Menter cyffrous Llangollen yn y fantol

Bnr. Pol Wong

Mae Llangollen yn dref ffodus mewn sawl ffordd. Efallai nad hon yw’r dref mwyaf llewyrchus nac ychwaith y mwyaf cyfoethog, efallai nad hon yw’r dref hawsaf iw chyrraedd, er yn ei hanterth roedd hi ar un o ffyrdd prysuraf yr Ymerodraeth Brydeinig, gyda nifer yn galw yno ar y ffordd i Ddulyn o Lundain; serch hynny mae amseroedd yn newid ac erbyn hyn mae Llangollen yn cael ei marchnata fel tref yr Eisteddfod Rhyngwladol, ac yn gyrchfan hyfryd a phrysur i dwristiaid o ddinasoedd Canolbarth a gogledd orllewin Lloegr. Mae twristiaeth yn parhau i fod yn un o brif gyfranwyr economaidd y dref. 

Mae yno nifer o siopau hyfryd, patisserie gwych, siop lyfrau ail-law arbennig, tafarnau da, wgestai cyfforddus, ond mae arni hefyd angen tipyn o fuddsoddiad. Ma’er bobl lleol yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae’r to iau yn symud i ffwrdd er mwyn cael swydd a thy. 

Mae’r dref yn ffodus o’i phobl. Mae’r gosodiad yma yn wir am bob cymuned – gall cymuned ddim ond bod mor fywiog a gweithgar ag y mae’r bobl sy’n byw ynddi yn caniatau iddi fod. Os nad yw trigolion y gymuned yn chwarae eu rhan i gadw’r gymuned yn fyw, yna nid yw’r ddim mwy na chymuned ffug, casgliad o unedau fydd yn y pendraw yn edwino a marw. Ond mae Llangollen yn ffodus am fod yno ymdeimlad o berthyn, balchder yn ei hanes, a phobl sydd yn fodlon rhoi o’u hunen i sicrhau fod y gymuned yn ffynnu a thyfu. 

Mae cynllun Powys Fadog, o dan ofal y Bnr. Pol Wong, yn enghraifft perffaith o’r ymroddiad a’r cariad yma at Langollen, gydag ymdeimlad brwd o falchder lleol ac awydd i weld busnesau’n ffynnu, cadw talent cartref, a hyrwyddo diwylliant lleol.

Mae Pol yn unigryw. Rwy’n dweud hynny fel canmoliaeth. Mae’n wladgarwr balch, wedi dysgu Cymraeg yn rhugl … ac mae’n fynach Shaolin! Mae ef yn un o ddim ond llond dwrn o fynachod Shaolin sy’n byw y tu allan i Tsieina, ond yn fwy na hynny mae’n Gymro wedi ei eni a’i fagu yma.

Mae nodweddion unigryw Pol, ei addysg Kung Fu Shaolin, ei gysylltiadau gyda’r temlau Shaolin yn Tsieina, ei ddealltwriaeth o ymarfer corff, maeth, a’i gwerthfawrogiad o hanes a diwylliant lleol, wedi rhoi iddo genhadaeth y mae’n teimlo fod ganddo ddyletswydd iw gyflawni. Y genhadaeth hon a ysbrydolodd prosiect Powys Fadog.

Mae’r weledigaeth yn syml ond hefyd yn anhygoel – i ddatblygu canolfan ddiwylliannol yn y River Lodge, Llangollen i addysgu gwerth hunan ddisgyblaeth, byw yn iach, a gwerthfawrogiad o’r hamgylchedd drwy hanes a gweithgaredd cymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg a dysgeidiaeth Kung Fu Shaolin i bobl ifanc .

Byddai’r ganolfan yn anelu i dyfu eu bwydydd organig eu hunain, annog mentergarwch, a rhoi ymdeimlad o bwrpas a balchder i’r cyfranogwyr. Ar yr un pryd byddai’n denu pobl o bob cwr o’r byd, gan roi hwb i’r economi leol, gan wneud Llangollen yn gyswllt annatod yn rhwydwaith gynyddol fyd-eang y Shaolin, ond gyda brand unigryw Cymreig.

Mae’n weledigaeth gyffrous, a byddai’n dod â bri gydag ef. Ymddengys fel fod pobl Llangollen yn gefnogol. Mae’r grŵp Powys Fadog wedi treulio’r 10 mlynedd diwethaf i ddatblygu’r prosiect hwn, ac wedi cyflawni rhai llwyddiannau nodedig iawn. Maent wedi sicrhau cyllid sylweddol, maent wedi sicrhau prydles ar yr adeilad, River Lodge yn Llangollen, oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, ac wedi datblygu cynlluniau pensaernïol. Maen nhw wedi mynd mor bell a phenodi contractwyr i wneud y gwaith. Yn wir, hyd nes y llynedd roeddynt yn hyderus eu bont am weld gwireddu eu breuddwyd, ac roedd y dyfodol yn ddisglair.

Ond mae hyn oll yn awr yn y fantol.

Daeth yr arwydd cyntaf fod yna broblemau o du yr aelod Cynulliad lleol, Karen Sinclair. Mae’r Fns. Sinclair wedi mynegi ei gwrthwynebiad llwyr trwy gydol oes y prosiect. Mae hi wedi cysylltu â Gweinidogion y Llywodraeth yn honni bod Powys Fadog wedi methu â chael cymorth ariannol ac yn dweud nad oes gan y cynllun unrhyw gefnogaeth leol. Dydy hi ddim yn cefnogi’r honiadau hyn gyda thystiolaeth, gan nodi haeriadau personol yn unig. Y neges a roddir allan gan Karen Sinclair yw nad yw hi’n cefnogi datblygiad busnesau bach lleol (heb unrhyw gost i’r pwrs gwladol – prydles ydyw cofier), ac nad oes ganddi ddim parch at ddiwylliant lleol.

Yn ail prynwyd y River Lodge gan y WDA (Adran Prynu Tir) corff sydd bellach wedi ei ddiddymu, gyda’r golwg o roi prydles i Powys Fadog. Mae’r brydles yma ar fin dod i ben, ond mae’r prosiect wedi oedi ar ochr y Cynulliad gan fod y swyddogion (gynt y WDA bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru) yn cael eu harchwilio ar gyfer camau disgyblu ers yn gynharach eleni. Tra fo’r cyhuddiadau disgyblu yn cael eu harchwilio mae’r cynllun cyfan yn sefyll yn llonydd. Yn y cyfamser mae amser yn rhedeg allan yn gyflym ar y brydles.

Er bod y gweithdrefnau mewnol o bwysigrwydd amlwg er mwyn medru gwerthfawrogi sefyllfa’r Cynulliad, mae’n bosibl canolbwyntio yn ormodol ar y gweithdrefnau mewnol ar draul y darlun ehangach. Y gwir amdani yw bod yma brosiect lleol cyffrous sydd â’r nod o ddod a budd nid yn unig i’r dref ond hefyd i’r ardal ehangach, gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar barch at yr hunan, y gymuned a’r diwylliant, pob un ohonynt yn uchel ar restr y Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol. Ond eto mae mewn perygl o fethu.

Rwy’n sylweddoli fod yr archwiliad cyfredol sy’n cael ei wneud i’r cytundeb rhwng yr hen WDA a Phowys Fadog yn dangos pryder am y berthynas rhwng un o’r swyddogion a Grŵp Powys Fadog (gwnaed y swyddog yn gyfarwyddydd i’r grŵp, gan ei hapwyntio yno mewn ewyllys da er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ar ran y perchnogion tir), ymhlith materion eraill. Ond roedd yr holl wybodaeth yma yn hysbys ac fe’i wnaed yn gyhoeddus ar adeg y prynu. Cafodd y cytundeb prydles ei gymeradwyo gan uwch reolwyr Awdurdod Datblygu Cymru. Roedd Pol yn rhedeg busnes llwyddiannus o’r River Lodge – yr ysbrydoliaeth i’r prosiect. Rwy’n amau a fyddai’n dymuno peryglu ei fusnes ei hun, ei incwm a’i ffordd o fyw ar gytundeb amheus gyda chorff Llywodraethol. Yr oedd y weledigaeth eirias yma a’r awydd i briodi dwy ddiwylliant er yn ddaearyddol bell oedd eto rhanu nifer o nodweddion (Cymraeg a Tseiniaidd) at eu gilydd wrth odre Dinas Bran yrrodd ef at ddatblygu prosiect Powys Fadog. Llwyddodd hyd yn oed i drefnu ymweliad gan fynach Shaolin uchel ei barch o Tsieina i helpu i ddatblygu syniadau a bendithio’r fenter!

Rwy’n ofni y collwn ni’r prosiect cyffrous yma os fydd yr archwiliad mewnol yn llusgo ymlaen rhagor. Mae’n brosiect gwerth chweil sy’n haeddu ein cefnogaeth. Rhaid i ni hybu a hyrwyddo prosiectau arloesol fel hyn os ydym i ganiatáu i fusnesau lleol i ddatblygu a rhoi ffocws a dyfodol ar gyfer ein pobl ifanc yn ein cymunedau.