Pobl Iwerddon yn talu’r pris am drachwant Ewrop

Aeth degau o filoedd o Wyddelod i Ddulyn dros y penwythnos i brotestio yn erbyn cynlluniau economaidd llym eu llywodraeth – lleihau isafswm cyflog; torri budd-daliadau’r di-waith; codi TAW i 24%; cynyddu treth eiddo, a llawer mwy. Serch hynny does yna ddim bwriad i gynyddu treth corfforaethol, sydd ymhlith yr isaf yn Ewrop, 12.5%. Mae’r neges yn glir, rhaid i Wyddelod cyffredin dalu’r pris am lanast economaidd Iwerddon, tra fo cwmniau rhyngwladol mawr yn parhau i weithredu yn ddi-gosb. 

Gadewch i ni atgoffa ein hunain yn sydyn o sut y cafodd Iwerddon ei hun i fewn i’r llanast yma. Gamblodd y banciau…yn drwm, a cholli. Roedden nhw’n gamblo am fod y llywodraeth (Fianna Fail) yn gadael iddynt wneud hynny. Wrth iddi wawrio arnyn nhw beth yn union oedd maint y colledion fe addawodd y Llywodraeth i warantu holl arbedion arianol pobl Iwerddon gan wladoli y banciau (i bob pwrpas) a chymryd drosodd eu holl dyledion. Fe barhaodd yr economi i grebachu, roedd twf yn negyddol, chwalodd y diwydiant adeiladu (y prif ddiwydiant a gyfranodd at rym economaidd Iwerddon yn y lle cyntaf), collodd pobl eu swyddi, lleihaodd yr incwm o dreth. Canlyniad hyn yw fod y llywodraeth yn methu ag ad-dalu’r dyledion hefyd. 

Mae’r IMF, yr UE, ar’ DU wedi uno i achub Iwerddon gan roi benthyciad anferthol o £77bn iddyn nhw. Da iawn nhw! Onid e? Wel, na, nid o reidrwydd. Yn gyntaf roedd llywodraeth yr Iwerddon yn mynnu  nad oedd angen benthyciad o’r fath arnyn nhw. Mae adroddiadau yn awgrymu fod Llywodraeth Iwerddon wedi cael eu gorfodi i dderbyn y benthyciad, gan gyflwyno mesurau economeg eithriadol o llym fel amod am dderbyn y benthyciad. 

Ond roedd yna opsiwn arall. Gallant fod wedi diffygdalu (default). Byddai canlyniad diffygdalu hefyd wedi bod yn boenus er fod hanes diweddar yn dangos fod Rwsia a’r Ariannin wedi diffygdalu yn lled ddiweddar ac ar ol dioddef rhai blynyddoedd caled iawn eu bont wedi dychwelyd i dwf economaidd (er fod y ffordd y llwyddodd Rwsia i gael twf economaidd yn parhau i fod yn amheus). Mae’r ddwy opsiwn o ddiffygdalu a derbyn benthyciad ill dau yn rhai sydd am darro’r bobl gyffredin yn wael. Ond yn achos diffygdalu dewis llywodraeth sofran Iwerddon byddai pa bolisiau economaidd y dylid eu rhoi mewn lle er mwyn ceisio hybu twf eto. Wrth fenthyg yr arian yma mae’n nhw wedi rhoi fyny ei sofraniaeth a gadael i lywodraeth estron wneud penderfyniadau dros ei pobl, nid er lles pobl Iwerddon ond er lles yr Ewro a chynnal marchadoedd ariannol Ewrop. Yn ogystal a hyn, yn achos Rwsia, yr Ariannin, a Gwlad yr Ia (er mai bethnyciad a dderbyniodd Gwlad yr Ia), roedd ganddyn nhw’r gallu i reoli eu heconomi trwy di-brisio gwerth yr arian. Gall Iwerddon ddim wneud hyn am eu bont ynghlwm yn yr Ewro. 

Pam fod yr IMF, yr UE, a’r DU wedi mynnu bod Iwerddon yn derbyn benthyciad felly? Mae’n ymddangos fod y lefel o rhyng-ddibynu sydd rhwng y banciau a sefydliadau arianol yn gymaint fel y byddai diffygdalu ar ran yr Iwerddon yn arwain at gwymp sylweddol yn hyder y farchnad mewn canolfanau arianol eraill, yn cynnwys Llundain. Pe byddai Sbaen, dyweder, yn dewis diffygdalu byddai’r cwymp mewn hyder yn y farchnadoedd bron yn anochel yn arwain at y DU a Ffrainc yn colli gwerth arianol sylweddol. Os byddai Iwerddon yn methu ag ad-dalu byddai hyder yn cwympo yng ngallu Portiwgal a Sbaen i ad-dalu. Byddai’r gost o fenthyg i’r gwledydd yma yn anferthol, tua €600bn gyda benthyciad i Sbaen yn costio degau o biliynnau o bunnoedd i drysorlys y DU, arian, yn ol y Canghellor George Osborne, nad sydd ganddom ni i hybu ein heconomi ein hunain heb son am gynorthwyo i hybu economi unrhyw wlad arall (er, sut y llwyddodd i ffeindio £7bn i hybu economi Iwerddon pwy a wyr…heblaw fod rhywun yn dweud celwyddau! Peidiwch a son!) Byddai benthygiad mor anferthol yn dinistrio’r Ewro gan fygwth holl sefydliad economaidd Ewrop. 

Felly er mwyn osgoi rali ddomino ar draws Marchnadoedd Ewrop mae’r Gwyddelod yn gorfod talu’r pris i gynnal hyder y farchnad. Yr hyn sy’n drist am y sefyllfa serch hynny yw nad yw dim o hyn yn wyddoniaeth bur ac mae hyder y farchnad yn dibynnu yn llwyr ar hapfasnachu. Yn y cyfamser mae pobl Iwerddon yn gorfod talu’r pris am ein trachwant ni oll.

Advertisements

One thought on “Pobl Iwerddon yn talu’r pris am drachwant Ewrop

  1. If you remove the English army tomorrow and hoist the green flag over Dublin Castle, unless you set about the organization of the Socialist Republic your efforts would be in vain. England would still rule you. She would rule you through her capitalists, through her landlords, through her financiers, through the whole array of commercial and individualist institutions she has planted in this country and watered with the tears of our mothers and the blood of our martyrs. -James Connolly. Newidiwch England i Ewrob

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s