Ymgesiyddiaeth

Mabon ap Gwynfor yn annerch Cynhadledd Plaid Cymru

Mae’n anrhydedd fawr i gael fy newis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth De Clwyd. Y rheswm wnes i roi fy enw ymlaen, oedd achos fy mod wedi cael llond bol yn cwyno am bethau. Nid oeddwn yn gallu credu fod y Blaid Lafur, ar ôl 13 mlynedd i wneud gwahaniaeth, wedi treulio eu hamser yn gwneud dim i bobl yr ardal ac i bobl Cymru yn gyffredinol, ac yn hytrach wedi ein gadael gyda dyledion enfawr sydd rhaid i bobl gyffredin fel chi a mi dalu yn ôl. Ar ôl cael yr holl amser mewn grym, ni wnaethon nhw unrhyw beth o werth i’r ardal hon ac eto wnaethon nhw lwyddo i gael ei ail-ethol yma yn yr etholiad diwethaf. Mae’n amser am newid, ac fe wnes i feddwl, yn hytrach na chwyno, ddylwn i roi fy hun ymlaen a newid pethau.

Mae De Clwyd yn ddibynnol iawn ar y gwasanaeth cyhoeddus, ac rwy’n ofni ein bod ar drothwy cyfnod anodd iawn yn dilyn Adolygiad o Wariant y llywodraeth a fydd yn taro’r tlotaf galetaf. Mae datblygu polisi tai teg hefyd yn fater o bwys mawr i bobl, ac mae angen ethol Aelod Cynulliad a fydd yn sefyll i fyny yn erbyn cynllun ehangu gorllewin Sir Gaer – yr wyf yn parchu ac yn cefnogi’r angen am gydweithrediad traws-ffiniol, mae cleifion y galon, o’r ardal yma er enghraifft yn ddibynnol ar Ysbyty Broadgreen, ond nid yw cydweithredu traws-ffiniol yn golygu bod yn rhaid i chi gytuno i raglen datblygiad tai enfawr sydd wedi’i gynllunio i ateb anghenion tai gogledd orllewin Lloegr ar draul ein tir a’n diwylliant.

Mae’r pleidiau Llundeinig i gyd wedi ein gadael i lawr, yn bennaf oherwydd nad oes gyda nhw weledigaeth ar gyfer Cymru – yn sylfaenol nid ydynt yn poeni amdanom ni. Gofynnwch i chi’ch hunain sut y mae polisi economaidd a gynlluniwyd ar gyfer Llundain, yn un o’r dinasoedd cyfoethocaf yn y byd, yn mynd i weithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru? Fel plaid mae gennym syniadau a ddatblygwyd yng Nghymru i ateb anghenion Cymru. Dyna pam y dylai pobl bleidleisio drosom ni – mae angen y gallu arnom i gymryd rheolaeth o adnoddau ein gwlad fel bod y bobl yma yn cael budd o’r cyfoeth a grëwyd gan ein hadnoddau. Cymerwch dŵr fel enghraifft, mae gennym filiynau o alwyni ohono, sy’n berffaith ar gyfer creu ynni ac anghenion y cartref, ond nid ydym yn ei reoli na chael budd ohono mewn unrhyw ffordd. Dylai pobl yr ardal hon elwa o’r cyfoeth a grëwyd gan ddŵr yr ardal hon.

Mae gan fy nheulu gysylltiad gwleidyddol cryf â’r etholaeth. Fe wnaeth fy nhad-cu, Gwynfor Evans, sefyll fel ymgeisydd Seneddol yn yr hen Feirionnydd yn 1955 a ’59 a oedd yn arfer cynnwys y rhan orllewinol o De Clwyd, ac fe wnaeth fy hen daid Dan Evans, rheolwr banc yn Wrecsam ar y pryd, sefyll yn hen sedd Wrecsam ym 1951 a oedd yn cynnwys ar y pryd y rhan fwyaf o etholaeth bresennol De Clwyd.

Fel teulu rydym wastad wedi credu mewn cefnogi’r rhai sydd angen cynrychiolaeth. Bu fy nheulu yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth i mi ac yn fy atgoffa, os ydym yn rhoi ein meddwl ar rywbeth, gallwn gyflawni pethau gwych. Gyda chymorth pobl De Clwyd gallwn gyflawni rhywbeth arbennig iawn yma’r flwyddyn nesaf!