Adroddiad Browne – Niweidio Addysg Uwch Cymru

Mae’r newyddion ddoe ynghylch argymhellion yr Arglwydd browne wedi cael tipyn o sylw. Mae’n ddiddorol gweld y Lib Dems yn ceisio cyfiawnhau y galw i ganiatau Prifysgolion  i godi unrhyw lefel o ffiodd dysgu. Rwy’n gobeithio y caiff y blaid ddi-egwyddor a di-enaid honno ei chosbi yn arw pan ddaw etholiadau 2011. ond nid dyna’r pwynt yr wyf i am ei drafod yma.

Byddai caniatau i Brifysgolion godi crocbris am addysg yn hynod niweidiol i ddyfodol cymunedau tlotaf y DU. Mae anhegwch sylfaenol codi ffioedd a digswyl i’r myfywryr dalu am yr addysg trwy fenthyciad fydd ag iddo log cymharol i log y farchnad agored ar fenthyciadau yn golygu y bydd gan fyfyrwyr ddyledion o ddegau o filoedd a llog parhaol. Mae hynny yn wybyddus i ni oll. beth sydd heb gael ei son amdan gyment yw sut bydd disgwyl i’r myfyriwr yna wedyn i fynd ati a sefydlu aelwyd a magu teulu? Er gwaethaf y dirwasgiad a chwymp yng ngwerth tai, mae prisiau tai yn parhau i fod yn affwysol o uchel, ac mae rhent yn afresymol o uchel yn y mwyafrif o’n trefi ni. Sut bydd disgwyl i fyfyriwr dalu hyd at 10% o werth ty fel blaendal  (£20,000 ar dy werth £200k) ac yntai yn gwario cyfran helaeth o’i bae ar ad-dalu dyledion? Dywed yr Arglwydd Browne na fydd disgwyl iddyn nhw daly y ddyled yn ol tan eu bont yn croesi trothwy o £21,000 o gyflog. Ond dyw hynny ddim yn ddigon i ganiatau i’r myfyriwr i brynu ty yn y farchnad dai beth bynnag!

Ond nid dyna’r pwynt yr wyf i am fynd ar ei ol chwaith.

Mae adroddiad Browne yn un amserol iawn i’r Ceidwadwyr. Mae’r Ceidwadwyr wedi gwneud sioe fawr o honni fod yna reidrwydd arnyn nhw i wneud toriadau anferthol yng ngwariant y llywodraeth ganolog oherwydd y ddyled anferthol sydd ganddi.

Y gwir yw mai penderfyniad eidiolegol yw hyn. Does yna ddim rheidrwydd i dorri yn ol i’r fath raddau mor fuan gan gwtogi yn sylweddol ar wasanaethau hanfodol. Os fyddai’r llywodraeth o ddifri am edrych i leihau’r ddyled y cam cyntaf dylai fod i edrych ar sut mae cael mwy o arian i fewn i’r coffrau. Fel rwy wedi son mewn blogiad eisioes, er enghraifft trwy orfodi non-doms a busnesau mawr i dalu treth llawn Brydeinig. Ond dydyn nhw ddim yn gwneud hyn, nac ychwaith a diddordeb mewn gwneud hyn.  Mae’r Ceidwadwyr erioed wedi lleisio eu cred na ddylai’r wladwriaeth ‘ymyrryd’ ym mywyd beunyddiol pobl . Y ddyled wladol yw eu hesgus i weithredu hyn i’r eithaf, trwy dorri yn ol yn sylweddol ar wariant cyhoeddus fydd yn ei dro yn eu galluogi i newid y cyfraddau treth incwm ac yn y blaen.

Wrth ddadlau felly y dylai myfyrwyr dalu am eu haddysg eu hunani mae hyn yn rhoi cyfle i’r llywodraeth edrych unwaith yn rhagor ar wariant cyhoeddus – y tro yma gwariant ar addysg uwch.

Blwyddyn diwethaf fe dderbyniodd HEFCE (Higher Education Funding Council for England) ychydig dros £7bn yn bennaf er mwyn arianu’r Prifysgolion. Mae cyplysu yr angen am dorri gwariant cyhoeddus gyda chynyddu taliadau preifat (ffioedd dysgu) yn rhoi y cyfle perffaith iddyn nhw i dorri hyn yn oed ymhellach ar yr arian a roddir i addysg uwch, ac rwy’n siwr y gwelwcn ni gwymp sylweddol yn yr arian a roddir i HEFCE dros y blynyddoedd nesaf.

Nawr efallai eich bod chi’n meddwl beth sydd a wnelo hyn ag addysg uwch yng Nghymru? wedi’r cwbl mae Addysg wedi ei ddatganoli. Tra fo hynny’n wir mae’r bloc grant y mae’r Cynulliad yn ei dderbyn oddi wrth San Steffan yn cael ei benderfynu trwy fformiwla arbennig – yr enwog Barnett. Wrth gwtogi ar gyllido addysg uwch yn Lloegr mae i hyn beth a elwir yn ‘Barnett Consequential’. Sgil effaith hyn yw y bydd llai o arian am ddod i Gymru.

Wrth gwrs gan mai ‘bloc grant’ ydyw penderfyniad y Llywodraeth ym Mae caerdydd yw hi sut a ble mae’n nhw’n didoli yr arian yma, ond os fyddan nhw’n dewis cynnal cyllideb addysg uwch yng Nghymru a chadw at y polisi o beidio a chodi ffioedd dysgu yma ymhellach, yna mae yna adranau eraill am ddioddef yn sgil y Barnett Consequential yma. mae’n anodd iawn felly gweld sut all Llywodraeth y Cynulliad o ba bynnag liw a) beidio a thorri cyllideb Addysg Uwch yn Nghymru a b) beidio a chael eu temptio i godi’r cap ar ffioedd yma.

Pwy bynnag ffordd yr eith hi y Prifysgolion fydd yn dioddef fwyaf fydd Glyndwr, Morgannwg a Chasnewydd, y prifysgolion hynny sy’n dibynol i raddau helaeth iawn ar y boblogaeth leol .

Sgil effaith pellach hyn yw y bydd yr economi leol yn dioddef, gyda llai o bobl yn mynd i Brifysgol; y cyfoethocaf yn talu am yr addysg orau posib a’n cymunedau difreintiedig ni yn methu a rhoi addysg uwch i’w phobl nid oherwydd anallu academaidd ond oherwydd anallu economaidd.

Rhaid i ni wrthwynebu argymhellion Browne os ydym ni am weld holl bobl Cymru yn cael cyfleon cyfartal i dderbyn addysg uwch.

– DIWEDDARIAD –

Ymddengys fel bod yr ofnai yr oeddwn i’n crybwyll uchod ynghylch toriadau i addysg uwch Lloegr yn wir. Yn ol y BBC heddiw mae Prifysgolion Lloegr yn wynebu toriadau o £4.2bn

-DIWEDDARIAD 2-

Mae’r arbenigwr Peter Mackie o Brifysgol Caerdydd yn cyd-fynd gyda fy mhryderon na fydd graddedigion newydd yn medru fforddio prynu tai: yma.