Ysbyty Llangollen – canoli v. cymunedol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau ysbyty Llangollen dros fisoedd y gaeaf.

Mae Karen Sinclair, yr AC lleol (Llafur), wedi mynegi ei phryder ynghylch y cyhoeddiad, a da iawn hi am hynny.

Cyn mynd ymhellach peidiwch ag anghofio mai bwriad Llafur oedd i gau llwyth o ysbytai cymunedol nol yn 2006, hynny tan i Balid Cymru fynnu eu bont yn dod a’r rhaglen cau ysbyta i derfyn fel rhan o Gytundeb Cymru’n Un, 2007. Dydw i ddim yn amau diffuantrwydd Ms Sinclair, wedi’r cyfan mae hi’n byw yn y dref, ond ymddengys fel fod y blaid Lafur yn dioddef pwl o’r LibDemitis – y salwch hynny sy’n arwain at ddweud un peth mewn un man gan ddweud rhywbeth yn gwbl i’r gwrthwyneb mewn man arall.

Mae amseriad y cyhoeddiad yn ymddangos braidd yn rhyfedd. Onid yn ystod gaeaf oer fel hyn y mae’r angen mwyaf ar gyfer ysbyty cymunedol o’r fath? Gadewch i ni obeithio na fydd y rhew a’r eira yn achosi gormod o drafferthion ar y ffyrdd i Wrecsam a’r Waun!

Mae gennyf beth cydymdeimlad a’r bwrdd iechyd, wedi’r cyfan mae’n ofynnol arnyn nhw i gwtogi eu gwariant, ac mae pob cynnig yn cael ei wrthwynebu!

Ond mae’n nhw’n mynd ati y ffordd anghywir.

Dyma beth ddywedodd y Gweinidog iechyd wrth gyhoeddi’r setliad ariannol:

“By protecting funding for front-line hospital and community health services, we will ensure that the most vulnerable members of society will continue to have access to the services they need, when they need them.”

Nid yw penderfyniad y Bwrdd Iechyd i gau ysbyty Llangollen dros y gaeaf, a’r bygythiad i wasanaethau plant y Maelor yn cyd-fynd ag ysbryd y setliad felly.

 Mae ysbyty lleol megis Llangollen yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy – hawdd cael mynediad, tawelwch meddwl, llai o giwio ac aros mewn ysbytai mawr, gwasanaeth mwy personol, llai o deithio, cleifion yn agosach i’w cartrefi, llai o bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans. Po agosaf y ddarpariaeth iechyd y mwyaf hygyrch ydyw, yn arbennig felly i’r bregus a’r difreintiedig.

Ag eithrio costau cyfalaf rwy’n methu gweld sut y mae’r Brwdd am arbed arian trwy gau’r ysbyty. Mae ar y bobl sy’n defnyddio’r ysbyty angen gwasanaeth feddygol. Boed hynny yn Llangollen, y Waun, neu Wrecsam mae’r rhaid talu am y gwasanaeth yma, heblaw wrth gwrs eu bont yn bwriadu torri yn ol ar staffio, fyddai’n arbed costau refeniw sylweddol. Byddai hyn serch hynny yn gwneud y sefyllfa gan mil gwaith gwaeth.

Yn anffodus gorwedd gwraidd y bygythiad i ysbyty Llangollen yn y gred anghywir fod angen canoli pob dim er mwyn arbed arian a gwella gwasanaethau. Mae’r gred yma wedi treiddio trwy bob rhan o’n cymdeithas ac wedi dinistrio nifer o gymunedau Cymru dros y degawdau. Rhaid herio’r gred hon.

Wrth gwrs ar bapur mae canoli gwasanaethau yn gwneud synnwyr. Yn ol y ffugurau mi fydd gan y mwyafrif fodd cyfleus i deithio; mae’r mwyafrif yn byw o fewn pellter derbyniol; mae’r holl fodel o ddarparu gwasanaethau yn seiliedig ar niferoedd mwyafrifol sy’n creu ystadegau gwell. Mae’r ystadegau yma wedyn yn cael ei crynhoi i lunio dadl o blaid canoli.

Ond mae’r ymarferiad papur yma’n methu a chymryd i ystyriaeth anghenion pob unigolyn ac anghenion y gymuned, gan anwybyddu y rhai hynny ar y cyrion, y mwyaf bregus a difreintiedig, sydd fel rheol gyda’r angen mwyaf am y gwasanaethau hyn!

Cyn dechrau ar unrhyw broses o ail strwythuro rhaid i’r awdurdodau edrych ar yr angen ymhlith y rhai hynny sy’n fwyaf tebygol o eisiau defnyddio’r wasanaeth – nid ymarferiad ar bapur ond ymarferiad mewn trafodaeth gymdeithasol, gan sicrhau fod y rhai ar y cyrion yn cael cyfle i gyfranu ac yn cael eu llais wedi ei glywed.

Rwy’n gwrthod a chredu ein bod yn byw mewn cymdeithas unigolyddol. Ar ol bod ar strydoedd Llangollen dros y penwythnos gyda deiseb yn erbyn y cynlluniau i gau, ac wedi siarad gyda nifer a chasglu llofnodion cannoedd, rwy’n hyderus fod pobl y dre’n rhanu’r syniadau altriwistaidd yma gan roi gwerth ar eu cymuned a’u cymdogion.

Gadewch i ni obeithio fod y Bwrdd Iechyd yn gweld gwerth y gymuned hefyd ac yn ail feddwl unrhyw gynlluniau i gau’r ysbyty.