Araith Gwyl Heddwch

Cefais gyfweliad gyda’r BBC yn ystod yr wythnos, gyda’r ymchwilydd yn gofyn i mi beth oedd pwynt cynnal Gŵyl Heddwch? Yn fwy na hynny beth oedd pwynt ei gynnal yng Nghaernarfon?  Hynny yw, pa wahaniaeth fedrai gŵyl gymharol fach, mewn tref gymharol fechan, mewn gwlad fach ddi-rym ei wneud ? Pam mynd i’r drafferth?

Ar yr un llaw gall rhywun weld ei phwynt – nid ydym ni am basio unrhyw ddeddf newydd yma heddiw.  Dim ond Senedd San Steffan all wneud hynny yn ein gwlad ni (hyd yn oed fod gan y Cynulliad hawl i lunio ambell i ddeddf, mae’n gorfod cael yr ‘OK’ gan Lundain cyn cael dod yn ddeddf – bron y gellir dweud nad yw pobl Cymru yn oedolion eto, ac fod yn rhaid i ni ofyn caniatad ein gwarchodwyr cyn cael defnyddio’r ffôn, ond mater arall yw hynny).

Ond mae cwestiwn yr ymchwilydd yn adlewyrchiad o’n hoes, hynny yw os nad oes yna ganlyniad neu rywbeth mawr gweladwy yn newid heddiw, yna rydym ni’n gwastraffu amser, ac nid yw yn werth ei wneud. 

Felly beth yw pwrpas ein ymgynull ni yn y fan yma heddiw?  A all cynulliad bach o unigolion mewn cornel o’r byd sydd heb hunan-lywodraeth na’r gallu i wneud ei phenderfyniadau ei hun wneud gwahaniaeth?

Mae hanes diweddar ein cenedl a’n pobl yn dangos yn glir nid yn unig fod yna bwrpas, ond fod posib gwneud gwahaniaeth – weithiau gwahaniaeth bychan, ac ar adegau eraill gwahaniaeth mawr.  Ni yw’r hedyn mwstard.

Mae gan Gymru hanes hir a balch o’r traddodiad heddychlon, ac wedi cyfranu ar lefel rhyngwladol i sicrhau heddwch rhwng pobloedd daear.

Sefydlwyd y Gymdeithas heddwch yn Llundain yn 1816 gyda’r nod o lwyr ddiddymu rhyfel.  Evan Rees, Cymro, oedd yr ysgrifennydd cyntaf.  Bu i’r Gymdeithas fodoli am 120 o flynyddoedd, a Cymry oedd yr ysgrifenyddion am ymron i 100 o’r blynyddoedd hynny. 

Y mwyaf o’r rhain, ac o bosib ymgyrchydd heddwch mwyaf Cymru a mwyaf y ganrif honno, oedd Henri Richard o Dregaron – yr Apostol Heddwch. Roedd Henri Richard yn weinidog yn yr Old Kent Road, Llundain, o 1835 – 1850.  Yn 1853 sefydlodd ef a dau o’i gyfoedion bapur y Morning Star, ac ef oedd y golygydd cyntaf; ef hefyd oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Ysgolion Gwirfoddol yng Nghymru. Penodwyd Richard yn ysgrifennydd ar y Gymdeithas Heddwch ym 1850.  Roedd yn allweddol yn nhrefniadaeth y Cyngresi Heddwch Byd-Eang ym Mrwsel yn 1848, Paris 1849, Frankfurt 1850 a Llundain 1851.  Yng nghyfarfod Brwsel gosododd Richard a’i gyfaill Elihu Burritt thema radical – sef fod diarfogi yn angenrheidiol ermwyn sicrhau heddwch. A hyn nôl ym 1848! Yng nghyfarfod Paris y bu i Victor Hugo ddatgan ei freuddwyd am Unol Daleithau Ewrop, gyda’r bleidlais yn disodli y bwled a’r bom.  O ganlyniad i’r cyfarfodydd yma cafwyd trafodaith iawn am y tro cyntaf yn y wasg ynghylch di-arfogi ac yn erbyn militariaeth.  Henri Richard oedd yn arwain yr agenda, gan greu trafodaeth rhyng-genedlaethol.

Etholwyd Henri Richard yn AS dros Ferthyr Tudful yn 1868 (ac onid oes gan Ferthyr hanes balch yn hyn o beth, oblegid pwy etholwyd yn AS dros yr etholaeth ym 1900 ond yr heddychwr Keir Hardie). Yn 1873 llwyddodd i ddarbwyllo Gladstone i dderbyn cynnig “ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth ei Mawrhydi i argymell gostyngiad yn arfogaethau Ewrop”.  Er nad oedd yr ymgyrch arbennig honno yn llwyddianus mae’n dangos ei fod â’r gallu i arwain yr agenda yn Nhŷ’r Cyffredin. Un o’i lwyddianau mawr fel Aelod Seneddol oedd i’r Tŷ dderbyn ei gynnig

 “I orchymyn i’r ysgrifennydd cartref gysylltu a phwerau tramor ermwyn ceisio cyflwyno gwellianau pellach i’r gyfraith ryngwladol a sefydlu cyfundrefn gyflafareddu (arbitration) barahol”.

 Erbyn heddiw mae ganddom ni Lys Barn y Cenhedloedd Unedig.

 Rhoddodd gynnig yn condemnio anallu y Tŷ i wneud penderfyniadau ar Ryfel a Heddwch.  Collodd y cynnig o chwe phleidlais yn unig!  Dim ond heddiw, gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach y mae Gordon Brown yn sôn am drosglwyddo y penderfyniad am ryfel a heddwch i Dŷ’r Cyffredin; ac rydym oll yn gwybod y canlyniadau erchill a ddaw yn sgil gadael i lond dwrn o bobl wneud penderfyniadau o’r fath yn dilyn celwyddau Tony Blair a thrychineb Irac.

 Dadleuodd yn gryf yn erbyn y syniad o ‘ryfel amddiffynol’; a dadleuodd o blaid di-arfogi.  Hynny yw, mae dadleuon Henri Richard, er iddo farw ym 1888, yr un mor berthnasol i ni heddiw a beth oedden nhw bryd hynny. 

 Yna mae’r enw mawr arall yn Heddychiaeth Cymru, sef George M Ll Davies.  Yn 1911 roedd  George Davies yn Is-Gapten i’r ffiwsilwyr Cymreig, ond cafodd droadigaeth. Erbyn 1915 roedd yn gynorthwydd i Richard Roberts, heddychwr o Gymro arall ac ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod.  Roedd ei waith yn ganolog i sefydlu amryw o ganghennau o Gymdeithas y Cymod yr adeg yma, ac ef oedd yn gofalu am eu cylchgrawn misol The Venturer.  Aeth i’r carchar fel ‘conshi’ a threuliodd dipyn o’i amser mewn ac allan o’r carchar yn ystod y rhyfel byd cyntaf.  Tra’n AS dros Brifysgol Cymru – unig AS basiffistaidd Cristnogol y Senedd – Chwaraeodd George M Ll Davies rôl bwysig yn pontio rhwng Sinn Fein yn yr Iwerddon  a Lloyd George a llywodraeth Prydain.  Apeliodd i’r Arglwyddes Isabel Aberdeen ar i’r llywodraeth atal eu dialedd yn yr Iwerddon.  Llwyddodd i gael llywodraeth Lloyd George i drafod heddwch â de Valera. 

 Teithiodd i amryw o wledydd Ewrop ar ôl y rhyfel byd cyntaf yn edrych ar y difrod gan ymgyrchu dros leddfu trallod yr Almaen yn dilyn cytundeb Versailles.  Yn wir roedd ei waith cymodi yn ennill edmygedd ac enw iddo yn rhyngwladol.  Galwodd Gandhi am ei ddoniau, a bu’n rhan o’r trafodaethau cymodi cynnar rhwng India a Phrydain. 

Er ddim yn heddychwr danfonodd Gwilym Davies ‘Neges Plant Cymru i’r Byd’ ym 1922 ar delegram, a gyda Ifan ab Owen Edwards sefydlwyd y 18fed o Fai fel diwrnod ewyllys da. Byth oddi ar hynny mae plant Cymru wedi bod yn cyhoeddi neges o ewyllys da i holl bobl y byd. 

Ym 1934-5 trefnodd Undeb Cynghrhair y Cenhedloedd Bleidlais Heddwch ar ddiarfogi. Roedd 34% o’r Alban o blaid y cynnig; 37% yn Lloegr; ond yng Nghymru cafwyd 62% o’i Blaid. 

Ac yna mae Gwynfor Evans, Aelod Seneddol Cyntaf Plaid Cymru a etholwyd yn 1966.  Roedd yntai yn ‘gonshi’ yn ystod yr ail ryfel byd, ac yn ysgrifennydd am flynyddoedd lawer i Heddychwyr Cymru.  Gweithiodd yn ddi-flino dros heddwch, ac aeth yntai yn rhan o grwp Michael Scott allan i Fietnam adeg y rhyfel honno i sefyll o dan y bomiau yn Hanoi fel protest.  Bu iddyn nhw fethu a chael mynediad i’r wlad, ond roedd ei gred mewn heddwch a ffolineb rhyfel yn golygu ei fod yn fodlon rhoi ei fywyd ei hun er mwyn dwyn sylw at ddioddefaint eraill. 

Mae’n rhaid son hefyd am rôl merched Cymru fel ymgyrchwyr heddwch – Annie Humphries, Ysgrifennydd Cyntaf Heddychwyr Cymru; Marion Eames, y nofelydd; ac yn fwy na neb Merched Comin Greenham – gyda Jill Evans, sydd bellach yn ASE ac yn gadeirydd ar CND Cymru!  Criw o ferched o Gymru fartshiodd yn gyntaf i Gomin Greenham gan ddatgan, “We fear for the future of all our children and for the future of the living world which is the basis of all life”, gyda’r bwriad o herio y penderfyniad o’i wneud yn ganolfan i 96 o fomiau cruise.  Gwrthodwyd eu cais am drafodaith, ac o ganlyniad sefydlwyd y gwersyll heddwch yno. Rhodd hyn, yn anad dim arall, ffocws newydd ar yr ymgyrch gwrth niwclear yn yr 80au a hynny yn ystod anterth y rhyfel oer, ac anterth grym Thatcher a Regan.  Yno y collodd Helen Thomas, Cymraes ifanc ei bywyd wrth iddi gael ei lladd gan un o’r cerbydau milwrol.  Ond daeth y gwersyll yn symbol o heddwch. 

Mae amryw o heddychwyr mawr eraill wedi chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo heddwch yma a thramor – DJ Williams, Waldo Williams, Dan Thomas, Lewis Valentine, SR a rhagor eto. 

Felly mae yna bwrpas i griw o bobl i ymgasglu a thrafod heddwch fel hyn, ac mae un gornel fach o’r byd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.  Ys dywedodd y Dalai Lama – os y’ch chi’n credu eich bod yn rhy fychan i wneud gwahaniaeth, yna triwch gysgu gyda mosquito.

Some of you here today are veterans of the peace movement, and I salute you for the work that you have done. 

These examples of our history, role models for us today, have made a difference.  From humble beginnings, writing letters, discussions at small conferences, sharing ideas, and campaigning for world peace. 

What these men and women have in common above all else is their faith in humanity their hope, and their love for life.  

Unfortunately for us, people are greedy – we want more.  We want to become wealthier.  But for one person to become richer, another must become poorer. That’s the way that our capitalist society is structured. And it is the root cause of conflict today, and every conflict in history.  If we want to stop these wars then there’s one thing we can do as ordinary people – tell our governments that we’ve had enough, and that we’ve got enough.  Do we NEED more? No.  Do we WANT more – well that’s up to us.  Our consumerist greed feeds into the warmongers war efforts, and gives them what they deem to be ‘legitimate democratic reasons’ for killing and maiming, because while we may say we abhor war, we are getting richer as a consequence of it…so, we don’t quite abhor it enough.  How many people took to the streets last weekend to raise awareness about the atrocities in Darfur? How many people cued up outside a branch of Northern Rock on that same weekend? Now that’s not an entirely fair criticism, I admit, but I think that you get the point.  

Henry Richard believed that war was bad also because it ruined economies.  Unfortunately today that is not necessarily the case for the aggressors, because war, as Naomi Klein has recently pointed out, is by-now a multi-billion pound industry.  The modern jingoism is that we should support the manufacturing of armaments because it creates employment and wealth.  But at what cost?  A prosthetic limbs developer in the US stated his support for the Iraq war because it meant that they could develop better and more advanced prosthetic limbs as a consequence to the injuries incurred by the soldiers! An intelligent politician told me some time ago that he wasn’t a pacifist because one of the benefits of war was the massive technological advances that we have made! So, I should thank those countless millions that have died in the last hundred years for my mobile phone!  I’m actually of the belief that the UN should prosecute all those involved in the chain for the manufacturing of arms when a person is killed or injured by a weapon that was designed to kill and injure.  That would quickly bring home the truth about this evil industry. 

What ‘Peace’ we have today is an uneasy peace. It is built on inequality and fear.  Simply because there is no war between one nation and another doesn’t necessarily mean that there is peace, because a few nations hold power through fear and threats.  Only, as Henry Richard said, by unilateral disarmament will we get closer to true peace. 

Campaigning for peace and reconciliation is a hard task.  It’s never ending, and more often than not it might seem without its rewards, and at times, as the biographies of the individuals I mentioned earlier will testify, it can be very lonely.  Gordon Brown has looked at the newspaper articles and focus group reports and found that the war in Iraq is more unpopular now than ever before, and so he’s preparing the ground for troop withdrawal. But Peace and reconciliation is more than the practice of writing policy on paper; its more than investing money into focus groups in certain marginal constituencies; it’s a never ending, often unpopular, slog. 

But let’s never give up hope, because as I have mentioned, it is from these small meetings that we can make change happen.  

Efallai ei fod yn werth I mi orffen fy nghyfraniad I gyda rhai o eiriau Henri Richard: 

“Peidiwch a chael eich llethu gan fawredd y dasg, na chan y rhwystrau arswydus a gwyd yn eich ffordd.  Y mae’r gwaith yr ydych wedi ymgymryd ag ef yn waith da; rydych yn cefnogi achos sydd, mi wn ar sail fy argyhoeddiadau dyfnaf, o blaid gwirionedd, rheswm, cyfiawnder, dynoliaeth, crefydd ac, fe fentraf ychwanegu, o blaid Duw.”

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.