Mae yna oleia 1,626,919 o resymau gwahanol am bleidlais y refferednwm ar yr UE yng Nghymru.
O ran y sbectrwm gwleidyddol traddodiadol fe gafodd y chwith a’r dde eu hollti ar y bleidlais. Fe gafodd y cenedlaetholwyr eu hollti hefyd.
Ond mae yna batrymau cyffredin hefyd i’w gweld yn y bleidlais.
Mae un blogiwr wedi awgrymu fod yna berthynas rhwng y bledlais Aros a phobl Cymraeg eu hiaith.
Mae’r samplo a wnaethom ni yma yn Sir Ddinbych ar y noson yn awgrymu hynny. Gellir rhannu Sir Ddinbych yn ddwy – arfordir (Rhyl, Prestatyn, Dyserth, Rhuddlan) a’r gweddill, ac mae tua’r un nifer o bobl yn byw yn y ddwy ardal. Fe bleidleisiodd yr arfordir ‘Allan’ (tua 14,000 i 10,000) ac fe bleidleisiodd y gweddill i aros i fewn (tua 12,000 i 10,000). Mae’r arfordir yn llawer mwy Seisnig na’r berfeddwlad. Ond oddi fewn i hynny gwelwyd gwahaniaethau fesil cymuned. Er enghraifft ni chafwyd mwyafrif o blaid aros fel rhan o’r UE yn yr un gymuned ar yr arfordir gyda phob un blwch yn dangos mwyafrif dros adael, tra mai cymysg oedd y blychau yn ngweddill y sir, gyda mymryn yn fwy o gymunedau yn cefnogi aros.
O ran prif drefi perfeddwlad Sir Ddinbych pleidleisio dros aros wnaeth Llangollen, Corwen, Rhuthun a Dinbych, a dim ond Llanelwy bleidleisiodd dros adael. Roedd y samplo yn y trefi yn ddigon mawr ac felly gallwn ddweud gyda peth sicrwydd fod y canlyniad yn gywir.
Roedd y samplo ar gyfer y pentrefi yn naturiol yn llai, a’r canlyniad yn amlach na pheidio yn agos iawn (rhywle o amgylch 55/45 un ffordd neu’r llall).
Ond mae’n awgrymu fod y fro Gymraeg yn Sir Ddinbych wedi, ar y cyfan, cefnogi Aros, tra fod yr ardaloedd mwy Saesnig wedi cefnogi Allan.
Serch hynny tra fod yna nifer fawr o resymau gwahanol y tu ol i benderfyniad pob unigolyn a bleidleisiodd, mae yna rywbeth arall yn gyffredin.
Rwy’n cofio noson refferendwm yr Alban, a minnau yng ngwhmni ymgyrchwyr eraill yn un o swyddfeydd yr ymgyrch Ie yng Nghaeredin. Dyma ganlyniad Clackmannanshire yn dod i fewn yn gyntaf, gyda Ie yn colli o fymryn. Newidiodd yr awyrgylch yn sydyn. Roedd Clackmannanshire, yn ol y criw gwybodus oedd yno, yn ardal lled genedlaetholgar gyda’r SNP yn gryf yno. Doedd pethau ddim yn argoeli’n dda.
Wrth i weddill y canlyniadau ddod i fewn, dyma ddechrau myfyrio, pendroni, a rhesymu. Eisteddai un dyn mawr a barf trwchus gwyn ar ei ben ei hun yn darllen rhyw bapur neu gilydd, a trodd tuag atom a dweud yn syml, “Peidiwch a chael sioc. Dydio ddim yn syndod. Mae’r rhai nad oedd ganddyn nhw ddim byd i’w golli wedi cefnogi’r ymgyrch Ie, ac mae’r rhai a oedd ganddyn nhw rhywbeth i’w golli wedi cefnogi Na”.
Cymrodd dipyn i mi sywleddoli dwysder yr hyn a ddywedodd.
Roedd yr ymgyrch ‘Na’ yn cynrychioli’r Sefydliad, a’r ymgyrch Ie yn wrth-sefydliadol. Roedd y rhai hynny a oedd yn gwneud yn o ’lew allan o’r drefn bresenol/y Sefydliad ddim am risgio gwneud pethau yn waeth i’w hun, tra bo’r rhai hynny a oedd yn ystyried nad oedd oedd y system yn gweithio o’u plaid ac nad oedd ganddyn nhw unrhywbeth i’w golli wedi pleidleisio i adael y system.
A dyna oedd ganddom ni yng Nghymru ar ddiwedd mis Mehefin.
Mae Cymru ar y cyfan yn wlad gymharol dlawd, ac er gwaethaf y ffaith fod yr UE wedi cyfrannu miliynnau o bunnoedd i nifer o gymunedau, oherwydd natur yr ariannu hynny (sef mai y Llywodraeth Ganolog, Whitehall, oedd yn penderfynnu sut oedd yr arian hynny am gael ei wario) ni deimlodd y rhelyw o bobl fudd yr arian hynny.
Gwelwyd yr ardaloeddmwyaf difreintiedig – y rhai hynny nad oedd y status quo, y derfn bresenol, yn gweithio drostyn nhw, yn pleidleisio i adael yr UE, tra bo’r rhai hynny a oedd yn gwneud yn o’ lew allan o’r status quo a’r drefn bresenol yn pleidleisio i aros yn rhan o’r UE.
Wrth gwrs mae’n rhaid i ni fel ymgyrchwyr gwleidyddol a phlaid wleidyddol gymryd rhan o’r bau am hynny. Rydym ni wedi bod yn ymgyrchu a phregethu drosodd a thro ers degawdau fod y drefn bresenol yn fethedig, yn milwrio yn ein herbyn, yn gwneud cam a ni. Pa syndod felly fod y cyhoedd wedi cymryd y cyfle i weithredu ar hynny pan gafwyd y cyfle go iawn cyntaf i wneud hynny?
Ond, yn lle collfarnu a beriniadu’r rhai a bleidleisiodd i adael, dylsem yn lle edrych ar hyn fel cri am gymorth.
Mae ein cymunedau wedi bod yn dioddef ers degawdau lawer, gan fynd yn dlotach a thlotach, a dioddef ergydion lu. Ddiwedd mis Mehefin cafwyd cri unedig eu bod nhw wedi cael digon.
Felly fel cenedlaetholwyr Cymreig beth ddylai ein hymateb ni fod i hyn?
Drosodd a thro rydym wedi clywed fod angen gwella economi Cymru er mwyn gosod y ddadl dros annibyniaeth. Rwy’n gweld y rhesymeg yn hyn.
Ond eto, gwnaed hynny yn yr Alban a chollwyd.
Beth am wledydd eraill a ennillodd eu hannibyniaeth? Gweriniaeth Czech a Slovakia? O Slovakia y daeth y galw am annibyniaeth bennaf, ond hi oedd a’r economi wanaf.
Beth am wledydd yr Undeb Sofietaidd? Doedden nhw ddim yn llwyddo’n economaidd o bell ffordd, ond eto roedd yna alw am annibyniaeth.
Nawr, wrth gwrs rwy’n derbyn nad ydy’r gymhariaeth yn gwbl deg, ac hefyd yn derbyn fod yna engrheifftiau o wledydd yn cael eu hannibyniaeth tra bo eu hecnomi yn gryf (Gwlad yr Ia er engrhaifft), ond does dim byd i ddweud fod yn rhaid wrth ffyniant economaidd er mwyn ennill dadl annibyniaeth.
Ac mae refferendwm diweddar yr UE yn dyst i hyn.
Dadleuon economaidd a gafwyd yn bennaf o du yr ymgyrch ‘Remain’, tra mai dadleuon mwy emosiynol a gaed gan yr ymgyrch Leave – ad-ennill rheolaeth yn bennaf, sef y ddadl a atseiniodd orau gyda’r etholwyr ar sawl lefel.
Mae nifer fawr o etholwyr yn teimlo eu bont wedi eu difreinio, nad ydy’r status quo yn gweithio o’u plaid ac yn wir yn milwrio yn eu herbyn. Dros nifer o ddegawdau mai’r sefydliad Prydeinig wedi gallu pwyntio’r bys at yr UE am unrhyw fethianau, gan eu beuo nhw am wahanol broblemau tra fo’r sefydliad yn mynd rhagddi i ymgyfoethogi eu hun ymhellach. Fedran nhw ddim gwneud hynny bellach. Nid yw’r esgus honno’n bodoli.
Wrth gwrs mae nhw am drio creu pob esgus posib i beidio ag ymadael ar UE am gyhyd a phosib – mae’r UE yn gweithio o blaid y sefydliad wedi’r cyfan (cofiwch, er dweud hyn, mod i o blaid aros i fewn!), ond o ddod allan byddant yn ceisio dyfeisio esgus arall mor fuan a phosib am wendidau strwythurol ein cymdeithas.
Ond dyma’n cyfle ni i ddangos yn glir mai methiannau y sefydliad Prydeinig yw’r drwg sydd ar waith, a dyma yw’r rheswm pam ein bod yn byw mewn tlodi ac yn ddifreintiedig. Gallwn ni gyflwyno neges o obaith am ddyfodol gwell, dyfodol lle mae’n cymunedau ni yn cael eu grymuso, a’r economi yn gweithio er lles ein cymunedau nid ein cymunedau yn gweithio er lles yr economi.
Rhaid i ni weld hwn fel cyfle. Rhaid i ni weld y 52% fel ein gobaith. Y nhw sy’n chwilio am atebion, am arweiniad. Y nhw a ddywedodd yn glir fod y drefn bresenol, beth bynnag ydyw, wedi eu methu a’u bont am weld trefn newydd. Y nhw yw’n gobaith am Gymru annibynol.
Ond os mae nhw yw’n gobaith ni, mae’n rhaid i ni roi gobaith iddyn nhw. Ofn sy’n cyflyru gymaint o’r hyn sy’n digwydd yn wleidyddol heddiw, ond mae gobaith yn rym llawer cryfach nag ofn, ac ein dyletswydd ni yw rhoi’r gobaith hynny i’n pobl.