Araith i gefnogi Ysgol y Parc

Diolch am y croeso a’r gwahoddiad i gynnig gair o gefnogaeth i Gymuned y Parc.

 Rwy’n arbennig o falch o gael y cyfle yma i gyflwyno gair o gefnogaeth i gymuned y Parc ac annogaeth ar i’r Cynghorwyr hynny sydd yn pleidleisio ynghylch dyfodol yr ysgol ddydd Iau nesaf i gefnogi gwelliant Cymdeithas yr Iaith.

 Rwy’n falch o’r cyfle achos fy mod i fy hunan wedi bod yn ansicr ynghylch y broses yma gan gefnogi’r strategaeth ar adegau, ac ei wrthwynebu ar adegau eraill. 

Ar yr un llaw mae pob egwyddor sylfaenol sydd gennyf i yn dweud y dyliwn ni gadw ysgolion yn eu cymunedau, ond ar y llaw arall mae rheswm economeg yn dweud fod pethau yn anodd ac nad yw cynnal y ‘status quo’ yn opsiwn. 

Ond dyna’r union bwynt. Does neb yma yn galw am gadw y Status Quo, neb hynny yw heblaw am ambell i ‘chancer’ gwleidyddol. Mae pob un yn sylweddoli ac yn derbyn yr angen am ail drefnu addysg yn y sir. Dyna pam fod Cymdeithas yr Iaith yn galw ar i’r Cynghorwyr nid i bleidleisio yn erbyn y strategaeth ond yn hytrach i gefnogi gwelliant Y Gymdeithas, un fyddai’n golygu arbedion arianol, trwy fod pedair ysgol gynradd ac Ysgol y Berwyn yn cydweithio; gwelliant sydd â chefnogaeth gyffredinol drwy Benllyn –  un fyddai’n golygu cynnal yr ysgol yn y gymuned, gan roi gwell cyflau i’r gymuned barhau yn gymuned Gymraeg hyfyw. 

Mae hi wedi bod yn broses hir a phoenus hyd yma. Un o’r dadleuon a roddwyd i mi yn ôl ddechrau’r flwyddyn o blaid y strategaeth oedd fod yna reidrwydd ar i’r Cyngor gymryd y penderfyniadau amhoblogaidd yma oherwydd os na fyddent yn gwneud hynny nid yn unig y byddent yn colli allan ar symiau sylweddol o arian ychwanegol at y pot addysg, ond y byddai swyddogion y Cynuliiad yn dod i fewn ac yn gwneud y penderfyniadau drostyn nhw. Wel, y rhai sydd a chlustiau i wrando gwrandawer, os ydy Carwyn Jones yn gallu gwneud penderfyniad gwleidyddol ar ddyfodol Ysgol Treganna gan ofyn i’r Cyngor ail ystyried eu penderfyniad ar ôl blynyddoedd hir o drafod ail drefnu ysgolion yng Nghaerdydd heb y bygythiad o wynebu y gosb o golli allan ar filiynnau o bunnoedd, yna gall Carwyn Jones wneud yr un peth fan hyn a rhoi amser i swyddogion y Cyngor fabwysiadu gwelliant y Gymdeithas yn llawn. 

Mae pawb yn derbyn fod yn rhaid ail strwythuro addysg yng Ngwynedd, ond nid trwy aberthu ysgol lwyddianus sydd a record wych o addysg yn un o gymunedau Cymreiciaf a mwyaf diwylliedig Cymru y mae gwneud hynny. Ym mha fodd y mae hyn am wella’r ddarpariaeth o addysg i blant Y Parc, Penllyn, a Gwynedd? Nid ydyw am wneud. 

Y cwestiwn yw sut mae mynd ati i ail strwythuro addysg ym Mhenllyn ac yng Ngwynedd? 

Yr ateb sydd wedi cael ei roi ger ein bron yw’r strategaeth yma i gau ysgol y Parc a gofyn ar i’r dair ysgol arall gydweithio mewn modd anelwig ac ansicr. 

Y brif ddadl bellach o blaid y strategaeth yma, hyd y gwela i o’r hyn y mae cefnogwyr y strategaeth wedi ei ddweud wrthyf, yw’r ddadl addysgol – safon addysg, â’r honiad fod plant ysgolion bychain yn dioddef yn addysgiadol. Mae’n ddiddorol gyda llaw sut mae’r drafodaeth wedi newid yn llwyr o lle’r oedd hi flwyddyn yn ôl pryd yr honwyd bryd hynny mai plant ysgolion trefol oedd yn dioddef am fod ysgolion gwledig yn cael fwy o arian nag ysgolion trefol. Roedd honna’n ddadl trist ac anffodus a greodd rwyg rhwng y gymuned wledig a’r gymuned drefol. Dadl a greodd dipyn o atgasedd ac na ychwanegodd o gwbl mewn gwirionedd at y drafodaeth ynghylch dyfodol addysg yng Ngwynedd. Bellach mae’r un bobl yn dweud mai plant ysgolion gwledig sydd yn dioddef ac yn cael addysg israddol yn bennaf am nad ydyn nhw’n cael y profiad llawn. 

Mae yna ddeuoliaeth rhyfedd yma. Ar yr un llaw mae pob adroddiad addysg yn dangos fod addysg Ysgol y Parc yn rhagorol, ac mae arbenigwyr yn dweud eu bod hi’n well i blant cael eu dysgu mewn grwpiau bychain; ond yna rydym ni’n cael ein hanog i gredu fod yr addysg yn ddiffygiol – yn bennaf, hyd y gwela i, am nad yw’r plant yn gallu chwarae mewn tim pêl-droed! 

Ond mae gwelliant Cymdeithas yr Iaith yn mynd i’r afael a hyn ar ei phen. 

Rwy’n erfyn ar i’r cynghorwyr anwybyddu yn gyntaf y ddadl Tref vs. Gwledig – mae pobl Penllyn, o’r Parc i dref y Bala wedi dangos cefnogaeth i welliant Cymdeithas yr Iaith; ac hefyd i’r cynghorwyr beidio ag ystyried y ddadl am safon yr addysg a phrofiad addysgol y disgybl wrth iddyn nhw ystyried y bleidlais ddydd Iau. Byddai gwelliant arloesol y Gymdeithas o gael y bedair ysgol cynradd ac Ysgol y Berwyn i gydweithio yn ffurfiol fel ffederasiwn yn sicrhau y profiad llawnaf posibl i’r disgyblion.

 Ymhlyg yn y cwestiwn o sut y mae mynd ati i ail strwythuro addysg y mae cwestiwn llawer, llawer dyfnach a phwysicach sef: Beth yw pwrpas addysg? Cyn medru ateb y cwestiwn ail strywthuro, mae rhaid ateb y cwestwin yma. 

Cyn ateb y cwestiwn yma rwy am i ni gofio yn ôl bythefnos i gyhoeddiad a wnaed gan Iain Duncan Smith yn dweud fod y Llywodraeth ConDem bondigrybwyll yma yn ystyried annog pobl i symud cartref er mwyn cael swyddi. O ystyried y twll economiadd anferthol yr ydym ni ynddi, yn economaidd mae cynnig Iain Duncan Smith yn ateb lled synhwyrol. Gallai olygu twf economaidd sylweddol; cryfhau’r bunt; a GDP yn cynyddu. Byddai’r economi ar ei hennill. (Gyda llaw mae’n eirionig fod y Ceidwadwyr yn cynnig hyn ar yr un llaw tra’n gwrthod mynediad i ymfudwyr economaidd o dramor ar y llaw arall, ond a i ddim i lawr y trywydd hwnnw nawr!) Ond byddai economi Prydain ar ei hennill o weithredu cynnig IDS. 

Ond beth sydd a wnelo cynnig mudo economiadd IDS gyda dyfodol Ysgol y Parc? Wel efallai fod ateb IDS yn gwneud synnwyr economaidd, ond nid yw’n gwneud dim synnwyr cymdeithasol ac mae’n ateb sydd am wneud niwed dybryd i lu o gymunedau, rhwygo teuluoedd, a thorri y berthynas bregus rhwng pobl a’i cymunedau. Yn syml mae IDS a Swyddogion Cyngor Gwynedd yn cynnig yr un ateb i’r un broblem fel y mae’n nhw’n ei weld e, sef problem economaidd. 

Os ydyn ni’n gweld popeth trwy brism economaidd, ac mae’r farchnad a’i anghenion yw’r meistr, yna hafaliad economaidd yn unig a geir fel ateb. 

Gofynnais i ychydig yn ôl beth yw pwrpas addysg? Os ydyn ni fel unigolion ac fel cymdeithas yn credu mai diben addysg yw er mwyn darparu set o dŵls i’n plant er mwyn iddyn nhw gael gwell cyfle am swyddi a chyflogau gwell yn y dyfodol; yna mae IDS yn iawn, wedi’r cwbl wrth ddarparu ein plant gyda’r offer cywir er mwyn cyfoethogi eu hunain yn unig a wnawn ni drwy addysg, mae’n dilyn felly mai mynd i wella eu cyflwr economaidd y gwnan nhw achos dyna fydd wedi cael ei trwytho i fewn iddyn nhw.  Yn yr un modd, os ydyn ni’n gweld yr adran addysg fel hafaliad incwm a gwariant ar ei phen ei hunan ac mae problem economaidd yw ysgolion ac addysg, yna ateb economaidd a geir, a chanlyniad anochel hynny yw cau ysgolion bach gwledig. Y Parc fydd gyntaf. Mater o amser yw hi cyn bod ysgolion eraill y fro yn profi yn aneconomaidd. Does dim pwynt dadlau yn erbyn hyn, dyma yw rhesymeg economeg ac mai’r economi am fyny hyn.

 Ond rwy’n ymwrthod yn llwyr a’r gred mai rhoi gwell cyfle i’n plant i gyfoethogi eu hunen yw pwrpas addysg. Mae’r meddwl gwirdroedig ac unigolyddol yma yn rhoi y farchnad a’r economi o flaen pobl, ac yn dweud fod pobl yn bodoli ermwyn cefnogi’r farchnad, fod ysgol ac addysg yn rhan o’r drefn economaidd ac mae’r economi sy’n tra arglwyddiaethu. Mae hyn yn anghywir ac yn anfoesol. 

Nid chwarel i gael ei hecslpoetio am ei hadnoddau ac i’w gau pan ei bod hi’n dod yn aneconomaidd i’w chynnal mo Ysgol y Parc.

 Nid pwrpas ein bodolaeth ni yw i gefnogi yr economi, pwrpas yr economi yw i’n cefnogi ni, ac mae yna rhywbeth mawr wedi mynd o’i le yn ein blaenoriaethau ni fel pobl ac fel cymdeithas os ydyn ni’n rhoi’r  farchnad ac anghenion yr economi o flaen ein pobl.

 Wrth gwrs, un o ganlyniadau trist y meddylfryd unigolyddol yma yw’r hyn a welwn ni yma yn Nhryweryn heddi, gyda anghenion hunanol yn cael ei roi flaenaf heb ddim ystyriaeth i les y gymuned.

 Fel cenedlaetholwr Cymreig a rhyng-genedlaetholwr sydd yn gweld gwerth a chyfoeth yn ein cymunedau bychain ni, ma’n rhaid i ni ar bob adeg roi budd ac anghenion y gymdeithas yn gyntaf a gweithio’r atebion allan o amgylch hynny. Os ar unrhyw adeg wrth lunio atebion i broblemau ein cymunedau ein bod ni’n gweld fod y gymuned am ddioddef trwy ein gweithredoedd yna mae rhywbeth o’i le, ac mae gofyn arnom ni i ail edrych ac ail ystyried yr ateb.

 Pwrpas addysg yw i ddatblygu dinasyddion a phobl llawnach all gyfranu yn adeiladol at eu cymdeithas a’u gwlad, ac yn eu tro at ddynoliaeth. Mae plant ysgolion cymunedol, yn enwedig ysgolion addysg cynradd, yn cael eu trwytho yng ngwerthoedd y gymuned honno, yn magu cariad at fro, a theyrngarwch, nid yn unig trwy addysg ffurfiol, ond trwy’r holl weithgareddau all-gyrsiol a geir fel rhan o fywyd yr ysgol – y cyd-weithio, a’r cyd-ddibyniaeth. O’r holl wersi y mae plant yn ei gael yn yr ysgol, honna o bosib yw’r wers bwysica un. Os ydyn ni’n credu, fel yr ydw i, mai pwrpas addysg yw i fod yn rhan o’r broses o greu unigolion gwell a chymdeithas gwell i fyw ynddi, mae’n dilyn yn rhesymegol felly fod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddatblygu cynllun sydd am geisio sicrhau parhad addysg cynradd yn ein cymunedau, gan ystyried a rhoi’r cyfle i bob opsiwn posib.

 Pan fod rhywrai felly sy’n cefnogi’r strategaeth fel ag y mae yn mynnu mai addysg y plant sydd bwysicaf, mae’n rhaid i ni ofyn i’n hunen, ac yn bwysicach fyth mae’n rhaid iddyn nhw ofyn i’w hunen, a ydyn nhw’n dweud mae’r addysg sydd bwysicaf er mwyn i’r plant fedru wella eu potensial economaidd, yntau ai’r addysg yw’r brif ystyriaeth er mwyn i’r plant fedru bod yn ddinasyddion gwell all gyfranu yn adeiladol at ddynoliaeth?

 Rwy’n gwybod fod nifer o Gynghorwyr yng Ngwynedd yn genedlaetholwyr o’r un anian a finnau, ac mae’r cwestiwn hwnnw yn cael ei roi ger eu bron nhw ddydd Iau. A yw’r ateb sydd wedi cael ei roi ger eich bron gan y swyddogion yn y cyngor yn rhoi anghenion cymunedau Penllyn yn ganolog? rwy’n erfyn arnoch chi i feddwl o ddifri wrth bleidleisio ddydd Iau ac i ystyried yn fanwl a yw’r ateb arfaethedig yma yn debygol o niweidio y gymuned fach, Gymraeg hon? 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnig ateb arloesol sydd yn gosod anghenion holl gymunedau Penllyn, yn wledig a threfol, yn ganolog ac wedi cyflwyno datrisiad sydd a chefnogaeth cyffredinol trigolion Penllyn; un fyddai’n bodloni y cwestiwn economaidd; ac un fyddai’n galluogi plant y Parc i barhau y berthynas unigryw yma sydd ganddyn nhw a’u cymuned trwy’r ysgol, tra’n derbyn yr addysg orau posib fydd yn cyfoethogi y Parc, Penllyn, Gwynedd a Chymru ym mhob ffordd. 

Cefnogwch welliant y Gymdeithas a rhowch ein cymunedau yn gyntaf. 

Diolch yn fawr iawn.

3 Comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.