Yn gynharach yr wythnos yma fe gytunodd Bwrdd Rheoli Wrecsam i beidio a chau chweched dosbarth ysgolion Rhiwabon, a Maelor, Penley.
Mae’r newydd yma’n dipyn o syndod ond i’w groesawi. Llongyfarchiadau i bawb, yn enwedig y myfyrwyr hynny a siaradodd mor huawdl yn y cyfarfod.
Mae’n syndod oherwydd rhoddwyd pedair cynnig gwreiddiol gerbron y Bwrdd Rheoli ac o’r pedair cynnig ffafriwyd opsiwn 4 yn wreiddiol, sef yr opsiwn i ddatblygu darpariaeth drydyddol lawn ar gyfer De Wrecsam, fyddai felly yn golygu cau y chweched dosbarth Rhiwabon a Penley, a chanoli addysg ol 16 yng Ngholeg Ial.
Y ddadl a roddwyd o blaid hyn yn wreiddiol oedd y byddai’r pedwerydd opsiwn yma yn cynnig gwell amrywiaeth o bynciau i’r myfyrwyr oedd, yn ol y cefnogwyr, yn greiddiol i Fesur Dysgu a Sgiliau (2009) y Cynulliad Cenedlaethol. Nodwyd hefyd y byddai’r opsiwn yma yn fwy cost-effeithiol.
Rwy’n falch serch hynny eu bod nhw wedi dewis opsiwn 1, sef cynnal y chweched dosbarth yn y ddwy ysgol ond hefyd i ddatblygu’r bartneriaeth rhynddynt a Choleg Ial.
Mae’n gywir i ddweud fod y Mesur Dysgu a Sgiliau (2009) yn rhoi pwyslais ar ddewis y myfyriwr cyn belled ag y mae’r cwricwlwm yn y cwestiwn, ond mae’n werth nodi fod y sefydliad addysgol hefyd yn ystyriaeth. Mae Coleg Ial yn sefydliad arbennig, ac mi fyddai cydweithio a Choleg Ial yn sicr o fudd i’r ddwy Chweched Dosbarth. Ond nid Coleg yw’r sefydliad addysgiadol cywir i bawb. Mae chweched dosbarth yn cynnig addysg mwy strwythredig; parhad addysgiadol gyda athrawon a ffrindiau; a’r gallu i aros yn y gymuned. Mae’r rhain oll yn ffactorau pwysig wrth ystyried addysg ol 16.
Felly wrth ddewis yr opsiwn yma o gydweithio mae’r mater o ddewis addysgiadol y myfyriwr, sydd yn rhan mor greiddiol i’r Mesur Dysgu a Sgiliau, yn parhau yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth addysgol.
Ond mae yna adrannau eraill o bwys yn y mesur sydd yn pwyso yn erbyn unrhyw gynllun i ganoli addysg ol 16 yng Ngholeg Ial:
(c)the amount of time likely to be spent travelling to the place at which the course is likely to be delivered would be detrimental to the student’s education;
(d)disproportionate expenditure would be incurred if the student were to follow the course of study;
(rwy wedi methu dod o hyd i fersiwn Cymraeg o’r Mesur)
Byddai rhai myfyrwyr yn ddigon ffodus i fedru cael trafnidiaeth breifat. Byddai hyn yn ei hun yn fwrdwn ychwanegol ar lonydd prysur Wrecsam. Ond byddai’r mwyafrif o fyfyrwyr yn gorfod bod yn ddibynol ar drafnidiaeth gyhoeddus, byddai yn gost ychwanegol yn un peth ond hefyd byddai’r amser teithio ac amserlenni y bysiau yn fater o bwys, heblaw fod y Cyngor am fyny fod y cwmniau bysiau yn newid eu hamserlenu i siwtio’r darlithoedd!
Mae myfyrwyr sydd yn dioddef trafferthion yn y cartref hefyd yn cael budd o’r addysg mwy strwythredig y mae’r Chweched yn ei gynnig. Ac ni ddylid anghofio rol bwysig y chweched yn creu ‘role-models’ i’r disgyblion iau ac yn dod a chlod i’r ysgol.
Ond nid yw’r frwydr wedi ei hennill. Tra fo’r Bwrdd Rheoli yn ffafrio Opsiwn 1, yn y pendraw gorwedd y penderfyniad yn nwylo y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews. Mae’r frwydr am ddyfodol Chweched Dosbarth Rhiwabon a Penley yn parhau!