Mae mwyafrif llethol pobl Cymru eisiau i’r Cynulliad gael yr un pwerau newydd â’r pwerau fydd yn cael eu rhoi i Senedd yr Alban, yn ôl arolwg barn newydd gan YouGov.
Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 23 a 30 Hydref ar ran Yes Cymru – grŵp newydd trawsbleidiol ac amhleidiol o blaid annibyniaeth i Gymru, a oedd hefyd yn gyfrifol am drefnu rali lwyddiannus ‘Cymru’n Cefnogi Ie’ y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd ar 13 Medi.
O’r rhai a leisiodd eu barn, roedd 63% yn cytuno y “dylai’r pwerau sy’n cael eu datganoli fod yr un pwerau â’r Alban” gyda 37% yn anghytuno.
Roedd y gefnogaeth ar ei chryfaf ymhlith pobl sy’n bwriadu pleidleisio i Blaid Cymru yn etholiadau nesaf San Steffan (85%) ond roedd hefyd yn gryf iawn ymhlith y rhai sy’n bwriadu pleidleisio i’r blaid Lafur (70%) a hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n bwriadu pleidleisio i…
View original post 220 more words