Dysgu dim o hanes

Wrth edrych ar y teledu rhai diwrnodau yn ol sylwais fod y ffilm Back To The Future ar fin cael ei ddarlledu. Es ati i wneud fy hun yn gyfforddus er mwyn gweld un o glasuron sinema yr 80au, ond ar ol ychydig cefais fy hun mewn penbleth. “Mae Doc Brown wedi torri ei wallt” meddyliais ar ol gweld dyn reit dal efo gwallt clearwyn a golwg ddwl yn ei lygaid yn siarad am orfodi pobl di-waith i wneud gwaith di-dal ar y teledu. Ai pennod newydd yng nghyfres Back To The Future oedd hwn tybed? Oedden nhw wedi mynd yn ol i Oes Fictoria i gyfarfod aelod o deulu Marty McFly mewn rhyw Wyrcws neu gilydd? Na, doedd yna’r un DeLorean mewn golwg, a phrun bynnag roedd yr actio yn ofnadwy. Ai darllediad o fersiwn newydd grwp actio amatur o Oliver Twist oedd e felly? 

Buan iawn y darganfyddais mai edrych ar y newyddion oeddwn i gyda Iain Duncan Smith yn trafod ei ymdrech i ail gyflwyno Deddfau’r Tlodion…wel, ddim cweit, ond heb fod ymhell chwaith. 

Mae IBS…sori, IDS wedi creu tipyn o stwr gyda’r awgrym y dylid torri taliadau’r wladwriaeth les i’r chwilwyr swyddi hynny sy’n gwrthod gwneud gwaith gwirfoddol.

Mae ngreddf i’n dweud fod y polisi yn un anheg. Serch hynny y tebygrwydd yw y bydd y rhan fwyaf o bobl o’i blaid.

Wedi’r cyfan pwy all ddadlau yn erbyn dysgu gwers i’r rhai hynny sy’n dewis gwastraffu eu bywydau ar draul gwaith caled eraill? Dyma sut mae’n nhw’n gwerthu’r polisi, a dyma sut y mae’r mwyafrif am ei weld. 

Ond dyw pethau ddim mor syml a hynny. Dydyn nhw byth. 

Rwy’n gefnogwr brwd o wirfoddoli ac yn cefnogi ymdrechion i gael mwy o bobl i wneud gwaith gwirfoddol. Mae pobl yn gwirfoddoli am amryw o resymau – cefnogi achos sy’n agos iw calonnau, oherwydd fod amser ar eu dwylo, i roi cymorth i rywun sydd mewn picl, ac amryw o resymau eraill. Ac mae gwaith gwirfoddol yn gwahaniaethu o un person i’r llall, mae rhai yn casglu o drws-i-ddrws, eraill yn hyfforddi yn eu clwb chwaraeon lleol, ac eraill yn dewis gwneud gwaith gwleidyddol (gyda ‘g’ fach a mawr!). 

Yn fy ngwaith cyflogedig i rwy’n reolwr ar wirfoddolwyr ac yn gweithio a nhw o ddydd-i-ddydd. Mae’r gwirfoddolwyr yma yn greiddiol i lwyddiant y sefydliad. Mae’n nhw’n bobl arbennig sydd yn mwynhau yr hyn mae’n nhw’n ei wneud ac yn ei wneud e’n dda, ac rwy’n golygu hynny’n gwbl ddiffuant. Mae’n nhw’n rhoi o’u hamser eu hunain, ac yn aml yn mynd i eithafion er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae rhai yn gwneud fwy nag eraill, sy’n ddealladwy oherwydd fod amgylchiadau pob un yn wahanol. Mae rhai yn hapusach i ddal blwch casglu arian, rhai wrth eu bodd yn trefnu cyngerdd, ac eraill yn eu helfen wrth siarad a chriw o blant. Os nad ydyn nhw’n teimlo eu bont yn gallu gwneud rhywbeth yna dydn nhw ddim yn ei wneud. Mae’n nhw’n gwneud yr hyn a allan nhw o fewn eu gallu a’u cyfyngiadau unigol. Weithiau bydd misoedd yn mynd heibio heb i mi glywed yr un gair, yna daw galwad ffon i esbonio eu bont wedi bod i ffwrdd ar wyliau, yn addurno’r ty, neu yn gofalu am rwyun neu gilydd. Dyna yw natur gwirfoddoli. 

Mae’r gyfrinach yn y teitl. Gwaith Gwirfoddol. Gwirfoddoli. Rhywbeth sy’n cael ei wneud efo ewyllys rydd. 

O’i ddiffinio felly mae rhywbeth nad sy’n cael ei wneud trwy ewyllys rydd ddim yn wirfoddol. Gellir ddim gorfodi pobl i wneud gwaith gwirfoddol. Ac os ydy rhywun yn gorfodi rhywun i wneud rhywbeth yn erbyn eu ewyllys yna mae pethau yn mynd o’i le – pethau ddim yn cael ei wneud yn gywir; amser eraill yn cael ei wastraffu; mae’n achosi drwgdeimlad; a phob mathau o bethau diflas eraill sy’n arwain at fethiant yr cynllwyn yn y lle cyntaf.

Wyrcws Corwen

Y ddadl sy’n cael ei roi ger ein bron gan y Llywodraeth ConDem er mwyn hyrwyddo’r polisi yma o orfodi pobl i wneud gwaith ‘gwirfoddol’ yw y byddai yn eu cynorthwyo i fynd yn ol i’r arfer o wiethio, i ddatblygu patrwm gwaith, ac i ddatblygu rwtin. Ffwlbri. Mae gwaith gwirfoddol wrth ei natur yn waith anstrwythredig ac yn ddibynol ar amryw o ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth yr unigolyn neu’r grwp cysylltiedig. Yn sicr nid yw’n demplad ar gyfer rhedeg busnes preifat. Dychmygwch sefyllfa o dalu cyflog i lywodraethwyr ysgolion – byddai rhaid codi ffioedd dysgu a byddai holl ethos yr ysgol yn newid. Dyna’r gwahaniaeth rhwng gwaith gwirfoddol a gwaith cyflogedig. 

Dylid ddim defnyddio gwirfoddolwyr i wneud gwaith cyflogedig a dylid ddim ceisio mesur gwaith gwirfoddol ar ei effaith economaidd. Mae’n nhw’n ddwy math gwahanol o waith a does dim posib newid un am y llall. Mae gwaith gwirfoddol yn sicr yn rhoi ystod gwahanol o sgiliau, darparu rhwydwaith ehangach, ac yn cynnig gwobrwyon y tu hwnt i’r materol. Mae hyn oll heb os am fod o gymorth i rywun sy’n chwilio am swydd. Ond dyma hefyd natur y gwaith, daw’r ymdeimlad o gyflawniad yn rhinwedd y ffaith mai gwaith gwirfoddol ydyw. Cyn gynted ag y mae rhywun yn cael eu gorfodi yn erbyn eu ewyllys yna mae’n colli pob rhinwedd ac yn gwneud sefyllfa drwg yn waeth. 

Mae’r Cabinet yma sy’n llawn miliwnyddion am orfodi i’r tlotaf a’r mwyaf anghenus i wneud gwaith di-dal tra ar yr un pryd ei labeli yn gyhoeddus fel ‘scroungers’. Nid dyma’r ffordd i drin ein brodyr a’n chwiorydd. Dyma bolisi sydd wedi cael ei ddatblygu ar gefn label potel Chablis. Mae’n hawdd i bobl sydd a swyddi cyson, incwm cyson, cartref cyfforddus, i alw’r di-waith yn ddidoreth, ofn gwaith a’u cyhuddo am gael arian am ddim. Ond mae gan bob un o’r bobl yma, ein brodyr a’n chwiorydd, eu hamgylchiadau unigol y dylid ei ystyried wrth i ni chwarae efo’u bywydau. 

Os ydy rhai unigolion yn dewis cymryd mantais o’r system yna bydded i’r awdurdodau fynd ar eu hol hwy ar bob cyfrif, ond peidied a chosbi pawb oherwydd methiant yr ychydig.

1 Comment

Comments are closed.