Fe drodd y blynyddoedd ffyniannus o dan stiwardiaeth anffodus y Blaid Lafur bob un ohonom ni’n hapfasnachwyr eiddo. Fe greodd synnwyr ffals o gyfoeth a achosodd ruthr am dir a phawb yn ceisio manteisio ar y twf aruthrol yng ngwerth tir, gan gynnwys rhai cymeriadau diddorol.
Yn eu plith roedd y corff uchel ei barch hwnnw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yr YG yw un o dirfeddianwyr mwyaf y DU, a dyw hi’n ddim syndod fod y cyfarwyddwyr yn gweld cyfle i wneud arian wrth i werth y tir gynyddu.
Yn ystod y blynyddoedd ffyniannus roedd diffyg tai fforddiadwy yn drafferth a wynebau ardaloedd llewyrchus yn ogystal ag ardaloedd tlawd. Roedd diffyg tai fforddiadwy yn her mawr i ardaloedd Swydd Gaer a Warrington, er mai’r ardaloedd yna oedd rhai o’r ardaloedd mwyaf llewyrchus yn y DU gyda GVA o £17,650 yn ardal Cyngor Swydd Gaer, a £19,800 yn Halton & Warrington o’i gymharu a GVA o £13,800 yng ngogledd ddwyrain Cymru. Roedd angen tai ar Swydd Gaer, ond nid yn Swydd Gaer am ei fod yn llawer rhy ddrud ac eu bod nhw’n parchu eu hardaloedd gwyrdd. Nepell o swydd Gaer gorweddai dir bras yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig, Rhostyllen. Datblygodd yr Ymddiridolaeth gynlluniau i adeiladu cannoedd o dai ar eu tir yno yn erbyn dymuniadau trigolion lleol ac yn erbyn dymuniad y perchennog blaenorol a roddodd y tir i’r Ymddiriedolaeth ermwyn ei warchod.
Ers hynny mae cynllun gofodol statudol wedi cael ei ddatblygu ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yn mynnu ar gydweithio traws-ffiniol. Nid wyf yn erbyn cydweithio traws ffiniol, wedi’r cwbl mae nifer o bobl o ogledd Cymru yn gwbl ddibynol ar wasanaethau yng ngogledd orllewin Lloegr. Mae cydweithio yn rhywbeth i’w groesawi. Ond ymddengys mai canlyniad y cynllun gofodol hyd yma yw fod yna fuddsoddiad busnes yn cael ei wneud ar ochr Lloegr o’r ffin, tra fod miloedd o dai yn cael eu datblygu ar yr ochr yma o’r ffin. Rhaid gofyn y cwestiwn felly, ar gyfer pwy y mae’r tai yma’n cael eu adeiladu? Does yna ddim galw yng ngogledd ddwyrain Cymru am gymaint a hyn o dai.
Mae rhai wedi cyfeirio at y datblygiadau yma fel ‘land grab’, ac eraill wedi ei gymharu gyda’r ‘plantation’s’ yn Iwerddon yn yr G17. Beth bynnag fo’r cymhelliad y tu ol i’r cynlluniau yma mae’n amlwg fod datblygu ar raddfa mor fawr, yn erbyn ewyllys y gymuned leol ac heb ddim ystyriaeth i hunaniaeth, diwylliant ac iaith heb son am yr angen i ddatblygu’r gwasanaethau ac isadeiledd sydd yn hanfodol i gynnal cynlluniau adeiladu mor fawr, yn mynd yn groes i fuddianu’r rhanbarth.
Nid tai fforddiadwy ar gyfer teuluoedd ifanc lleol fydd y rhain. Ond mi fyddan nhw’n fforddiadwy i bobl proffesiynol mwy cefnog o’r ochr draw i Glawdd Offa, gyda’r bonws eu bont o fewn cyrraedd rhai o ardaoledd naturiol mwyaf godidog Ewrop.
Dylai’r cwymp arianol diweddar fod wedi rhoi terfyn ar ddatblygiadau megis Erddig. Serch hynny, tra fo adroddiadau yn y papurau yn honni fod prisiau tai yn cwympo, mae tystiolaeth y stryd fawr yn dangos eu bont yn parhau i fod yn ofnadwy o uchel, a thu hwnt i lefel fforddiadwy pobl leol.
Tra ein bod ni yn parhau i ofyn am brisiau chwyddiedig, naill ai am ein bod wedi ein gludo i’r meddylfryd hwnnw o ennill punt hawdd trwy brynu a gwerthu tai neu’n syml ein bod yn ofn bod mewn ecwiti negyddol, y gwir yw fod Cymru, ac yn enwedig gogledd ddwyrain Cymru, yn parhau i fod yn blot o dir deniadol ar gyfer datblygwyr tai.
Ond beth ddylid ei wneud ynghylch y Cynllun Gofodol? Pendrefyniad gwleidyddol yw hwn, a ddatblygodd yn sgil cytundeb rhwng Awdurdodau Lleol y rhanbarth a’r partenriaeth a ddatblygwyd yn ei sgil, Cyngrhair Mersi Dyfrdwy. Dylai hwn fod yn rhywbeth y mae ganddom ni ddylanwad uniongyrchol arno, a dylai eu gwaith adlewyrchu ein anghenion ni fel cymuned, gan anywbyddu unrhyw elw arianol a gaiff ei wneud gan ambell i berchenog tir a grwp bychan o ddatblygwyr tai.
Os ydych chi, fel finnau, yn poeni am y datblygiadau hyn, yna mae angen i ni lobïo ein gwleidyddion a chyrff gwleidyddol i dynnu eu sylw at y ffolineb o ddatblygiadau ar raddfa o’r fath.
Os ydw i’n ddigon ffodus i fod yn AC yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai y flwyddyn nesaf, yna mi wna i ddadlau yn erbyn y datblygiadau hyn. Ond yn y cyfamser mae gennym nifer o ACau sy’n sefyll o’r neilltu, yn gwneud dim yn poeni llai. Cysylltwch â nhw. Trefnwch ymweliad â’u syrjeri (dylai gwybodaeth fod yn y wasg leol neu ar eu gwefannau).
Ni allwn ganiatáu datblygiadau fel hyn i fynd ymlaen heb eu bont yn cael eu herio. Mae angen i gymunedau dyfu a datblygu yn naturiol, ac oes mae’n rhaid angen buddsoddiad yn ein cymunedau, ac oes mae angen tai newydd. Ond mae angen gwneud trwy ymgynghoriadau trwyadl a thryloyw a thrwy gydsyniad y cymunedau eu hunain, yn seiliedig ar eu hanghenion – nid i fodloni anghenion economi ffyniannus Sir Gaer.