Y profiad i ennill / The experience to win

(English version below)

Os ydym o ddifri am ail ennill Dwyfor-Meirionnydd o ddwylo gwleidydd sydd wedi bod wrthi ers degawdau, yna rhaid cael ymgeisydd sydd gyda phrofiad o redeg ymgyrchoedd, dadlau’n gyhoeddus, ac ennill cefnogaeth ac etholiadau.

2017 – presennol: Cynghorydd Sir dros Blaid Cymru;
2011 – presennol: prif ymchwilydd Gwleidyddol Llyr Gruffydd AC (cyflogedig);
2016 – ymgeisydd Plaid Cymru, De Clwyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynyddu’r bleidlais;
2015 – ymgeisydd Plaid Cymru, De Clwyd, Senedd San Steffan gan gynyddu’r bleidlais;
2013 – ail i Liz Saville Roberts ar gyfer enwebiad Dwyfor Meirionnydd, allan o 6 ymgeisydd;
2012/3 – cyd-sylfaenydd a chadeirydd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru;
2011 – Asiant a threfnydd ymgyrch Ie Dros Gymru, Sir Ddinbych a De Clwyd;
2011 – ymgeisydd Plaid Cymru, De Clwyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynyddu’r bleidlais;
2010 – cadeirydd ymgyrch etholiadol Elfyn Llwyd, Dwyfor-Meirionnydd;
2006-2011 – Cydlynydd Plaid Cymru Dwyfor-Meirionnydd/Ceredigion, ac Aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol;
2005 – sefydlu ‘refferendwm tecst’ cyntaf Ewrop (o bosib y byd);

2005 – sylfaenydd CymruX, mudiad Ieuenctid Plaid Cymru, sydd wedi tyfu i fod yn Plaid Cymru Ifanc;
2005 – ymgeisydd Plaid Cymru, Brycheiniog a Maesyfed (ar gais Plaid Cymru), San Steffan gan gynyddu’r bleidlais;
2004 – trefnydd ymgyrch etholiadol Elin Jones, Ceredigion;
2004 – cydlynydd etholiadau Cyngor Ceredigion i Blaid Cymru;
2004-2006 – Cynghorydd Tref Aberystwyth;
2004 – ymgeisydd Cyngor Sir Ceredigion ar gais y Blaid yn ward Llanfarian;
2001-2004 – swyddog y wasg i Elin Jones AC a Simon Thomas AS (cyflogedig);
2000/01 Swyddog Cenedlaethol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr;
2000/01 – Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor;
1999/2000 – Cadeirydd Undeb Myfyrwyr Bangor;
1998-2001 – Cadeirydd Myfyrwyr Plaid Cymru ac aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Myfyrwyr Plaid Cymru;
1997 – 6 mis o waith di-dal fel rhan o ymgyrch Seneddol Rhodri Glyn Tomos, yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr;
1997 – aelod o Bwyllgor Ie Dros Gymru Castell Nedd a Phort Talbot.

Yn wir, rwy wedi bod yn wleidyddol ers fy od yn ddim o beth!

Ymgyrchu ers yn blentyn

 

Ymddangosiadau cyfryngau: Mae Plaid Cymru wedi fy rhoi ymlaen i gyflwyno syniadau neu amddiffyn y Blaid ar sawl achlysur, yn enwedig yn ystod cynhadleddau ac etholiadau.

Rwy wedi bod ar Newyddion a rhaglenni materion cyfoes teledu a Radio BBC Cymru/Wales/Rhwydwaith, ITV ac ITV Cymru.  Hefyd wedi cael dyfyniadau yn y Mirror, Independent, Guardian, Daily Post, Western Mail, papurau lleol, Private Eye ac eraill. Colofnau wedi ymddangos yn Nation.Cymru, Daily Post a phapurau lleol.

Gallwch ddarllen fy nghyfraniadau yn y wasg yma: BBC, Daily Mirror, yn Iwerddon, Golwg, Daily Post, Western Mail, Guardian.

 

Rwyf wedi traddodi nifer o areithiau allweddol yng nghynhadleddau Plaid Cymru, yn ogystal â chyflwyno cynigion a chyfrannu at ddadleuon.

Rwyf wedi bod yn siaradwr swyddogol ar ran Plaid Cymru mewn cyfarfodydd cyhoeddus nifer fawr o weithiau, yn cynnwys dadl ben-ben â Neil Hamilton ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2017 yn dadlau achos annibyniaeth.

Ysgrifenais bapur yn ddiweddar i Blaid Cymru ynghylch annibyniaeth a gafodd ei drafod yn yr Ysgol Aeaf (2017).

Rwy wedi ysgrifennu tystiolaeth i Bwyllgorau Seneddol yn cefnogi polisiau Plaid Cymru.

Rwy wedi cyfrannu at y broses o lunio maniffesto Plaid Cymru drwy gyflwyno syniadau a gafodd eu cynnwys. Hefyd roeddwn yn gyd-awdur maniffesto Sir Ddinbych yn 2017 ac yn ymgynghorydd ar faniffesto Conwy yn 2012.

Rwy hefyd wedi cydlynnu sawl ymgyrch welidyddol llwyddiannus – cadw cartref gofal Cysgod-y-Gaer yn agored; Cadw meddygfa wledig yn agored; cadw gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru; cadw gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty’r Maelor Wrecsam; diogelu cyffordd Dwyryd, cadw siop gymunedol yn agored, cadw peiriannau twll yn y wal, yn ogystal ag ymgyrchoedd eraill, megis cadw banciau gwledig ysbytai cymunedol, ac eraill.