Yndyw e’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd sut mae’r bobl sy’n cwyno am wariant ein trethi yn aml iawn yw’r un rhai sy’n llafar eu cefnogaeth i’r frenhiniaeth?
Beth sydd yn fy ngwylltio yn fwy yw’r ffaith fod gymaint o son drosodd a thro ynghylch bywyd moethus gwleidyddion a sut mae’n nhw’n gwastraffu ein harian ni, y trethdalwyr, ar nwyddau moethus a bywyd bras. Pwy all anghofio’r stareon am iPods ac ati yn y Cynulliad neu straeon y Telegraph dair mlynedd yn ol ynghylch treiliau ASau? Roedd y cyfryngau a’r cyhoedd yn gynddeiriog ynghylch y ffaith fod pobl yn cael byw yn fras ar gefn eu ceiniogau prin hwy.
Blae mae’r cysondeb pan fo’n dod i’r teulu brenhinol?
Mae’r teulu brenhinol yn dod ag incwm i’r ‘wlad (wriaeth)’ medd rhai – er fod hyn yn ddadl amheus ac nad yw’r dystiolaeth yn profi hyn. Beth felly am wleidyddion?
Y frenhines yw pen y wladwriaeth. Hi yw’r pennaf esiampl. Hi sy’n gosod y safon i eraill ddilyn. Oes disgwyl felly i’r gwleidyddion wneud unrhywbeth yn wahanol i’r hyn wnaethon nhw? Os ydyw Beti a’i theulu’n cael byw yn fras ar y pwrs cyhoeddus pam ddim y gwleidyddion? Mae nhwythau, fel y teulu Brenhinol, yn gwasanaethu’r cyhoedd. Ond nid gwasanaethu’r cyhoedd mae’r teulu Brenhinol, ond yn hytrach cael bywyd bras ar drail miliynau o bobl difreintiedig – plant, mamau, tadau, brodyr, chwiorydd, yn marw oherwydd yn syml nad ydyn nhw medru fforddio byw, a ninnau’r brolio ysblander teulu sy’n clodfori rhyfel a thrais.
Beth hefyd am y BBC? Os gofiwch chi roedd y cyfryngau a’r cyhoedd fel eu gilydd yn llafar iawn eu croch ynghylch gwariant cyhoeddus y BBC yn enwedig felly ar gyflogau rhai ou ser mwyaf. Ond ble mae’r un ddadl wrth drafod yr holl adnoddau sydd wedi cael eu neulltuo i hyrwyddo a darlledu’r jambori brenhinol? Dim.
Tra fo cymdeithas yn caniatau i rai gael breintiau ar drail eraill yna bydd llygredd cymdeithasol yn rhemp, a gallwn ni ddisgwyl i bethau megis treiliau ASau, ‘riot’s dinasoedd Lloegr ac ati barhau. Os am gymdeithas gwar, rhaid dechrau efo’r rhai hynny sy’n achosi anghyfartaledd.