Gwersi rhyfel – cofio Rwanda

image

Ugain mlynedd yn ol gwelwyd trychuneb o’r math gwaethaf yn datblygu yn Rwanda.

Lladdwyd cannoedd o filoedd o drigolion mewn ‘rhyfel cartref’ rhwng yr Hutu a Tutsi.

Mae nifer o wleidyddion wedi bod yn son am hyn heddiw gan ddweud ei fod yn graith ar gydwybod y gorllewin, am i ‘ni’ fethu ag ymyrryd, gyda nifer yn deeud na ddylid anghofio ac y dylid dysgu’r gwersi.

Mae trychuneb Rwanda wedi cael ei ddefnyddio fel rheswm (esgus) ar gyfer amryw o ryfeloedd ers hynny, gyda Kosovo a Lybia yn eu plith, ac heddiw yn arbennig Syria.

Efallai mai Syria yw’r gymhariaeth orau.

Oherwydd pa wersi sydd i’w dysgu?

Dyma ddarn o adroddiad y corff Human Rights Watch:

The influx of weapons from foreign sources to both sides contributed significantly to needless and abusive civilian deaths and suffering. Sources from both sides told the Arms Project that as one side received more weapons, and weapons of greater lethality, the other tried to match it. Foreign governments and other suppliers were more than willing to fuel this arms race. This small, impoverished nation, which was already unable to meet its own human needs, devoted its scarce resources to an unprecedented accumulation of a wide variety of arms, including the introduction of heavier, long-range weapon systems.

“The country is flooded with weapons. Two beers will get you one grenade.”

A Western diplomat in Kigali.

Yr un modd heddiw mae nifer o wledydd yn ariannu ac yn arfogi pob ochr yn rhyfel erchyll Syria.

Mae Llywodraeth Prydain yn ymfalchio yn un o ffeiriau arfau mwyaf y byd sy’n cael ei gynnal yn flynyddol yn Llundain. Mae arfau yn cael eu gwerthu i un gwlad gan wybod ei fod yn cael ei werthu ymlaen.

Y wers? Peidiwch a gwerthu arfau! Peidiwch ag elwa ar drail dioddefaint eraill.