Ysgol Abersoch: annog yr awdurdod addysg i ystyried pob opsiwn

Mabon ap Gwynfor gyda chynrychiolwyr o’rBwrdd Llywodraethol ac ymgyrchwyr.

Rhaid i’r Awdurdod Addysg Leol rhoi ystyriaeth lawn i bob opsiwn er mwyn ceisio sicrhau fod addysg yn parhau yn Abersoch, yn ol ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor.  

Ategodd Mr ap Gwynfor ei alwad i’r Awdurdod Addysg roi ystyriaeth lawn i ffederaleiddio a chydweithio rhwng ysgolion, yn dilyn cyfarfod rhyngddo a’r pwyllgor ymgyrchu sydd wedi ei sefydlu i geisio cadw Ysgol Abersoch yn agored.  

Meddai Mabon ap Gwynfor, “Mae Ysgol Abersoch yn ysgol unigryw sydd yn cynnig addysg dda, gan ddatblygu unigolion dwy-ieithog hyderus sydd hefyd yn parchu eu diwylliant ac amgylchedd. Mae’r niferoedd presenol yn fychan, ond rhaid talu teyrnged i’r staff sydd yno a’r Bwrdd Llywodraethol am gymryd camau cadarnhaol i ymestyn y ddarpariaeth, trwy sefydlu Cylch Meithrin a Ti a Fi llwyddianus, yn ogystal a datblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Draeth.

“Mae’r Ysgol yng nghalon y pentref, ac felly yn sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei chlywed yn atseinio o amgylch y pentref trwy gydol y flwyddyn. Ni ddylid tanystyried rol yr ysgol wrth sicrhau parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol yno.

“Rhaid i’r Awdurdod roi ystyriaeth gofalus i bob opsiwn, yn cynnwys ffederaleiddio, cyn dod i benderfyniad terfynol. Dylid hefyd gymryd i ystyriaeth cynlluniau datblygu tai sydd yn yr arfaeth ac effaith hyn ar niferoedd y teuluoedd a phlant a fydd yn y gymuned.​”

Meddai ymgyrchwyr:  “Mae Ysgol Abersoch yn scrhau fod llais y plentyn yn cael ei glywed. Mae’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a chynnal y Gymraeg, y diwylliant a’r gymuned. Heb yr ysgol mae dyfodol y pentref fel cymuned lle y gall teuluoedd fyw a flaguro, o dan fygythiad.”

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.