Galw am Amgueddfa Bel-Droed Genedlaethol

CVUxmvgWwAIRBYX.jpg largeHeddiw lawnsiwyd ymgyrch uchelgeisiol i “ddod a phel-droed yn ol i’w gartref ysbrydol yn Wrecsam”.

Mae Plaid Cymru yn cynnig y dylid datblygu Amgueddfa Genedlaethol i Bel-Droed yn Wrecsam, cartref pel-droed Cymru.

CEFNOGWCH YR YMGYRCH YMA

 

Yn Wrecsam y cynhaliwyd y gem ryngwladol Gymreig cyntaf erioed, ac yma mae’r cae rhyngwladol hynnaf yn y byd – Y Cae Ras , ac yma y sefydlwyd Cymdeithas Bel-Droed Cymru. Maehefyd yn gartref i un o’r clybiau pel-droed hynnaf yn y byd, Wrexham AFC.

Wrth lawnsio’r ymgyrch ar yCae Ras dywedodd Carrie Harper, ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru yn Wrecsam:

“Mae gan Gymru nifer o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol ond dim un yn y gogledd ddwyrain. Byddai creu amgueddfa bel-droed genedlaethol, tebyg i’r rhai ym Manceinion a Glasgow, yn dechrau cywiro’r cam yma a phwysleisio y rol allweddol y mae’r gogledd ddwyrain a Wrecsam yn arbennig wedi ei chwarae yn natblygiad y gem.

“Mae’n gyfle gwych i dynnu elfennau o’n treftadaeth pel-droed at ei gilydd ar adeg llewyrchus iawn i’n tim pel-droed cenedlaethol. Byddaihefyd yn hwb mawr i’r dref, gan ddenu ymwelwyr newydd, creu swyddi, a darparu adnodd addysgiadol o bwys.”

Meddai Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru’s De Clwyd:

“Mae Wrecsam yn le perffaith ar gyfer sefydlu amgueddfa bel-droed genedlaethol. Y gogledd ddwyrain yw crud pel-droed Cymru, ac mae’r ardal wedi cynhyrchu nfer o chwaraewyr amryddawn ers dyddiau John Price, Billy Meredith a chwaraeodd i Manchester United tan ei fod yn 49, Mark Hughes, ac yn ddiweddar yr asgellwr chwimwth Harry Wilson o Gorwen, sydd yn dal y record am fod y chwaraewr ifancaf erioed i chwarae dros Gymru.

“Ein bwriad yw tynnu ynghyd pob sefydliad a grwp fyddai adiddordeb i weld hyn yn digwydd, megis y Gymdeithas Bel-Droed, Clwb Pel-Droed Wrecsam, Cyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru a chefnogaeth traws-bleidiol. Wrth iGymru hawlio eu lle ym Mhencampwriaeth Ewrop 2016, mae’ngyfnod gwych i ddilyn pel-droed yng Nghymru. Gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru o ar draws y wlad athu-hwnt ynymuno anidrwy hoffi ein tudalen Facebook ac ein dilyn ar Twitter.

“Rwy’n hyderus gyda chefnogaeth eang, a chynllun busnes credadwy y cawn ni gefnogaeth gan gyrff ariannol megis y Loteri er mwyn datblygu’r amgueddfa, fel ddigwyddodd gyda’ramgueddfa genedlaethol ym Manceinion.”

Mae Harry Wilson, a ddaeth y chwaraewr ieuengaferioed i ennill cap dros Gymru yn Hydref 2013 yn 16 blwyddyn 207 diwrnod oed, wedi datgan ei gefnogaeth:

“Maegan Gymru ddyfodol gwych fel gwlad bel-droed, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cofio adathlu y rhai hynny a ddaeth o’n blaenau. Byddai Wrecsam yn le perffaith ar gyfer Amgueddfa Bel-Droed Genedlaethol i Gymru, ac rwy’n annog pawb i gefnogi’r alwad.”

CEFNOGWCH YR YMGYRCH YMA

 

Twitter: @CartrefPelDroed

facebook: http://www.facebook.com/groups/190192674655215/