
Mae dros wythnos wedi mynd heibio ers i Gymru bleidleisio Ie yn y refferendwm.
Roeddwn i’n Asiant i’r ymgyrch Ie yn sir Ddinbych, ac wedi bod yn ymwneud i ryw raddau neu gilydd ag ymgyrchoedd Wrecsam, Aberconwy a Meirionnydd hefyd.
Roeddwn i mewn sefyllfa ffodus felly i weld y gwaith caled a roddwyd i fewn i sicrhau llwyddiant yr ymgyrch gan bobl ar lawr gwlad.
Mae’r ffaith i’r gogledd ddwyrain ddweud Ie gyda chymaint o frwdfrydedd yn destun balchder. Gwelodd Sir Ddinbych newid llwyr o ’97 gyda 62% yn dweud Ie y tro yma. Cyfaddefodd Rachel Banner o’r ymgyrch Na eu bod nhw’n fwriadol wedi targedu’r gogledd ddwyrain, gan gredu fod yno dir ffrwythlon i wrth-ddatganolwyr. Wedi’r cyfan dyma ardal
- cartref John Broughton (pentref Llandrillo, a bleidleisiodd 65% ie, gyda llaw!), sef Asiant ymgeisydd Ceidwadol De Clwyd un o brif aelodau yr ymgyrch Na;
- y grwp Cynghorwyr Ceidwadol ar Gyngor Sir Ddinbych (ardal Prestatyn a Llanelwy yn bennaf) a wnaeth ddatganiad cyhoeddus yn galw am bleidlais Na;
- ac yna’r grwp rhyfedd hwnnw o gynghorwyr ar Gyngor Sir Wrecsam, yn gymysgwch o Ryddfrydwyr, Llafurwyr a Cheidwadwyr a gynhaliodd gynhadledd i’r wasg o ryw fath yn galw am bleidlais Na.
Sir Ddinbych oedd y cyntaf i gyhoeddi yn ’97, felly gan ystyied y ffactorau uchod, a’r ffaith i’r gogledd ddwyrain ddweud Na pendant nol yn 1997, roeddwn i’n gwybod y byddai canlyniad positif yn Sir Ddinbych yn argoeli’n dda yn genedlaethol.
Sir Ddinbych oedd yr ail i gyhoeddi y tro yma, a hynny am 13:30, ond roeddem ni yn y cyfrif yn gwybod y canlyniad o fewn 1% i’r canlyniad terfynol erbyn 11.00, a hynny oherwydd y samplo trwyadl a wnaed gan y tim. Roeddem ni’n gwybod bryd hynny fod pethau’n argoeli’n dda ar y bleidlais yn genedlaethol.
Ond sut ennillwyd y bleidlais? Sut mae esbonio’r gefnogaeth brwd a gafwyd i bleidlais Ie?
Plaid Cymru. Mi fyddech yn disgwyl i fi ddweud hyn, ond dyma’r ffeithiau.
Roedd hi’n ymgyrch aml-bleidliol, oedd. Mynychais i amryw o gyfarfodydd cyhoeddus ar hyd y gogledd, ac roedd cynrychiolwyr pob un o’r pedair prif blaid yn bresenol, ac yn siarad yn dda hefyd.
Ar lefel bersonol roeddwn i’n ymwneud yn lled reolaidd gyda Susan Elan Jones, AS, (Llafur) a Mark Isherwood AC (Ceidwadol) ac mae’n siwr gen i heblaw am eu hymrwymiadau gwleidyddol y byddent wedi gwneud hyd yn oed yn fwy. Ond wrth gerdded y strydoedd aelodau neu gefnogwyr Plaid Cymru, bron yn ddi-eithriad, oedd yn gwneud y gwaith caib-a-rhaw. Mae’r diffyg gwybodaeth ynghylch y refferendwm yn wybyddus i bawb erbyn hyn. Y gwahaniaeth felly yw’r ffaith fod aelodau’r Blaid wedi llwyddo i ddosbarthu dros 100,000 o daflenni yng ngogledd ddwyrain Cymru. Heb hyn byddai yna ddim gwybodaeth wedi bod ynghylch y refferendwm.
Ar ddiwrnod y canlyniad dywedodd gohebydd materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, mae’r ffaith i’r Blaid Lafur gefnogi’r ymgyrch mor gryf yn lleol sicrhaodd y bleidlais Ie yn y Fflint. Rwy’n gwybod i’r datganiad yma gynddeiriogi Pleidwyr yr ardal, oherwydd yn Delyn, oleiaf, aelodau Plaid Cymru oedd yn dosbarthu taflenni, yn cnocio drysau, ac yn argyhoeddi pobl ar y stryd.
Yn Ne Clwyd a Wrecsam tra fod aelodau’r Blaid yn ymgyrchu dros bleidlais Ie roedd Llafurwyr yn hyrwyddo eu hymgyrchoedd etholiadol eu hunain.
Y gwir yw heb Plaid Cymru byddai yna ddim ymgyrch Ie wedi bod yn y gogledd ddwyrain.
Mae’n wir dweud fod Chris Ruan, AS Dyffryn Clwyd (Llafur) wedi dechrau ymgyrchu yn ystod y bythefnos olaf, hyn ar ol iddo ddweud yn wreiddiol y byddai’n fodlon rhoi ei enw wrth unrhyw ddatganiad cyhoeddus ond mae ei flaenoriaeth oedd ail ethol Anne Jones AC ym mis Mai. Y rheswm iddo ymuno yn yr ymgyrch Ie oedd oherwydd fod Ceidwadwyr Prestatyn wedi dechrau ymgyrchu am bleidlais Na. Cymhelliad pleidiol wleidyddol yn unig.
Roedd Ceidwadwr amlwg i fod yn un o brif drefnwyr yr ymgyrch yn Sir Ddinbych, ond methodd a gwneud dim gwaith trefniadol dim ond dangos ei wyneb mewn digwyddiadau cyhoeddus. Bu raid i Bleidwyr fynd ati a threfnu’r gwaith caib a rhaw, a gwnaed hynny ag arddeliad gan ddosbarthu degau o filoedd ar hyd y sir.
Roedd hi’n amlwg fod Banner a’i chriw yn chwarae ar ofidiau pobl fod popeth yn mynd i’r De a dim yn dod i’r gogledd. Y bwriad oedd tanseilio unrhyw hyder yng ngallu’r Cynulliad i ddelifro; rhanu Cymru a troi Cymry yn erbyn eu gilydd yn seiliedig ar eu lleoliad. Methon nhw. Pleidleisiodd y gogledd ddwyrain yn gryf o blaid Ie – pleidlais o hyder yn y Cynulliad, a phleidlais o hyder yng Nghymru.
Dydi hyn ddim i ddweud nad yw pobl y rhan yma o Gymru yn pryderi nad oes digon o fuddsoddiad yn yr ardal, ac mae yna ganfyddiad gwirioneddol bod y de, ac ardal Caerdydd yn enwedig, yn cael fwy o fudd o’r Cynulliad na’r rhanbarthau gogleddol. Ond fe bleidleision nhw Ie er gwaetha hyn. Pam? Oherwydd nad yw pobl yn dwp. Am eu bod nhw’n gallu gweld nad y Cynulliad fel sefydliad yw’r drwg yn y caws, ond yn hytrach yr unigolion y mae’n nhw’n bleidleisio drosto yn yr etholiadau.
Y gwleidyddion sydd yn gwneud penderfyniadau ar flaenoriaethau’r Cynulliad. Y gwleidyddion sydd i fod i ymladd eu cornel nhw, a siarad drostyn nhw. Y gwleidyddion yma sydd wedi methu, nid y Cynulliad, ac mae etholwyr y gogledd ddwyrain yn ddigon call i ddeall hynny.
Ychydig cyn y refferendwm dywedodd Peter Hain mai Plaid Cymru oedd yn rhedeg y sioe yn y Cynulliad – Plaid Cymru fynodd cael y refferendwm, meddai. Diolch byth am Blaid Cymru felly.
Wrth i ni edrych dros y ffin at ein brodyr a’n chwiorydd yn Lloegr, ac yn gweld y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei breifateiddio, wrth i wasanaethau cyhoeddus yno grebachu, ac wrth i’r system addysg gael ei ranu ar sail gallu talu, cofiwch mai Plaid Cymru lwyddodd i sicrhau fod Cymru yn cael y pwerau angenrheidiol i warchod ein pobl yma rhag toriadau llym y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr acw.
Bydd ‘turn-out’ etholiadau’r Cynulliad ddim mor wahanol a hynny i ‘durn-out’ y refferendwm. Buddugoliaeth Plaid Cymru oedd y refferendwm. Mae’n amlwg fod y gogledd ddwyrain yn barod i wrando ar neges y Blaid.
Mae nhw eisioes wedi rhoi pleidlais o hyder yng Nghymru.
Mater o amser yw hi cyn i’r arfer hwnnw drosi’n arferiad o bleidleisio dros Blaid Cymru.

O.N. Diolch hefyd i bobl Cefn Mawr, Davi Chris, a stadiwm y Roc am y parti gwych a gafwyd i ddathlu’r canlyniad ar y nos Wener!
Digwyddodd yr un peth yng Nghaerffili, gyda Phlaid Cymru’n gwneud y gwaith caib a rhaw yn ein hardal ni. Ond eto i gyd, breuddwyd ffwl byddai disgwyl i aelodau’r Blaid Lafur yn yr hen Went i ymgyrchu dros bleidlais ie. Aelod o’r blaid Lafur yw Rachel Banner, wedi’r cyfan!