Roedd canlyniadau’r etholiad yn siom, yn bersonol ac yn genedlaethol. Does dim cuddio o’r ffaith yma.
Ond dyna’n unig oedden nhw – canlyniadau etholiad.
Nid canlyniadau unrhyw etholiad fydd diwedd Plaid Cymru, ac mae’n fy nhristau i wrth glywed pobl yn awgrymu pethau o’r fath. Mae’n rhaid nad ydyn nhw’n deall y Blaid na’u haelodau.
Mae’r Blaid am fod tra fo Cymru ei hangen – hynny yw tra fo Cymru yn parhau i fyw o dan reolaeth gwlad arall.
Etholiad yn unig oedd hon.
Mae’r pleidiau eraill yn mesur eu llwyddianau yn unol a llwyddianau etholiadol, ac mae aelodau yn gadael ac yn ymuno ar sail hynny.
I fi mae hynny’n beth trist. Rwy’n dymuno gweld pobl yn ymuno a chefnogi Plaid Cymru nid oherwydd eu bont am fod yn rhan o ymgyrch etholiadol llwyddianus ond am eu bod nhw am weld cyfiawnder i Gymru.
Cymru sydd wrth galon pob dim yr ydym ni yn ei wneud yn y Blaid.
Mae yna rai yn awgrymu fod methiant y Blaid yn ganlyniad i’r ffaith nad yw’r Blaid yn hyrwyddo Annibyniaeth yn ddigonol, ac yn cymharu llwyddiant y Blaid gyda llwyddiant yr SNP.
Rwy’n lled gytuno gyda hanner hyn. Dydyn ni ddim wedi llwyddo i esbonio sut y byddai bywydau pobl Cymru yn well o dan drefn annibynol Gymreig yn hytrach na’r drefn Brydeinig bresenol. Mae’n rhaid mynd i’r afael a hyn.Ond mae’r gymhariaeth a’r Alban yn un aghywir. Mae’r Alban yn wlad gwahanol ag iddi amgylchiadau cwbl wahanol.
Rwy’n credu mai rhan ganolog o’n prosiect ni ddylai fod i greu a datblygu gwasg a chyfryngau Cymreig go iawn. Cyfryngau torfol poblogaidd sydd yn rhoi Cymru yn ganolog. Prosiect Hunaniaeth.
Mae’r ffaith i newyddion BBC Radio Cymru osod yr etholiadau yn bedwaredd eitem ar ddiwrnod yr etholiad y tu ol i bethau eraill na fydd yn cael nemor ddim effaith ar fywydau Cymry yn dweud cyfrolau. Fedrwch chi ddychmygu unrhyw wlad arall yn gwneud hyn?!
O ran natur y pleidleisio, gwnaed hyn trwy brism Prydeinig.
Mai dweud y dylai’r Blaid fod wedi ymladd ar sail y toriadau Llundeinig yn methu’r pwynt. O fod wedi gwneud hynny byddai’n llais wedi cael ei foddi allan yn llwyr. Mae raliau yn erbyn y toriadau wedi digwydd yng Nghaerdydd yn ogystal a Llundain, ond wrth gwrs heb gael dim sylw yn y cyfryngau. Er mai Carwyn Jones yw arweinydd Llafur yng Nghymru, mae pobl yn gwybod yn iawn mai’r un yw’r Blaid Lafur yma ag yw hi yn Llundain ac mai Ed Miliband yw ei fos. Mae pobl Cymru wrth gwrs yn clywed Ed Miliband yn rheolaidd.
Mai dweud fod yr ymgyrch wedi bod yn un ‘negyddol’ gan roi gormod o amser ac adnoddau i frwydro y Blaid Lafur hefyd yn anghywir. Ydyn cof ni mor fyr fel ein bod ni wedi anghofio’r cynnigion cyffrous am ddatblygu cwmni ar sail Glas Cymru i redeg trenau Cymru? Am y drafodaeth i ail-strwythuro tymor ysgolion Cymru? Dim ond Plaid Cymru oedd yn y wasg Gymreig o fis Ionawr hyd yr etholiad, gyda llun Nerys Evans bob yn ail ddiwrnod bron yn y Western Mail! Ond yna, fel y gwyddom, does ymron i neb yn darllen y cyfryngau Cymreig.
Dywedodd Daran Hill ar Taro’r Post brynhawn yma:
“o’ch chi (Plaid Cymru) yn obsesd gyda addewidion maniffesto. Odd gyda chi maniffesto da, ond ar ddiwedd y dydd dyw pobl ddim yn pleidleisio ar y maniffesto, ma nhw’n pleidleisio ar y realiti gwleidyddol. Odd PC fel petai yn yr etholiad yma’n teimlo’n ddig fod neb yn cymryd eu syniadau nhw o ddifri, wel plaid gwleidyddol y’ch chi wedi’r cyfan nid thinktank”
Mae gen i barch mawr i Daran, ond rwy’n methu a chredu fod sylwebydd gwleidyddol uchel ei barch yn dweud hyn!
Oes yna syndod fod yna ddiffyg ffydd yng ngwleidyddiaeth os mai ymladd etholiadau ar sail pethau eraill y mae’r pleidiau?! Na, nid Think Tank mo Plaid Cymru. Cynnig rhaglen i lywodraethu oedden ni, un oedden ni oll yn ymfalchio ynddo ac yn credu y byddai’n gwella safon bywyd pobl Cymru yn seiliedig ar rymoedd y Cynulliad. Onid dyma ddylai fod sail yr etholiad? Rwy’n deall fod pobl yn pleidleisio ar faterion eraill – dyna eu rhydd-fraint, ond mae dweud felly y dylai plaid wleidyddol ac ymgeiswyr ymladd yr etholiad ar sail materion eraill yn beryglus! Onid Daran oedd y cyntaf i gwyno fod TrueWales yn dadlau yn erbyn cynyddu grymoedd y Cynulliad ar sail pethau nad oedd o fewn cynfyngderau cwestiwn y refferendwm? Rwy’n derbyn nad oedden ni wedi mynd i’r afael a materion y tu hwnt i’r Cynulliad, ond byddai hynny yn ein gwneud yn ddim gwahanol i’r pleidiau eraill – anonest, camarwain, a gwag o syniadaeth. Os mae dyna beth mae pobl am ei weld…
Rwy’n credu fod y bytheirio ar-lein yma byth a beunydd gan daflu cyhuddiadau at strategaeth, arweinyddiaeth, maniffesto, ymgeiswyr ayb yn gwneud drwg. Does a wnelo dim o hyn a’r broblem sylfaenol. Credwch chi fi, roedd yr ymgyrch llawr gwlad yn dda, roedd y maniffesto yn dda, roedd ganddo ni set gwych o ymgeisyddion (wrth gwrs bydden i’n dweud hynny!). Rwy’n siwr fod y Blaid Lafur yn chwerthin ac yn methu a chredu eu lwc – nemor ddim ymgyrchu mewn rhannau helaeth o Gymru; gwario llai na hanner yr hyn wnaethon nhw flwyddyn diwethaf, cyflwyno maniffesto oedd yn wag o unrhyw syniadau, a chael Llafur Llundain yn cyflwyno eu neges drosodd a thro yn y cyfryngau. Dyma pam fod Llafur wedi dewis yr ymgyrch gwrth-Geidwadol yma, am eu bont yn cael ‘free-ride’ ac ‘air-time’ di-ri drwy proxy! Gellir newid yr arweinydd gan roi Obama 2008 yn ei le, cael maniffesto sydd gyda Annibyniaeth wedi ysgrifennu drosto i gyd, cael llechen o ymgeiswyr sy’n cynnwys ymenyddion gorau Cymru arno a byddai wedi gwneud dim iot o wahaniaeth. Nid plannu pen yn y tywod mo hyn, ond edrych y tu hwnt i’r hunan, a bod yn barod i gydnabod fod yna bethau eraill sy’n dylanwadu er ganlyniad etholiad. Mae credu fod canlyniad etholiad oll o fewn grym a gallu’r Blaid yn naif ar y gorau ac yn drahaus, gan ddangos nad ydym yn edrych y tu hwnt i’n cylchoedd cyfyng ein hunen.
Y gwendid sylfaenol y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef go iawn yw’r cyfryngau a chyfathrebu.
Rhaid i ni ail ddiffinio y prosiect cenedlaethol. Llunio ‘route map’ newydd fel petai. Ry’n ni’n gwybod beth yw’r nod, ond mae’n rhaid i ni ail edrych ar sut ydyn ni am gyrraedd y nod yna. Nid beirniadaeth o’r Blaid yw hynny, mae’n gwbl amserol i wneud hyn yn dilyn refferendwm llwyddianus.
O fewn hynny rwy’n awgrymu y dylai prosiect i ddatblygu cyfryngau torfol Cymru i fod yn fwy Cymreig fod yn gwbl ganolog. Dyma’r gwahaniaeth mawr sylfaenol rhyngddom ni a’r Alban. Agenda Albaneg sydd yn cael ei drafod ymhlith colofnau gwleidyddiaeth yr Alban. Agenda Brydeinig sydd yma.
Cafwyd ymateb i un o fy mlogiadau blaenorol yn son am y ‘Pepsi Challenge’, ac mae’n berffaith wir. O gyflwyno syniadaeth a pholisiau Plaid yn erbyn unrhyw un o’r pleidiau eraill, mae pobl yn dueddol o gefnogi Plaid Cymru. Rwy’n gwybod hyn o brofiad ar ol cymryd rhan mewn arbrawf gan Newsnight yn Battersea, Llundain adeg etholiadau 2005, pryd yr enillais i (Plaid Cymru) ac ymgeisydd yr SNP gefnogaeth y bobl oedd yno yn erbyn yr holl bleidiau eraill. Y drafferth yw nad yw pobl yn cael y cyfle yma i glywed cenhadaeth y Blaid fel ag y mae pethau.
Yn olaf rwy am gyfeirio at y gwyn nad oedden ni wedi diystyrru clymblaid gyda’r Ceidwadwyr. Galla i ddim derbyn hyn. Pa ‘lever’ byddai hynny wedi ei roi i ni mewn unrhyw drafodaethau gyda Llafur? Dim. Beth all Llafur ei gynnig i ni? Dim. Beth petai’r Ceidwadwyr sydd, fel y ddwy blaid unoliaethol arall yn chwenychu grym uwchben popeth arall, wedi cynnig newid Formula Barnet i roi fwy o arian i Gymru; Datganoli S4C gyda’r cyllid; a datganoli heddlua a chyfiawnder? Pecyn o tua £1bn i Gymru – arian poced i San Steffan. A fydden ni wedi ei wrthod? O ddifri?! Ydy Llafur yn cynnig unrhyw beth sydd am wthio cyfansoddiad Cymru yn ei flaen? Dim ffiars o beryg!
Mae gas gen i ideoloeg unigolyddol y Ceidwadwyr. Mae’n mynd yn erbyn pob dim yr ydw i’n gredu ynddo. Ond mae’n rhaid i ni ddechrau derbyn fod y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi coleddi datganoli, beth bynnag fo eu cymhelliad am wneud hynny. Mae hyn wrth gwrs yn dra wahanol i’w meistri yn Llundain, wrth gwrs, ond pan fo’n dod i drafod dyfodol Cymru, lles Cymru, a beth sy’n debygol o wthio ein prosiect cenedlaethol ni ymlaen, fedrwn ni ddim a diystyrru dim.
Dim ond rhai sylwadau brysiog yw’r rhain. Mwy i ddod yn fuan rwy’n siwr!
Sylwadau diddorol yn haeddu ystyriaeth fanwl.
Am y tro wna i ddim ond gwneud sylw ar yr angen i ddatblygu cyfryngau torfol. Fyddai neb yn anghytuno mae’n siwr, ac mae’n cael ei ddweud ar ol pob etholiad.
Sut yw’r cwestiwn. Cynhyrch deunydd ein hunain a’u dosbarthu? Angen cyllid i’w cynhyrchu, ac adnoddau i’w dosabrthu. Fe wnaeth Llafur yn Llanelli roi hysbsyeb hanner tudalen yn y papur lleol am bedair wythnos. A ddylen ni hysbysebu mwy. Hyd yn oed pe byddem yn gwneud hyn i gyd, fyddai fe ond “pisio fryw bach yn y mor” chwedl D.J.
Glywais Daran yn siarad, a mi mae’n swnio fel cefnogwr Llafur. Dyna drwg y cyfryngau yng Nghymru, mae nhw rhy agos at y pleidiau gwleidyddol Prydeinig, Llafur enwedig i unrhywfath o graffu caled sy anghenreidiol ar Gymru dyddiau yma.
Cytuno hollol efo’ch meddwlau yma.Mae’n mor pwysig bod ni’n dechrau creu golwg Cymru ein hunan,trwy’r wasg ayb,ond hefyd trwy’r feindio ein hunan.Da ni angen datblygu llygad sy’n edrych tu fewn…..Da ni angen canol bointio (fel Plaid) ar gael bob Cymro sylwyddoli ein sefyllfa fel Gymry,ac i deffro!!!
Dau beth i’w ystyried: –
Mae mewnlifiad yn yr Alban yn 7% i’w gymharu a’r llif sydd yn symud i Gymru. Dwi wedi clywed Llafur a’r Lib Dems yn dweud wrth bobl am bleidleisio drosyn nhw “to keep the nashis out”. Anodd gen i gredu fod 10,000 o Lib Dems yng Ngheredigion, ond mae yna elfennau cryf gwrth-Gymreig.
Yn ail, sy’n gysylltiedig, mae’r cwestiwn iaith yn wahanol yn yr Alban, a hynny yn golygu ei bod yn haws bod yn un genedl.
Rhaid cael yr amcanion yn iawn gyntaf cyn poeni am sut i ymgyrchu.
Cytuno efo llawer iawn rwyt ti’n ei ddweud, ond fel rhywun sy’n ystyried ei hun yn genedlaetholwr dwi dal yn methu meddwl am reswm angerddol i ymuno a’r blaid!
Rhywle ar y we gwelais fap o’r Alban yn dangos cefnogaeth yr SNP ochr yn ochr a’r gorsafoedd teledu. Roedd y gefnogaeth lawer llai yn yr ardaloedd ar y ffin lle mae’r newyddion wedi ei anelu at Loegr hefyd. MAe hyd yn oed y cyfryngau Cymreig sydd ganddym yn warthus gan gynnig fawr ddim ond cyfieithiad o’r newyddion Prydeinig. Fedr y we ein hachub?
Be nad ydw i wedi ei weld ydi neb yn gofyn be ddigwythith os caiff yr Alban ei rhyddid. Bydd gan Lloegr (see Wales) fwyafrif ceidwadol am byth. Be ydi ateb y Blaid Lafur i hynny?
Blog diddorol Mabon. Rwy’n credu o ni ddim yn glir iawn – y pwyslais ar syniadau bolisi uwchben realiti ymgyrchu oedd beth oedd di anfon fi at y ddatganiad pryfoclyd.
Rob Griffiths: “Dyna drwg y cyfryngau yng Nghymru, mae nhw rhy agos at y pleidiau gwleidyddol Prydeinig.” Ydych chi erioed wedi meddwl am sgwennu comedi gwleidyddol?
Diolch am yr ymatebion.
@Dyfrig a Rob – Mae yna le i gyhoeddiadau mewnol, yn sicr. Ond rwy’n credu fod rhaid i ni edrych y tu hwnt i hynny hyd yn oed. Naill ai gwthio am ddatganoli y BBC yn llwyr neu sefydlu Corf Ddarlledu Cymreig gyda siarter fydd yn rhoi agenda Gymreig yn ganolog iddi; slotiau newyddion teledu ar amser darlledu gwell na slot yn dilyn newyddion Prydeinig (e.e. 9yh); arianu papurau newydd prif-ffrwd i adrodd ar Gymru; hynny yw cyfryngau sydd ddim yn cymryd eu harweiniad o Loegr. rwy’n derbyn fod yna beth trafferth am fod. Mae pobl yn prynu’r Sun er enghraifft er mwyn cael ‘celeb gossips’ a gwybodaeth bel-droed, ond oddi fewn i’ hyn mae’r newyddion brif-ffrwd presenol oll ag iddyn nhw agenda ac ongl Brydeinig (defnyddio’r Sun fel enghraifft am mae honno yw’r papuar newyddion sy’n cael ei ddarllen mwyaf ydw i, nad am iddyn nhw gefnogi’r SNP eleni). Rhaid cael cyfryngau sy’n ‘Cymru-centric’ nid ‘Llundain-centric’. Ydych chi’n credu fod hyn yn flaenoriaeth?
@Pol Yn ychwanegol i hyn soniodd Ben Evans ar fy nhudalen Facebook am yr angen i addysgu pobl am hanes Cymru drwy’r cwricwlwm, ac wrth gwrs mae hyn hefyd yn hollol greiddiol. Byddai angen mewn bw rhywun fel ti wrth gwrs am dy fod ti a phrofiad o ‘ddeffro’ degau o filoedd o bobl yn y gogledd ddwyrain gyda’th ymgyrchu. Beth wyt ti’n credu dylid ei wneud i ddeffro ymwybyddiaeth pobl?
@Mer B – Rwy’n cofio i rai fy meirniadu am ddweud rhywbeth cyffelyb yn dilyn etholiadau’r llynedd. Rwy’n cytuno. Nid 10,000 o Lib Dems sydd yng Ngheredigion, ond mae canrhan helaeth ohonyn nhw’n bleidleisiau gwrth Plaid Cymru a gwrth Gymreig. Mae Pol wedi son am ddeffro. Byddai’n dda o beth petai nifer o Gymry Rhyddfrydol Ceredigion yn deffro i ddeall agenda y Rhyddfrydwyr, ac i weld beth yn union mae’n nhw’n ei wneud.
Ynghylch y cwestiwn iaith – rwy wedi bod yn chwarae meddyliau ar hyn dros y dyddiau diwethaf – testun blogiad arall rhyw dro…gobeithio. Ond mi wyt ti’n iawn ynghylch yr amcanion, oherwydd heb gael amcanion clir mae’n anodd iawn ysbrydoli pobl i ymgyrchu. Pa amcanion wyt ti’n credu y dylai’r Blaid ei goleddu a hyrwyddo, a sut y dylai’r Blaid wneud hynny?
@Ieu Mae’r map yna’n cyfleu yn wych yr hyn rwy’n trio ei roi mewn geiriau yn y blogiad. Mae yna fap arall a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr llynedd o alwadau ffon ‘rhanbarthau’ Prydain, gan ddangos y mywafrif llethol o rai yr Alban yn aros o fewn yr Alban, ond fod Cymru wedi ei rannu yn dair gyda galwadau y gogledd, er enghraifft, yn mynd dros y ffin i ardal Fanceinion yn bennaf.
Ynghylch ateb y Blaid Lafur i Annibyniaeth Albaneg – rwy’n credu eu bod nhw mewn sioc. Does neb yn fwy Imperialaidd na’r Blaid Lafur.
Pa reswm angerddol wyt ti am i’r Blaid ei roi i ti er mwyn i ti ymuno a’r Blaid?
@Daran – Mae angen pryfocio. Mond gobeithio nad yw pobl (yn cynnwys fi!) yn mynd yn rhy amddiffynol wrth gael ein pryfocio. Sut ymgyrch wyt ti’n credu y dylai’r Blaid fod wedi ei redeg eleni?
Cwestiynnau onest yw’r rhain oll, achos rwy’n credu fod yn rhaid i ni ddechrau agor fyny yn fwy i gael mewn bwn gan bawb sydd gyda lles Cymru yn eu calonnau (boed hynny’ Bleidywr neu beidio).
Mabon
Lled gytuno gyda ti Mabon. Llawer o bwyntiau day gyda ti, yn enwedig ynglyn a chlymbleidio gyda’r Ceidwadwyr.
Dwi hefyd yn cytuno ynglyn a’r cyfryngau yng Nghymru, mae’n broblem anferth. Ond be allem ni neud am y peth? Peryg yw creu cyfryngau sydd yn dibynnu ar arian llywodraeth, ac yn eithrio sefyllfa S4C am resymau amddiffyn yr iaith, dwi ddim yn meddwl bod hyn yn iachus. Busnes yw’r cyfryngau ar diwedd y dydd. Felly bydd angen person busnes yn sefydlu sianel teledu neu papur newydd yng Nghymru sydd yn gallu cystadlu gyda crap ITV, neu Dave neu BBC 57. Mae’n angenrheidiol, ond dwi ddim yn gweld hyn yn digwydd yn fuan.
Pwynt arall wrth gwrs yw bod cefnogaeth y Blaid wedi mynd lawr ers 1999. Dan ni methu rhoi bai ar y cyfryngau am hyn wrth gwrs! Felly, rhaid bod rhywbeth o le gyda neges y Blaid. Ie, mae’r Blaid gyda manifesto da……ond be uffach yw’r pwynt os nad oedd gan a Blaid naratif. Gadawodd y Blaid i Llafur dwyn tir cenedlaetholwyr. Llafur oedd yn sefyll i fyny i Gymru ac yn ymosod ar y Big Bad UK Government. Roedd Plaid yn ymosod ar Lywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru roedd y Blaid yn rhan ohono, ac yn cefnogi ychydig o fisoedd ynghynt yn ystod ymgyrch y refferendwm. Naratif y refferendwm i lawer oedd siawns i Gymru sefyll i fyny yn erbyn Llywodraeth Prydain. Dyla’r Blaid cymryd mantais o hyn!
Rhywbeth arall hefyd am y refferenwn, roedd y Blaid yn dwp iawn am beidio cymryd mantais o’r ffaith na fydda refferendwm onibai am y Blaid. Yn lle fod yn ‘loud and proud’ o hyn, reodd Plaid yn timid iawn ac hyd yn oed anghytuno gyda Peter Hain pan dwedodd o fod y Blaid oedd tu ol i’r refferendwm. Ymated Plaid i’r honiad hyn gan Hain dyle bod “too right, Plaid pushed for a referendum so Wales can stand up for itself against the UK government” Mae’r Blaid yn rhy llipa ynglyn a’r pethau ‘ma.
Mae llawer wedi deud roedd etholiad y Cynulliad yn ‘Very British’. Dwi ddim yn cytno. Roedd dyletswydd am y Blaid i sylweddoli mae’r toriadau gan Llywodraeth Prydain oedd y ‘gelyn’ mwyaf yn yr etholiad wthos dwetha, nid Llafur yn Nghaerdydd. Plaid nath adael i’r etholiad hwn troi mewn i un Prydeinig gan beidio chwarae rhan yn yr etholiad fel dyla hi. Dyla’r Blaid wedi troi yr etholiad mewn i siawns i bobl Cymru sefyll fyny i’w hunan yn erbyn y Ceidwadwyr yn Llundain. Naratif y refferendwm.
Sdim pwynt i ddweud dyle ‘r wasg canolbwyntio ar manifesotos yn pleidiau. Ie, hyn dylse ddigwydd. Ond roedd Plaid yn gorfod bod yn savvy a sylweddoli nad oedd hwn yn digwydd. Sdim pwynt cwyno am y wasg ddim yn gwerthu ein negeseuon cymhleth y manifesto. Er enghraifft, roedd yr SNP yn siarad am yr Alban gall fod….y dyfodol gwell……rhywbeth i gredu ynddo. Prif neges roedd Plaid yn pwshio oedd y Build4Wales, ac I fod yn onest, dwi ddim hyd yn oed yn dallt hwn yn iawn. Sdim pwynt i fod yn ‘Ambitious for Wales’ heb weledigaeth glir fel yr SNP.
Dwi’n anghytuno gyda ti hefyd ynglyn a’r cymhariaeth gyda’r SNP wrth gwrs. Mae’n bwysig i weld beth sydd yn bosib i blaid cenedlaetholgar gwneud. Roedd yr SNP yn sefyll fyny i’r Alban. Toeddan nhw ddim yn gadael i’r pleidiau hyd yn oed trio dwyn dillad cenedlaetholgar nhw. Gwhananol i’r Blaid wrth gwrs.
Y broblem yw, mae’r Blaid yn naive, yn rhy wishy-washy ac angen tyfy asgwrn cefn. Sdim pwynt cwyno am y wasg/refferendwm AV/Very British Assembly election. Ar diwedd y dydd, y Blaid sydd angen tyfu par o geilliau, stopio bod mor timid ynglyn a phopeth a rili sefyll fyny i Gymru. Sa neb o’r pleidiau eraill yn mynd i!
Pwynt olaf…..mae’r ffaith bod cefnogwyr traddodiadol y plaid yn hapus pleidleisio i’r Welsh Conservatives, bod cenedlaetholwyr ddim yn ymaelodi gyda’r Blaid a bod ein actifyddion yn di-motivated ac yn ystyried pam fod nhw’n helpu Plaid, i gyd oherwydd diffygion y Blaid i ysbrydoli bobl. Mae angen mynd ‘Back to Basics’, cymryd y cyfle fel Wrthblaid i sortio’r blaid allan i neud yn siwr bydd 2016 yn lot well.
Mwy i ddweud, ond nai cadw’r juicy stuff i bethau mewnol y blaid. Sdim pwynt dweud wrth bawb am bopeth.
Cofion,
Nia
Falle na dene’r broblem, nad ydi’r blaid yn gallu rhoi rheswm i mi ymuno. H.Y. fi a llawer o bobl eraill
Roeddwn yn aeod or Blaid am flynyddoedd drwy ysbrydoliaeth Gwynfor Evans, Dafydd Iwan a Dafydd Wigley a fy Nhad. Ymeilodais am gyfnod oherwydd siomedigaeth arweiniad Ieuan W Jones. Mi wnes golli ffydd yng ngwleidyddiaeth yn gyfan gwbwl. Yr unig rheswm wnes i ail ymeilodi oedd drwy brwdfrydedd a dirnadaeth Carrie Harper ymgeisydd Fflint/Delyn y tro yma. Creuwyd Cyngor pobl Gogledd Cymru ar ymgyrch ‘Deffro’r Ddraig’.
Roedd yn bwysig i mi i gefnogi Carrie oherwydd roedd ganddi hi yr un weledigaeth a mi (Hithau a weddill CPGC), yna cyfarfod a Mabon! Wel am ddyn sydd yn ysbrydoli pobl, yn agos atoch, grandawr arbennig ac yn ddi feirniadol. Cadarnhad fy mod ar y tras cywir.
Dwi dal i gredu fod rhaid cael arweinydd cryfach, yn ddelfrydol yr union fel ein Mabon ni!! Rwyn hyderus iawn mai gyrfa llewyrchus iawn sydd gan Mabon o fewn Plaid Cymru.
Er mwyn cefnogi Mabon, Carrie ar criw mae rhaid ysbrydoli eraill i ddilyn. Rwyf innau am drio sefyll yng Nghoedpoeth, Wrecsam blwyddyn nesaf i wneud yn union hyn. Mae rhaid ir bobl gweld y gwaith drwy bob lefel, trwy’r amser, ddim cyn etholiad yn unig.
Diolch am yr ymatebion. Fedra i ddim ymateb yn llawn iddyn nhw gyd eto gan mod i ar y ffordd i Gaernarfon i ymuno a chriw Cymdeithas yr Iaith wrth iddyn nhw frwydro dros Ysgol y Parc.
Ond i nodi sydyn, mae Cai wedi cyfranu ar ei flog (http://oclmenai.blogspot.com/2011/05/anghytuno-efo-mabon-am-unwaith.html)
Rwy’n cytuno ag e – rhaid edrych ar y pethau hynny sydd o fewn ein rheolaeth, a dylid ddim osgoi hunan-feirniadaeth.
Ond i fy meddwl i, o ddatrys y pethau yma efallai yn wir y bydden ni wedi medru cadw Aberconwy, Llanelli, a chael un sedd rhestr arall (Gogledd mwy na thebyg) gan roi 14 sedd i ni. Ond dyma’r math o bethau ddylai boeni y Blaid Lafur – dyma’r math o bethau sydd wedi gwneud y gwahaniaeth rhyngddyn nhwythau’n ennill neu golli Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Gorllewin Caerfyrddin, a chael mwyafrif gweithredol.
Rwy’n meddwl mwy yn nhermau nid beth sy’n mynd i ddod a 14,15,16 o seddi i Blaid Cymru, ond yn hytrach beth sydd am olygu ein bod ni’n ennill 28, 29, 30 o seddi. Oni ddylai llywodraethu gyda mwyafrif fod yn uchelgais?
Mabon, mae’r drafodaeth ma’n un aeddfed ac yn ymateb digon teg i fethianau’r ymgyrch etholiadol. Mae’n dda i beidio osgoi bod yn hunan-feirniadol. Rydw i wedi neud ambell i sylw ar ymgyrch Plaid yn barod, megis y sylwadau fanma yn ystod yr ymgyrch:
http://waleshome.org/2011/04/the-end-of-monogamy/
Y post yma hefyd yn agosach at ddiwrnod y bleidlais:
http://waleshome.org/2011/04/a-week-to-change-the-game-that-wont-change/
Ac hefyd sylwadau mwy siarp fan hyn:
http://waleshome.org/2011/05/no-excuses/
Does gen i fawr ddim i ychwanegi ar ol hynny! Yn wir, rwyf wedi roi laryngitis i fy hun dros yr wythnos diwethaf – yn wir.
Ond gallai gloi trwy canmol y penderfyniad wnaeth y Blaid Dydd Gwener ynglyn a chael oruwchwyliad mewnol. Mae hynny’n penderfyniad yr un mor bwysig a’r arweinyddiaeth ac os disgwyl bod chi fel Plaid yn croesawi sylwadau o’r tu allan, byddwn yn hapus iawn bwydo mewn ac wrth wneud hynny mi geisiau peidio bod mor fyrbwyll a thrahaus ag oeddwm ar y radio wythnos yn ol .
Cofion
Daran