
Ond ni ellir cyfyngu ein Cymreictod i un diwrnod o’r flwyddyn yn unig, ac mae dathlu cyfraniad a bodolaeth Cymru yn fwy na chefnogi timau gwahanol gampau ar y meysydd chwarae am 80 neu 90 munud.
Dydy bod yn Gymro yn ddim mwy na llai na’r weithred o fod.
Does yna neb all hawlio eu bont yn fwy neu yn llai Cymreig na’r rhywun arall, a does gan neb yr haw li wadu Cymreictod rhywun arall.
Mae Cymru o hyd wedi bod yn wlad groesawgar, gan weld pobl o bob cwr o’r byd yn mynd ac yn dod dros y miloedd o flynyddoedd diwethaf. Y symudiad yma o bobl sydd wedi creu Cymru yr hyn yr ydyw heddiw.
Y darn hon o dir, ein cymdogion, y trigolion yn y pentref neu’r dref gyfagos – dyma ein gwlad, punnau trwy ddamwain genedigaeth neu trwy ddewis, dyma ein Cymru ni heddiw. Eu methiannau a’u gwendidau yw ein methiannau a’n gwendidau ni – chi a fi, ac yn dyletswydd ni ar y cyd yw i fynd i’r afael a’r methiannau yma. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd er ein lles cyffredin y gallwn ni adeiladu Cymru well.
Dywedir mai gwyrth enwocaf Dewi Sant oedd codi’r tir o dan ei draed yn Llanddewi Brefi, er mwyn caniatau y dyrfa i’w weld a’i glywed.
Rydym yn llawr rhy aml yn euog o siarad i’r cylchoedd hynny sydd agosaf atom yn unig, gan feddwl fod yr hyn y mae nhw’n ei ddweud a gwneud yn cynrychioli’r cyfan. Mae gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn fwy euog na’r rhelyw o hyn, gan gynrychioli grwp dethol a breintiedig yn unig.
Wrth ein bod ni’n edrych ymlaen at Etholiad Cyffredinol Cymru ar Fai 5ed gadewch i ni ddysgu’r wers o wyrth Dewi Sant, a chodi uwchben twrw’r rhai hynny sy’n ffodus i fedru fyny ein sylw, ac edrych am y rhai hynny sydd ddim mor ffodus. Oherwydd mae ein cyfrifoldeb i Gymru yn golygu cyfrifoldeb tuag at y cyfan nid dim ond yr ychydig breintiedig.
Felly pan ddaw’r etholiad ac rydym yn meddwl am Gymru, ein cymdogion a’n cymunedau, gadewch i ni wneud yn siwr fod y rhai hynny sy’n llywodraethu yn parchu ein Cymreictod unigryw, bob un – heb fod yn well nac yn waith nag unrhyw un arall, nac yn well nac yn waith nag unrhyw genedl arall; a dysgu gwers gwyrth Dewi Sant a chodi uwchben y twrw diasbedain gan wrando a gofalu am bob un yn ein plith.
Dydd Gwyl Dewi Hapus i chi!