Tryweryn: cofio’r gorffennol i warchod y dyfodol

Gwynfor Evans TrywerynCafodd y Cymry eu deffro i’r sylweddoliad eu pont yn gwbl analluog a diymadferth i wneud unrhyw benderfyniad ynghylch eu gwlad eu hun o ganlyniad i ddau ddigwyddiad erchyll a ddigwyddodd o fewn blwyddyn i’w gilydd. Y gyntaf oedd boddi Tryweryn ym 1965 a’r ail oedd trychuneb Aberfan yn 1966.

Mae pobl o’r tu allan yn aml yn camddeall y cam a wnaed yn Nhryweryn, gan gyfeirio at y drwg a wnaed wrth symud pobl o’r cwm a’i foddi. Y drwg go iawn serch hynny yw bod awdurdodau allanol wedi dadfeddiannu cymuned gyfan o’u treftadaeth heb fod ganddyn unrhyw obaith o wyrdroi’r penderfyniad – roedd hi’n weithred derfynol iawn. Profodd y weithred o foddi Cwm Tryweryn a Chapel Celyn yn erbyn ewyllys y gymuned a’r genedl gyfan, mai celwydd oedd y cysyniadau o ddemocratiaeth a pharch Prydeinig ac ein bod yn bartneriaid cydradd yn yr Undeb.

Dyna pam y brwydrodd Gwynfor hyd eithaf ei allu i sicrhau fod llais pobl Tryweryn, Meirionnydd a Chymru yn cael ei chlywed. Erbyn hyn roedd Gwynfor eisoes wedi ymladd sawl etholiad ac ysgrifennu pamffledi a llyfrynnau dirifedi yn dadlau fod Cymru yn cael ei hanwybyddu’n llwyr gan y Sefydliad Prydeinig, a bod yna angen am sefydliad gwleidyddol Cymreig a fyddai’n atebol i bobl Cymru, gan wrando ar leisiau Cymru a rhoi ei hanghenion hi yn flaenaf. Enillodd y dadleuon yma gefnogaeth yn raddol dros y blynyddoedd yn arwain at 1965, ond achos Tryweryn a ymgorfforodd y dadleuon yn fwy nag unrhyw beth arall a dod a nhw i sylw cenedlaethol.

Mae’r ffaith fod ganom ni Gynulliad Cenedlaethol yng Nghymru heddiw i raddau helaeth i yn ganlyniad i foddi Tryweryn a’r sylweddoliad hynny y cafodd Cymru ei sathru.

Mae yna ddywediad yn y Saesneg am golli brwydr ond ennill y rhyfel. Tra i Gwynfor a’r Mudiad Cenedlaethol Cymreig golli’r frwydr am Dryweryn, ac mae’r dŵr tywyll oer sy’n gorwedd yno’n dyst i hynny, does dim amheuaeth fod achos Cymru wedi ei hennill.

Mae cofio a’r weithred o goffau yn bwysig. Rhaid i ni fyth anghofio beth yw canlyniad gadael i eraill wneud penderfyniadau ar ein rhan. Mae Cymru yn ein dwylo ni, a’n cyfrifoldeb ni yw hi.

Gofynnwyd i mi gyflwyno pwt i’r papur lleol wrth gofio 50 mlwyddiant Tryweryn, gan gyfeirio yn benodol at rol Tadcu, Gwynfor.