen ac yn ei dro yr holl drafodaeth a ddaw yn sgil hyn: 

The Welsh Assembly have made it clear that local authorities will not be able to attract capital funding unless the issue of empty places is dealt with. There are a considerable number of schools within our county with high levels of unfilled places. As a result the current number of schools within the county is unsustainable if we want to provide the best possible learning environments and facilities for our children and young people. 

Mae’n dilyn yr hen linell gyfarwydd hwnnw bellach, sef fod yna lefydd gwag costus gydag arolygon y bydd yna ragor o lefydd gweigion yn y dyfodol. 

Mae arna i ofn na alla i gyd-fynd a hyn, ac mae’n anghywir. 

Yn gyntaf beth yn union yw ystyr ‘llefydd gwag’? Yn syml, gall yr ysgol ddal fwy o ddisgyblion. Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y llefydd yn ‘wag’. Er mwyn bod yn wag mae’n awgrymu y dylai fod yna isafswm o ddusgyblion yno, a hyd y gwn i does dim rheolai o’r fath yn bodoli i’rr ysgolion unigol. 

Os oes yna ystafelloed dosbarth gweigion yno a dim rhagolygon o’u defnyddio yn y dyfodol yna pam ddim eu dadgomisiynu, a’u defnyddio ar gyfer dibenion eraill? Wedi’r cyfan mae’r llywodraeth yn ddigon sydyn i ddweud wrth ffermwyr i arall-gyfeirio ac i ffeindio defnydd arall ar gyfer eu hadnoddau, wel pam nad yw’r un peth yn wir am eiddo cyhoeddus? 

Rhaid canmol y Gweinidog Addysg presenol, Leighton Andrews am ddweud na ddylai diffyg cyfalaf fod yn reswm dros gau Ysgolion. Mae’n ymddangos i mi serch hynny fel bod Awdurdodau Lleol yn defnyddio ‘llefydd gweigion’ fel esgus, ffordd arall o ddweud nad oes arian ar gael i gynnal yr ysgol.

Mae’r adroddiad yn nodi trafferthion eraill: dysgu plant mewn unedau symudol (carafanau i bob pwrpas), a chost gwaith cynnal a chadw sydd ei angen, sy’n cael ei asesu i fod werth tua £500,000. 

Ond dyma lle y gwelwn ni anghysondeb yr adroddiad a roddwyd i’r Cabinet.

Yn ol ffugurau’r Cyngor mae gan Ysgol Maes Hyfryd, Cynwyd, 61 o ddisgyblion a lle i 73. Mae’n nhw’n rhagweld y bydd 72 o ddisgyblion yno erbyn 2014, gydag 1 lle ‘gwag’ yn unig. Ond mae hyn yn anghywir, oherwydd mae’r ffugurau yn cynnwys yr uned addysgol symudol sydd a lle i 18 o ddisgyblion. Sech hynny rydym ni’n gwybod eu bod nhw’n awyddus i gael gwared o unedau symudol. Y gwir ffugwr ar gyfer Maes Hyfryd felly yw 61 o ddisgyblion yn cael eu dysgu mewn ysgol sy’n addas i 55. Yn yr un modd rhagwelir y bydd yna 51 lle gwag yn Ysgol Betws Gwerfil Goch yn 2014, ond o dynnu yr uned symudol allan, disgyn y rhagamcan i 31. Beth am wario’r £3m sydd wedi eui neulltio ar gyfer ail strwythuro addysg Edeirnion ar wneud y gwaith cynnal a chadw, ac adeiladu unedau newydd i Maes Hyfryd a Bro Elwern (y ddwy ysgol sy’n fwya tebygol o angen rhagor o le)? 

Yr hyn nad yw’r adroddiad yn ei ystyried yw’r posibilrwydd o greu ffederasiwn o ysgolion. Dywed y prif swyddogion nad yw hyn wedi ei gynnwys oherwydd nad ydyw yn mynd i’r afael a’r problem o lefydd gweigion. Ond fel ry’n ni wedi ei weld, mae’r mater o lefydd gweigion yn un di-ddim, mewn gwirionedd; ac yr hyn sydd ei angen yw i’r Cyngor (a’r swyddogion) i ddangos ychydig yn fwy o ddychymyg ynghylch sut gellir gwneud y defnydd gorau o’r llefydd yma. Yn lle edrych arnyn nhw fel problem, dylid edrych arnyn nhw fel cyfle i wneud defnydd amgenach ohonyn nhw. 

O greu ffederasiwn o ysgolion gellir torri ar gostau (wedi’r cyfan costau refeniw yw’r mwyaf) ac fe fyddai yn datrys y broblem arall sy’n wynebu’r Cyngor sef eu bont yn methu a phenodi prifathrawon ar gyfer yr ysgolion. Byddai hyn, o’i wneud gyda chydsyniad ac ewyllys y rhieni, athrawon, plant, ac aelodau eraill yr ardal gyfan yn caniatau i’r plant barhau i gael eu haddysgu yn eu cymuned tra’n darparu’r addysg orau posib i’r plant. 

Mae criw o Edeirnion wedi trefnu cyfarfod yng Nghorwen nos yfory (Mawrth 16 Tachwedd) am 7yh i drafod yr argymhellion. Mi fydda i yno ac mae gwahoddiad wedi cael ei ddanfon allan i’r swyddogion hefyd er mwyn rhoi cyfle teg i bawb ddweud eu barn a sicrhau fod gan bawb y ffeithiau cywir. 

Mae’r swyddogion wedi gwrthod mynychu gan ddweud eu bont wedi trefnu cyfarfodydd unigol ym mhob un o’r ysgolion fel rhan o’r broses ymgynghorol. Mae’n biti garw na allan nhw fod yno. Mae’r cyfarfod am fod yn un pwysig, oherwydd fod yr argymhellion yma am gael effaith ar holl gymunedau’r ardal, ac mae’n bwysig fod gan bawb y cyfle i glywed a thrafod y mater. Wrth drefnu cyfarfodydd unigol yr hyn y mae’r Cyngor yn ei wneud (yn fwriadol neu’n anfwriadol) yw gorfodi’r cymunedau unigol i frwydro drostyn nhw eu hunain, a’u gorfodi nhw i esbonio sut y mae’n nhw’n rhagori dros eu brodyr a chwiorydd yn y pentref nesaf. Nid dyma’r ffordd y dylid rhedeg ymgynghoriad. Nid y mwyaf uchel eu cloch ddylai ennill, mae hynny ond yn ein gwneud yn anifeiliaid, ond yn hytrach trwy gydweithio a rhanu syniadau. Ydy, mae’n siwr y bydd ysgolion Maes Hyfryd a Chaer Drewyn yn ddiogel, ac felly mae’r Cyngor eisioes wedi trio prynu cefnogaeth rhieni disgyblion yr ysgolion hynny. Ond mae’n rhaid i ni ddangos undod a’r pentrefi eraill sydd am ddioddef yn sgil yr adrefnu arfaethedig yma. Dyna pam ei fod yn bwysig fod cynifer o bobl a phosib yn mynychu’r cyfarfod nos yfory o bob un o’r pentrefi, i ddangos cefnogaeth i’w cymdogion. 

Mae hefyd posib i bobl arwyddo’r ddeiseb yma.

1 Comment

  1. Mabon – Fel rhywyn sydd wedi bod drwy y broses yma yn Nyffryn Ceiriog a wedi gwrthod arghymellion swyddogion i gau Tregeiriog a Phontfadog a’r plant fynd i lefydd gwag Ysgol Cynddelw, Glyn Ceiriog. Ond pa lefydd gwag yn Cynddelw? Ar bapur oedd mi roedd na ond realiti y sefyllfa ydy mae hefo cyfnod sylfaen a ysgol dwy ffrwd mae angen mwy o le na mae fformiwla y Cynulliad yn roi i bob disgybl. Y broblem arall hefo y fformiwla yma ydy fod o’n cyfri mesuriad yr ysgol i gyd a ddim ond y dobarthiadau. Cyn belled mae niferoedd sydd yn yr ysgol yn y cwestiwn beth sydd isio edrych ar ydy faint o lefydd gwag sydd yna yn y dosbarth derbyn, gan fod y rhan fwya o lefydd gwag yn nosbarthiadau uchaf yr ysgol; os ydy y dosbarthe derbyn yn llawn mae hyn yn dangos fod demograffeg yn newid ag hwyrach fydd na ddim llefydd gwag mewn blynyddoedd i ddod. Gobeithio fod hwn o help.

Comments are closed.