Hyder Plaid yn y Gogledd Ddwyrain

Cafwyd dwy ddatganiad yn ddiweddar oedd yn ddatganiadau o gefnogaeth a hyder yn ne Sir Ddinbych ac yng ngogledd ddwyrain Cymru. Yn gyntaf cafwyd cyhoeddiad fod Llywodraeth y Cynulliad am gyd-arianu’r rheilffordd o Langollen i Gorwen, trwy grant gwerth £1/2m; a’r ail fod Llywodraeth y Cynulliad am roi grant o dros £3m i arianu prosiectau cyffrous gan Cadwyn Clwyd fydd yn helpu cynnyrch lleol,  yr amgylchedd, a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc yr ardal. 

Yr hyn sy’n gyffredin yn y datganiadau yma yw eu bont wedi cael eu wneud gan adranau gweinidogion Plaid Cymru, y naill gan Jocelyn Davies (dirprwy weinidog i Ieuan Wyn Jones, ill dau yn weinidogion Plaid Cymru) a’r llall gan Elin Jones. Mae hyn yn dilyn yr arian a gaed o adran Alun Ffred (gweinidog Treftadaeth, Plaid Cymru) i gryfhau olion castell Owain Glyndwr yn Llidiart-y-Parc, ger Glyndyfrdwy nol yn yr haf. 

Mae’r Dr. John Davies (Bwlchllan) wedi son am ei gred fod gogledd ddwyrain Cymru yn cael ei anwybyddu wrth drafod hanes Cymru, ac fod yr ardal mewn gwirionedd wedi chwarae rhan ganolog yn nhwf a datblygiad ein cenedl, ffaith sy’n mynd yn angof i’r rhelyw o bobl. Rydym yn clywed yn llawer rhy aml fod y Cynulliad yn anwybyddu’r rhan yma o Gymru.

Mae’n dda gweld Gweinidogion Plaid Cymru yn rhoi’r sylw a’r buddsoddiad haeddianol i’r ardal. Buddsoddiad o hyder. 

Y cam cyffrous nesaf yw ceisio ennill y ddadl ynghylch datblygiadau camlas Llangollen a’r potensial ar ei gyfer yn ardal Plas Madog. 

Fe wna i son rhagor am hyn rhywbryd eto!