Y mwyaf bregus yn colli rhagor o wasanaethau

Felly, nid yn unig fod y Llywodraeth am gau swyddfa basport Casnewydd, ond rydym ni’n clywed heddiw fod pum swyddfa basport lleol am gau hefyd, gyda swyddfa Wrecsam yn eu plith. 

Dyma 27 yn rhagor o bobl yn ardal Wrecsam ar y clwt felly, ac rwy’n cydymdeimlo yn fawr a nhw a’u teuluoedd. Mae’n gyfnod cythryblus, ac mae’n siwr eu bod nhw’n mynd trwy dipy o wewyr.

Serch hynny dydw i ddim am gynnig dadl yn y fan hyn ynghylch pam ddylai’r Llywodraeth gadw swyddfa Wrecsam yn unig ar agor, er fod yna hen ddigon o resymau pam na ddylid cau yr un o’r swyddfeydd lleol, ac yn wir mai cynyddu darpariaeth leol dylai llywodraeth sydd a’u bryd ar ddatganoli ei wneud! 

Yr hyn sydd yn fy mhryderi am y datganiad yma yw ei fod yn un arall eto fyth yn y rhestr gynyddol o wasanaethau sydd am daro Cymru yn waeth na rhanau eraill o’r DU. Tra fo cau 5 swyddfa lleol yn ganrhan bach o’r nifer sylweddol y mae’n nhw am gau drwy’r DU, mae’n nhw’n cynrychioli darpariaeth gwasanaeth i nifer helaeth o bobl Cymru. 

Wrth adael i’w hystyriaethau ynghylch toriadau yn ganolog gael eu benderfynu gan y ‘bottom line’ mae’n nhw’n diystyrru rol a gwerth cymdeithasol pethau fel swyddfeydd pasport lleol. Nid methiant y Ceidwadwr a’r Rhyddfrydwyr yn unig mo hyn, mae’n batrwm cyson a ddaw o du’r awdurdodau yn Llundain o bob lliw, ac roedd hyn yn arbennig o nodweddaidol o’r Llywodraeth Lafur. Dilyn patrwm gydol oes y mae’n nhw’n ei wneud yn y fan hyn, gyda’r ‘cyrion’ yn eu hachos hwy yn colli allan, ond gyda chenedl gyfan yn ein achos ni yn colli talp o wasanaeth.

Mae’n rhaid nad yw’r awdurdodau Prydienig naill ai yn ymwybodol o amgylchiadau ac anghenion unigryw Cymru, neu ddim yn poeni. Rwy’n amau mai cyfuniad ‘r ddeu-beth yw’r gwir. Amgylchiadau megis economi mwy bregus, lefelau tlodi uwch, cyfartaledd incwm is, trefniadau teithio anos a llawer iawn mwy, oll yn golygu y bydd y datblygiadau yma yn taro trigolion Cymru yn waith nag ardaloedd eraill mwy canolog a mwy llewyrchus. 

Mae’r penderfyniad yn cael ei dymheru gyda’r cyhoeddiad y bydd gwasanaeth teithiol yn cael ei gynnig. Does dim cyhoeddiad arall wedi cael ei roi ynghylch beth, yn weithredol, y mae hyn yn ei olygu. Ond mae’n codi’r cwestiwn pam nad yw’r wasanaeth deithiol yma yn cael ei gynnig i bawb gan ddiddymu pob swyddfa cyfweld? Prif gost swyddfa gyfweld yw cost refeniw, y cyflog. Er mwyn cynnig yr un lefel o wasanaeth felly byddai rhywun yn disgwyl cynnig yr un lefel o staffio. Y gwir yw mai gweithred ermwyn torri costau yw hyn, ac mae disgwyl y bydd safon y gwasanaeth yn disgyn yn aruthrol yn dilyn cau y swyddfeydd lleol yma.

Rhaid cofio mai swyddfa gyfweld ydyw yn darparu gwasanaeth i oedolion sydd erioed wedi cael pasport o’r blaen. Mae’n deg dweud mai’r tlotaf a’r henoed yw’r mwyafrif o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Unwaith eto felly mae gweithredoedd y Llywodraeth ConDem felltigedig yma am effeithio ar y gwanaf yn ein cymdeithas yn waeth.