Plaid Cymru yn annog Tetra Pak i barhau cynhyrchu yn Wrecsam
Mae Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd yn annog Tetra Pak i beidio â rhoi’r gorau i gynhyrchu yn eu ffatri yn Wrecsam, gan honni er fod y diwydiant pecynnu yn dioddef ar y foment y gall Tetra Pak ddod trwy y cyfnod negyddol yma yn hawdd gan fod mewn sefyllfa nerthol pan fydd tyfiant yn dychwelyd.
“Fe wnaeth Tetra Pak swm aruthrol o £ 8.16bn o elw yn fyd-eang y llynedd. Maent yn arwain y farchnad yn eu maes a gallant fynd trwy ychydig o flynyddoedd negyddol yn hawdd”meddai Mabon ap Gwynfor. “Yn gyhoeddus maent yn dweud fod hanner cynnyrch Wrecsam yn cael ei allforio, ond bod eu datblygiadau newydd yn Rwsia a’r Dwyrain Canol yn golygu y bydd y farchnad hon yn diflannu. Mae hyn yn gyfianwhad annilys dros symud dramor. Yr anhawster gyda’r llinell hon yw bod y farchnad pecynnu waethaf yn Nwyrain Ewrop, ac y gorau yn Asia, yn fwy arbennig Tsieina, felly mae’n debygol y bydd y ddau safle newydd yn Rwsia a’r Dwyrain Canol yn cynhyrchu deunydd pacio ar gyfer allforio yn ogystal . Yr wyf yn bryderus, felly, bod busnesau yn defnyddio’r dirywiad economaidd presennol fel esgus i symud er mwyn rhoi hwb i gynhyrchu eu helw hyd yn oed ymhellach ar draul y gweithlu yma.
“Mae’r gweithlu yn Wrecsam yn un medrus ac ymroddedig, ac mae Wrecsam wedi gwasanaethu’r cwmni yn dda am dros 30 mlynedd. Dylent aros gyda Wrecsam, ac elwa ar y manteision pan fydd y twf economiadd unwaith eto. ”
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor, “Yr hyn sy’n fy ngwneud i’n flin am y sefyllfa hon yw’r ffaith bod sylfaenydd Tetra Pak, Hans Rausing, yn breswyliwr yn y DU, mae ganddo dros £4 biliwn yn ei gyfrif banc (ef yw’r dyn cyfoethocaf yn y Deyrnas Unedig), ond nid yw’n talu unrhyw dreth yma, mae’n ‘noni-dom’! Mae’n llwyddo i osgoi talu degau o filiynau o bunnoedd mewn dreth – arian mae wedi ennill drwy waith caled pobl fel y gweithlu yn Wrecsam, arian y gellid yn awr ei roi i sicrhau parhad cynhyrchu yn y ffatri, neu ddatblygu rhagolygon yn gweithwyr hynny sydd am golli eu swyddi, ond yn hytrach mae’n dewis gwario ei arian ar foethau i’w hun a’i deulu. Mae’n anfoesol, a ffiaidd. Hoffwn i weld Mr Rausing yn dod draw i Wrecsam yn ei Hofrennydd o’i balas yn Surrey ac esbonio i’r gweithlu pam eu bod ar fin cael eu diswyddo ar ôl llafurio am ei biliynau ef. “