Efallai y byddwch chi wedi clywed am yr ymgais gan ddau gwmni i brynu cwmni Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn ddiweddar.
Doth y cyfan i olwg y cyhoedd yr wythnos diwethaf wrth i’r newyddion dorri fod Dŵr Hafren Trent (Severn Trent Water – STW o hyn ymlaen) wedi gwneud cynnig i brynu cwmni gymharol fach Dŵr Dyffryn Dyfrdwy am tua £78m.
Roedd hyn yn dilyn cynnig tawel a wnaed mis ynghynt gan gwmni o gyfalafwyr o’r Ddinas yn Llundain, Ancala Fornia (neu Ancala) a roddodd gynnig i brynu’r cwmni am £71m.
Ers hynny mae wedi bod fel gem o dennis, gyda Ancala yn cynyddu eu cynnig, ac yna neithiwr Dŵr Hafren yn gwella eu cynnig eto fyth i dros £80m.
Ers i’r newyddion dorri rwy wedi bod yn bryderus iawn am gynnig STW. Rhaid dweud mai llugoer iawn yw fy nghefnogaeth o gynnig Ancala. Yn wir, efallai nad ‘cefnogaeth’ ydy’r gair cywir. Y gwir yw nad ydy’r statws cwo yn medru parhau. Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn gwmni preifat, gyda rhai dwsinau o gyfranddalwyr (Axa ydy’r mwyaf, gyda tua 25% o’r cyfranddaliadau). Y dewis sydd ger eu bron yw cael eu prynnu gan Ancala neu gan STW. O’r ddau rwy’n ffafrio Ancala, nid oherwydd fy mod yn hoffi’r syniad fod cwmni Cymreig sy’n gyfrifol am gyfran o’n hadnodd naturiol mwyaf gwerthfawr yn cael ei berchen gan gyfalafwyr rhemp o Ddinas Llundain, ond oherwydd fod eu cynnig yn un gwell.
Mae gan Ancala, hyd yma, record barchus o fuddsoddiadau tymor hir mewn cwmnïau cyfleustodau. Ond yn bwysicach na hyn maen nhw wedi dweud y bydd y gweithlu yn aros yn eu lle, gyda’r Swyddfa weinyddol yn aros yng ngogledd ddwyrain Cymru (Pentre Bychan, ar gyrion Wrecsam), ac o ganlyniad y bydd darparwyr gwasanaethau lleol yn cael gwell cyfleoedd i ennill cytundebau gwaith ganddynt.
Mae hyn oll yn hynod bwysig. Nid yn unig fod y cwmni yn cyflogi tua 180 o bobl, ond mae tua 80 o gwmnïau lleol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn darparu gwasanaethau iddynt – adeiladu, llogi offer a pheirianwaith, sment ayb Pe cai STW eu dwylo ar y cwmni yna’r peryg yw gweld y cyfan yn cael eu canoli i’w prif Swyddfa yn Coventry, cwmnïau bach lleol yn methu a chystadlu am beth fydd yn gytundebau gwaith mwy, a chytundebau yn mynd i gwmnïau yn agosach i’w prif Swyddfa.
Nawr, dydw i ddim am hyd yn oed esgus mod i’n deall y diwydiant na’r farchnad, ond rwy wedi gwneud tipyn o waith ymchwil, a siarad gyda rhai pobl ynghylch y mater dros yr wythnos diwethaf.
Mae arbennigwyr o fewn y diwydiant dwr yn dweud wrthyf fod gwerth arianol Dŵr Dyffryn Dyfrdwy beth wmbreth yn llai na’r hyn sydd wedi cael ei gynnig. Yn ol addeallaf gwerth y cwmni ydy tua £50m. Mae hyn yn sylweddol llai na’r £84m sydd ar y bwrdd heddiw.
Beth sy’n digwydd felly?
Pam, yn sydyn, fod dau gwmni – un ohonynt yn fwystfil go fawr yn y diwydiant – wedi dangos diddordeb mewn prynu cwmni gymharol ddi-nod (yn y diwydiant Prydeinig), a hynny am bris anferthol o chwyddedig?
Mae yna fwy yn mynd ymlaen nag ydym yn gwybod.
Rwy’n amau fod hyn oll yn perthyn i rywbeth sy’n digwydd yn Lloegr fis Ebrill nesaf.
O fis Ebrill 2017 ymlaen bydd y diwydiant dwr yn Lloegr wedi cael ei dad-reoleiddio. Bydd pawb ag eithro cwsmeriaid domestig yn medru cael eu cyflenwad dwr o unrhyw ddarparwr. Yn 2018 bydd y sector domestig hefyd yn agored i gystadleuaeth.
Felly bydd ‘cwsmeriaid’ dŵr Lloegr yn medru newid eu darparwr dwr yn yr un modd ag y maen nhw’n newid eu darparwr nwy neu drydan.
Beth sydd a wnelo hyn a Chymru felly?
Wn i ddim. Ond tybed…
Mae hyn yn digwydd yn eithaf sydyn. Ydy STW yn ceisio sicrhau perchnogaeth ar Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy cyn i’r diwydiant gael ei ddadreoleiddio ym mis Ebrill?
Yr hyn rwy’n amau sy’n debygol o ddigwydd yn dilyn dadreoleiddio yw y bydd rhai o’r cwmnïau dwr presennol sy’n weithredol yn Lloegr yn diflannu wrth i gwmnïau mwy, neu oleiaf mwy uchelgeisiol, eu prynu drosodd. Y cwmnïau fydd fwyaf llwyddiannus i wrthsefyll y rhyfel yma fydd y rhai mwyaf, nid yn unig yn ariannol ond o ran eu capasiti hefyd.
Bydd cael rheolaeth ar Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy yn rhoi capasiti ychwanegol sylweddol i STW. Bydd ganddynt isadeiledd ychwanegol, a mynediad at ganran sylweddol o holl ddŵr gogledd ddwyrain Cymru (meddyliwch am yr holl ddwr sy’n llifo o Lyn Celyn, Llyn Tegid, a Llyn Brenig i’r Ddyfrdwy er engrhaifft – rwy’n gweld gogoniannau’r Ddyfrdwy yn ddyddiol yn rhedeg o flaen fy nhŷ).
Ai’r ‘pawn’ cyntaf mewn gem fawr wyddbwyll y diwydiant dwr yw Dwr Dyffryn Dyfrdwy, wrth i gwmniau dwr Lloegr baratoi at beth sy’n debygol o fod yn gystadleuaeth filain a chas?
Ymhellach i hyn, rhaid cofio fod Llywodraeth Cymru, hyd yma, wedi gwrthod y syniad o agor y diwydiant dwr i fyny i gystadleuaeth (da iawn – mae rhywbeth atgas am y ffaith fod pobl a chwmniau yn elwa o ddwr). Ond bydd y pwysau arnynt yn sylweddol oes caidd STW eu gafael ar Ddwr Dyffryn Dyfrdwy. Gallwch fod yn sicr y bydd STW yn glafoerio wrth edrych yn chwantus ar Dŵr Cymru.
Dŵr.
Dŵr yw un o adnoddau cyfoethocaf Cymru.
Mae dŵr yn un o hanfodion bywyd.
Mae’r frwydr am ddŵr am fynd yn ffyrnicach nid yn unig ar y marchnadoedd arian ond ymhlith pobl yn y dyfodol.
Ydyn ni’n gweld camau cyntaf brwydrau dŵr Ewropeaidd fan hyn yng Nghymru fach?
Mae’n bwysig ein bod ni’n datgan yn glir mae adnodd Cymreig yw ein dŵr ni yng Nghymru. Adnodd pwysig sydd wedi cael ei roi yn ein gofal ni.
Efallai nad yw’r brwydro am Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy wedi gafael yn eich dychymyg hyd yma, ond mae am fod yn fater o bwys cenedlaethol. Byddai ei anwybyddu nid yn unig yn esgeulus ond yn beryglus.