Fy ngholofn ddiweddaraf i’r Free Press
Beth yw pryd bwyd cenedlaethol Cymru? Lobscows? Cinio Dydd Sul? Crempog? Mae’n debyg mai un o’r prydiau bwyd mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Gyfunol ydy Tikka Masala Cyw Iâr, bwyd sydd a’i wreiddiau yn ardal Punjab, India. Efallai fod Corwen yn prysur ddatblygu pryd bwyd cenedlaethol newydd i Gymru, a hynny trwy ddoniau coginio rhyfeddol Abul Hussain.
Dydw i erioed wedi bod yn ffan mawr o Tikka Masala na bwyd Indiaidd. Mae’r bwyd Indiaidd yr ydw i’n gyfarwydd â nhw yn or-boeth neu/ac yn or-hufenog. Dyma’r mathau o brydiau bwyd oedd i’w cael mewn bwytai Indiaidd yn Abertawe yn ôl yn yr 1990au.
Ond, yn ôl pob tebyg, bwyd ffug yw’r prydiau yma yr oeddwn i’n arfer eu cael – prydiau bwyd na fyddai pobl India na Bangladesh yn eu hadnabod, oherwydd eu bont wedi cael eu haddasu ar gyfer chwaeth y gorllewin.
A minnau wedi arfer gyda’r llymder undonog yma, meddyliwch fy sioc wrth gael pryd bwyd ym mwyty Abul, Corwen. Mae Abul yn gogydd Tandwri heb ei ail, ac yn nodedig am ddarparu prydiau i siwtio chwaeth y cwsmer ond sydd hefyd yn cael ei goginio yn nhraddodiad gorau Tandwri Bangladesh.
Cefais y pleser pur o fwynhau ei fwyd yr wythnos diwethaf, gyda chig oen Cymreig yn toddi yn fy ngheg. Yr hyn oedd yn rhyfeddol oedd bod y bwyd yn ddigon poeth i ffrindiau oedd yn hoffi bwyd poeth, ond yn ddigon cynnil i rywun fel fi. Dyna allu coginio’r dyn. Mae’r gallu yma a phoblogrwydd lleol wedi golygu ei fod yn cael ei hun yn rownd derfynol Bwyty Cyri Cymru’r flwyddyn.
Heb yn wybod i ni rydym oll wrthi’n helpu i greu ac adeiladu Cymru newydd a hyderus. Mae unrhyw ddiwylliant a chenedl hyderus yn hapus i groesawi dylanwadau gwahanol i’w chyfoethogi. Efallai yn wir ein bod wedi gweld creu pryd cenedlaethol newydd i Gymru yng Nghorwen, diolch i Abul Hussain. Pob lwc iddo yn y rowndiau terfynol yr wythnos nesaf.