Mae Plaid Cymru wedi crybwyll y syniad o lunio gwasanaeth trafnidiaeth i Gymru gyfan gyda chwmni nid-am-elw yn rhedeg y wasanaeth ar ol i gytundeb Arriva ddod i ben yn 2018.
Fy ymateb greddfol i oedd, gwych! Polisi sydd yn rhoi y bobl yn gyntaf gan sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion y teithiwr ac anghenion y wasanaeth heb gyfaddawdu gydag anghenion cyfranddalwyr.
Mewn gwirionedd roeddwn i’n hyderus y byddai’r syniad yma yn cael derbyniad cyffredinol.
Gallwch ddychmygu fy sioc felly wrth i mi ddarllen colofn Golygyddol y Daily Post heddiw!
PLAID Cymru need to be careful not to play politics with public transport, nor to look for all-Wales answers to questions which no-one is asking.
Beth mae hyn yn ei olygu? Mae Trafnidiaeth yn fater gwleidyddol sydd angen atebion gwleidyddol. Efallai fod awdur y Golygyddol yn credu nad oes yna gwestiynau i’w hateb, ond mae yna nifer o gwestiynnau yn cael eu holi, ac mae’n berffaith iawn fod rhywun yn ymdrechu i wella gwasanaethau.
Its blueprint for depriving Arriva Trains Wales of its franchise in 2018 and giving it to a not-for-profit company is an alarming one.
The days are gone when a benevolent, all-powerful state behemoth could be entrusted with the rail network and expected to do an efficient job at a reasonable price. The suggestion by Plaid that a not-for-profit company would generate an extra £10 million a year to improve services is naive. And anyway, what is wrong with profit? What is wrong with the private sector?
Naif? Sut felly? Mae’r ffeithiau yn siarad drostynt eu hunain. Mae Arriva yn cael £13m o elw gan ei rannu rhwng y cyfranddalwyr a’r perchnogion Almaenig. Yn hytrach na bod yr arian yma yn mynd i ddwylo preifat, byddai elw o’r fath yn cael ei roid yn ol i wella’r wasanaeth mewn cwmni nid-am-elw – dyna holl bwrpas y peth! Syml. Beth sydd o’i le efo elw? Lot pan fo canrhan mawr o’n cyfoeth yn cael ei ddal yn nwylo canrhan bach o’r boblogaeth. Mae’r elw a wneir gan Arriva yn cael ei rannu rhwng cyfranddalwyr ar drail safon y gwasanaethau y mae’r teithwyr a’r trethdalwr yn talu amdan. Ry’n ni’n sybsideiddio’r gwasanaeth yma gyda £134m – ein harian ni. Mae Arriva yn defnyddio’r arian yma i wneud elw i’w cyfranddalwyr tra’n darparu gwasanaeth eilradd. Wrth gwrs does dim sicrwydd fod y lefel yma o elw am barhau, ond mae’r elw blynyddol cyson a wneir gan Arriva o’r gytundeb yn awgrymu fod elw i’w wneud o Deithio ar Drenau yng Nghymru.
Isn’t part of our problem in Wales the fact that the public sector has grown much too large, inefficient and costly? And who says that a “not-for-profit” organisation will generate £10 million of savings? A public sector company put in charge of the railways might on the contrary, make a substantial loss, just like the bad old days of flabby, unreliable, inefficient nationalised industry, including the much-unloved British Rail.
Nid yw’r adroddiad yn cyfeirio at wladoli gwasanaeth trenau Cymru nac ychwaith ei greu yn rhan o’r sector gyhoeddus. Y tebygrwydd yw y byddai yn sefydliad lled annibynol. Mae Glas Cymru yn enghraifft perffaith o gwmni nid-am-elw llwyddianus. Os ydym ni am weld y sector breifat yn cynyddu yna mae’n rhaid wrth fuddsoddiad. Byddai cael gwasanaeth deithio cyhoeddus gwell a mwy effeithiol yn hwb mawr gan yn y pendraw cynorthwyo’r economi i dyfu. Hefyd, os fydd y drefn newydd yn dilyn model Glas Cymru y tebygrwydd yw y byddai y gwaith dydd-i-ddydd yn cael ei wneud gan gwmniau preifat.
The Welsh Assembly Government has an important role in subsidising loss-making rail and bus services which are not commercially viable but nonetheless extremely important to rural communities. It is in this area that the role of government can prove invaluable.
Fel y nodaf uchod, daw yr elw ar drail gwell gwasanaeth.
As for the concept of an All-Wales transport network, it may come as news to Plaid, but there is actually terra firma to our east, and many of us do travel to places like Liverpool and Chester on regular occasions.
Yr hen ddadl ddiflas yma eto yn awgrymu fod Plaid Cymru am dorri Cymru i ffwrdd! Rwy’n gobeithio fod pobl cyffredin yn gallu gweld trwy’r ddadl ffals yma erbyn hyn. Mae Plaid Cymru yn gefnogol o weithio traws ffiniol. Y gwir yw mai’r pleidiau Prydeinig sydd yn torri Cymru i ffwrdd trwy fygwth peidio a thrydaneiddio y rheilffordd i’r gorllewin o Fryste; trwy ddweud nad yw Cymru yn cael ei hanwybyddu mewn projectau pendol am fod y Llywodraeth yn buddsoddi yn Swydd Henffordd, a llwyth o enghreifftiau eraill. Stopiwch y ffwlbri yma, mae’n blentynaidd ac yn gelwydd.
This policy of theirs smacks of the notorious “all-Wales” approach to healthcare of Edwina Hart, which would have seen patients in North Wales trekking down to Cardiff or Swansea instead of round the corner to the north-west of England.
The benefits Plaid envisage from these radical changes seem outweighed by the drawbacks. In short, if it ain’t broke, don’t try and fix it.
Pwy sy’n dweud nad yw wedi torri? Ydy’r awdur wedi teithio ar drenau Arriva yn ddiweddar? Rwy’n teithio arnyn nhw’n aml, a dyw e ddim yn brofiad pleserus. Mae’n nhw’n orlawn, mae’r toiledau yn fudr, mae’r trenau yn aml yn hen stoc, mae yna oedi…Gallwn i roi fyny efo peth o’r pethau yma os oeddwn i’n gwybod fod y cwmni yn ei chael hi’n anodd, ac yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd, ond dydyn nhw ddim! Arriva yw un o gwmniau gwasanaethau teithio mwyaf Ewrop yn darparu gwasanaethau yn yr Eidal, Gwlad Pwyl, Iseldiroedd, Sbaen, Hwngari ac amryw o wledydd eraill.
Gallai £13m ddarparu 4 gwasanaeth tren newydd ar y rhwydwaith sydd ganddom ni; gwasanaeth bob awr ar y llinell Cambrian a rhagor.
Dyma’r mathau o bolisiau y mae angen i ni eu datblygu er mwyn gwneud y mwya o’n hadnoddau prin tra ar yr un pryd yn peidio a gwerthu allan i’r ariannog.
Dwi cytuno mae trafnidieath yn fater gwleidyddol, ond angen ei thynnu allan o’r faes lle fod hi’n bosibl gwleidwyr newid pethau i siwtio y ffordd y gwynt yn ei chwythu nhw.Yn enwedig yng Nghymru y ffordd pobl yn cysylltu ei gilydd yn llawer fwy na gweliedyddieath pwnc sengl. Mae hyn yn effeithio y wlad, y iaith y modd y Gogledd yng nghyfarthrebu efo’r dde a sut fydd pobl yn ffeindio gwaith. Mr Duncan Smith cymryd sylw achos dydy Cymru ddim yn cael y trafnidieath fel pobl Llundain y dyw pethau ddim mor syml i dal bws pob 10 muned!
Mae hi’n holl bwysig fydd ein trenau yn cael ei symud o’r cyfrifoldeb rhai yn Llundain neu Berlin a’r phobl Cymru yn cael gafael o’r peth unwaith ac am byth.