Riportio Rod Liddle i’r Heddlu am hiliaeth

Yr Hilgi

Mae gymaint o bethau yn digwydd yn ddiweddar fel ei bod hi’n anodd gwybod ble i ddechrau!

 Felly mi wna i ddechrau gyda’r diweddaraf a gweithio fy ffordd yn ol!

 Mae facebook yn declyn gwych ar gyfer rhwydeithio a rhanu pethau, a diolch i ffrind ar Facebook fe ddoes i  ar draws erthygl gan Rod Liddle, newyddiadurwr o ryw fath ond dyn sy’n aml yn cael ei hun i fewn i drwbl (yn gwbl fwriadol ac yn  haeddianol) yn ‘trafod’ cyhoeddiad Osborne i roi S4C o dan adain y BBC (mwy ar hynna mewn postiad arall). 

Yn yr erthygl mae’n ymosod ar S4C gan ddweud fod y sianel yn ddi-bwynt ac fod angen cael gwared ohono. Mae’n amlwg nad yw wedi gwneud dim ymchwil i hanes y sianel, ei lwyddianau lu, a’i bwysigrwydd i ddiwylliant ac economi Cymru. Mi wna innau drafod hyn rhywbryd eto. 

Ond y pryder mwyaf yw ei ymosodiadau hiliol ar bobl Cymru. Mae’r term hiliol wedi colli peth o’i hergyd dros y blynyddoedd wrth iddo gael ei orddefnyddio ar achlysuron pan nad yw mewn gwirionedd yn ddim byd i wneud a hil, er enghraifft wrth drafod yr iaith Gymraeg. Ond tra fo Liddle yn senoffob, shofinist, a bigot, mae’r chwd ysgrifendig y mae’n gynhyrchu yn yr erthygl penodol yma yn ddim llai na hiliaeth. 

“What an epic waste of money just to assuage the sensibilities of some of those miserable, seaweed munching, sheep-bothering pinch-faced hill tribes who are perpetually bitter about having England as a next door neighbour. S4C has become a state funded sinecure for the utterly talentless, the dregs who cannot even get a job at HTV (Cymru);”

 Gan orffen gyda “Bin it, Johnny Bach. Bin it.” 

Mae’n siarad amdana i, fy nheulu, ffrindiau, ac nifer fawr ohonoch chi sy’n darllen yr erthygl yma. Mae’n siarad amdan pob un Cymro, gan ddefnyddio ystrydebau ffiaidd, ac anog atgasedd hiliol. 

Efallai y byddai yn dadlau mai ond cyfeirio at ‘eithafwyr ieithyddol’ sydd am weld llwyddiant S4C mae e, ac felly nad hiliaeth ydyw am nad yw’n cyfeirio at nodwedd sy’n perthyn i bob Cymro. Ond wrth ein galw yn ddi-dalent ac yn ‘dregs’ mae’n awgrymu ei fod yn credu fod rhain yn nodweddiadol o’r Cymry, ac felly yn hiliaeth. Wedi’r cyfan mae pobl o bob cefndir, crefydd ac iaith yn ymddangos ar S4C. Gall e ddim amddiffyn ei hun trwy ddweud nad oedd yn gwybod hyn – gwna dy ymchwil. Nid yw anwybodaeth yn amddiffyniad. 

Rwy’n deall ei fod yn gymeriad sbeitlyd sydd yn chwilio am sylw. Rwy’n deall hefyd wrth ysgrifennu amdano fy mod i’n bwydo ei bersonoliaeth narsistaidd. Ond mae ‘r ymosodiadau yma wedi mynd ymlaen yn llawer rhy hir. Rwy wedi cael llond bol ar yr ymosodiadau cyson yma amdano ni’r Cymry. Digon yw digon. 

Rwyf felly wedi ei riportio i Heddlu Gogledd Cymru. Mae heddwas ar y ffordd draw yma i gymryd datganiad cyn bo hir. Cawn weld beth ddaw ohono.

9 Comments

  1. plis paid a reportio fe. Mae’n beth mor amlwg a dibwrpas i’w wneud … t’beth mae sylwadau fel hyn yn gwneud mwy dros gryfhau’r gymuned Gymraeg ei hiaith na’i gwanhau.

    Wrtrh ei reportio ti jyst yn rhoi mwy o sylw iddo ac mae’n bwyndo’r naratif fod y Cymry Cymraeg yn gwastraffu amser ar bethau dibwrpas. Mae’n wast o amser ac arian yr heddlu a dydy’n gwneud uffar o otch.

    Fel ddwedes i, mae cael sylwadau fel hyn yn cryfhau hunaniaeth ac undod y Cymry Cymraeg nid ei wanhau.

    Ffonia’r heddlu a dweud wrthynt dy fod wedi newid dy feddwl.

  2. Jiw jiw Macsen, gyda phob parch – ond Mabon, pob hwyl gyda riportio’r hilgi. Os oes pobol yn dadle ei fod yn wast o amser / arian, dadleua yn ol, dim cuddio mewn ogof a derbyn drifl imperialaidd. Mae’r ymosodiadau hyn yn bownd o gynhyrfu’r dyfroedd, dim sensitif ym ni o gwbwl, sefyll lan yn erbyn hiliaeth plaen ac amlwg. Diolch am dy asgwrn cefn Mabs!

  3. … ond dydym ni ddim yn hil, rydym yn genedl. A t’beth fy mhwynt sylfaenol yw, pwy uffarn o ots am Rod Liddle. Fi ‘di cael llong bol o Gymry’n cwyno am Ann Robinson, a phob un arall a rhedeg at y CRE a’r heddlu fel plant bach. Yr ateb yw cenedlaetholdeb Gymreig – wnaeth y Gwyddelod ddim mynd i gwyno wrth yr heddlu neu sefydliadau Brydeillyd fel y CRE (neu beth bynnag fydde wedi bod ar gael ganrif yn ol). Roedden nhw’n chwerthin ar eu pennau gan wybod fod ymosodiadau fel yno ond yn cryfhau cryfder mewnol a theimlad o berthyn y genedl. mae’n gwneud i’r Blaid swnio’n wan a petty, fel fod angen cydnabyddiaeth arnom ni.

    Mae pethau pwysicach i fecso yn eu gylch. Mae’n neud i ni swnio fel yr hen lobiwyr ‘equalities ishoos’ ac ‘ishoos’ eraill Llafur Newydd. Ych. Mae pobl fel Ann Robinson, Jeremy Clarkson a Rod Liddle yn gwneud mwy o les i genedlaetholdeb na drwg. Twll eu tinnau!

  4. Er mor wrthun a sarhaus ydi sylwadau Rod Liddle, dwi innau’n amau ai riportio fo i’r heddlu am “hiliaeth ydi’r ateb. Onid oes rhaid derbyn bod sylwadau sarhaus fel hyn yn bownd o ddigwydd yn y berthynas anghyffyrddus sy’n bodoli rhwng cymru a lloegr ac onid yr ateb ydi dadlau nol hefo geiriau a syniadau, nid y gyfraith! Mae’r sylwadau sydd wedi eu gadael ar flog Rod Liddle heddiw yn enghraifft dda o hynny, gyda sawl cyfraniad yn darnio’i ddadleuon yn rhacs. Ac oni fyddai gofyn i’r Spectator gynnwys darn “dychanol” am Saeson o safbwynt Cymreig yn fodd llawer iawn gwell o wneud yn iawn am dwpdra Rod, yn hytrach na thynnu PC Plod i mewn i bethau?! Beth amdani Mabon?

  5. Hyd yn oed os ydi’r sylwadau’n “hiliol”, mae gen i broblem egwyddorol anferth efo mynd at yr heddlu ynglyn â hyn. A dw i’n dweud hynny fel rhywun sydd wedi casau Liddle ers blynyddoedd lawer.

    I mi mae rhyddid llafar yn nesaf peth at absoliwt. Mae defnyddio grym y wladwriaeth i dawelu llais rhywun yn anfoesol. Hyd yn oed pan fo’r rhywun hwnnw’n goc oen.

    Dw i’n erfyn ar bobl i beidio mynd at yr heddlu ynglyn â hyn. Ni ddylai fod yn fater cyfreithiol.

  6. Rhaid dweud mod i’n cytuno â Macsen yma, nid oherwydd mod i ddim yn credu taw hilgi yw Liddle (mae e’n hilgi digywilydd, ac wedi dweud pethau llawer gwaeth na hyn am bobl duon Lloegr) ond oherwydd mod i ddim yn credu byddai’r heddlu yn gallu wneud dim byd amdano. Dydy bod yn hilgi ddim yn erbyn y cyfraith, a phrin iawn y gallai’r CPS wneud achos yn ei erbyn.

    Wedi dweud hynny, dw i wedi cwyno am sylwadau Liddle i’r PCC, ac wedi esbonio pam fan hyn (yn Saesneg yn unig, mae’n flin ‘da fi).

  7. Diolch yn fawr i chi gyd am yr ymatebion. A bod yn onest rydw i wedi teimlo lletchwithdod yn y gorffennol wrth glywed am bobl yn riportio eraill i’r heddlu am ymosodiadau hiliol, ac rw i’n hunan wedi dweud ar adegau na ddylai pobl fod mor groen denau ac fod pethau fel hyn dim ond am chwarae rhan yn hyrwyddo ego y mwlsod hunanol.

    Ond roedd hi’n wahanol y tro yma, ac mi ffonies i’r heddlu heb feddwl ddwy-waith. Mae’r ymosodiadau senoffobaidd yma wedi cynyddu dros y ddegawd diwethaf. Yr unig reswm yr ydyn ni’n eu clywed gan ffugurau cyhoeddus yw am eu bont bellach yn rhan o ddisgwrs cyhoeddus. Cofier fod i eiriau fel hyn effaith seicolegol andwyol. Os ydyw rhywbeth yn cael ei ddweud yn ddigon aml yna rydyn ni’n mynd i’w gredu. Dyna rhan o’n trafferth ni fel Cymry yw ein bod ni wedi dod i gredu na all Cymru fodoli fel endid annibynol am ein bod ni’n ddibynol ar y trethdalwr o Loegr. Nonsens pur, ond un sydd wedi cael ei ddweud mor aml fel ein bod ni’n hunen fel Cymry yn ei gredu.

    Nid Uncle Tom mohono i.

    Ond ar ben hyn mae’r Gymraeg o dan fwy o fygythiad heddiw nag y mae wedi bod ers blynyddoedd, gyda’r Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn dangos diffyg parch llwyr tuag at iaith a diwylliant Cymru. Mae’r ymosodiadau gwleidyddol yma yn cael eu hatgyfnerthu gan ymosodiadau di-glem a senoffobaidd pobl fel Liddle.

    Rwy’n cytuno ei fod yn bwysig i gynnal yr hawl i rywun leisio barn, ond roedd sylwadau Liddle yn mynd yn rhy bell. Rwy’n hapus i gyfiawnhau’r ddeuloliaeth yma am ei fod yn amlwg fod y drefn addysgiadol (nid y drefn ffurfiol) yn methu ac mae cymdeithas yn parhau i ganiatau i aelodau blaenllaw ac uchel eu parch i sarhau, dilorni, bychanu, a phoeri ar y rhai hynny sydd yn wahanol iddyn nhw, yn yr achos yma pobl gwyn, Saesnig, canol oed. Mae’n ffiaidd.

    Rwy’n derbyn mai mater o addysgu pobl yw hyn yn y bon, ac fod y broses honno yn un hir a phoenus. Mae hanes deddfu o blaid y Gymraeg yn dyst i hynny! Ond rhan o’r broses addysgiadol i blentyn yw i ddysgu am ffiniau. Pan fo plentyn yn camfihafio – galw enwau, dwyn tegannau ayb – fel rheol mae’r plentyn yn cael ei ddwrdio ac yn gorfod sefyll yn y gornel ddrwg (neu gosb cyffelyb). Mae’n rhan o’r broses o ddysgu. Hynodrwydd byd natur, ac yn benodol felly dynol ryw yw ein gallu i ddysgu. Yn yr achos yma mae Rod Liddle naill ai (a) heb ddysgu eto, (b) heb ddysgu ym mhle y mae’r ffiniau derbyniol neu (c) ddim yn aelod o’r ddynol ryw. Nawr cymaint yr ydw i’n dymuno i’r ateb fod yn (c), a fyddai’n esbonio cymaint o bethau, y tebygrwydd yw mai cyfuniad o (a) a (b) ydyw gyda’r bau mwyaf yn gorwedd ar (b). Mae hyn am fod cymdeithas wedi caniatau i ymddygiadau o’r fath barhau.

    Os nad ydyn ni’n sefyll i fyny i’r bwlian cyson yma yna yr hyn ydyn ni’n ei ddweud yw ein bod ni o’r farn fod cymdeithas yn iawn, ac nad oes yna nam a’r ein proses o addysgu, ac felly fod ymddygiad Liddle a’i deip yn dderbyniol.

    Ond mae cymdeithas wedi dod i farn arall, un sydd yn dweud nad yw ymosodiadau ‘hiliol’ yn dderbyniol, ac os ydy rhywun am gamu dros y ffin cymdeithasol yma yna mae cymdeithas wedi barnu y dylai gael ei gosbi.

    Penderfyniad y gymdeithas yn ehangach ydyw nawr a ydy sylwadau Liddle yn eiddo i’r categori yma. Tra fo nifer ohonoch o’r farn mai trwy ffyrdd eraill y dylid ddelio a’r ionc yma, roeddwn i o’r farn y dylid gofyn i warchodwyr ffiniau cymdeithasol, yr heddlu, i wneud y penderfyniad hynny.

    Nawr os ydy’r heddlu neu’r CPS yn penderfynu nad oes achos yma i’w hateb mi fydd yn dweud mwy am y gymdeithas yr ydym ni yn byw ynddi nag amdana i neu unrhyw Gymro arall, oherwydd yn elfenol mi fydd yn rhoi rhydd hynt i bobl sarhau, dilorni a bychanu. Rydym eisioes wedi gweld yr heddlu yn trafod rhywbeth cyffelyb pan fo’n dod i Gymro yn dweud rhywbeth sarhaus am Saesnes yn achos Gwion Jones Borthmadog:

    “Anyone got a job 4 me? Just walked out from the Queens last nite. Who do those f***ing English think they are? F***ing w*****s.”
    Jones added in Welsh: “Os di f***ing Saeson isho dod i’r wlad yma, rhaid iddyn nhw ddangos dipyn bach o barch i bobol Cymru.”
    Canlyniad? Dirwy o £380.

    Ynghylch y gymhariaeth a’r Gwyddelod gan Macsen, mae arna i ofn na alla i gyd-fynd a honno.

    Nid iwerddon 1916 neu hyd yn oed 1976 yw Cymru 2010. Bryd hynny roedd rhydd-hynt i ddweud nesaf peth i unrhyw beth am unrhyw un nad oedd yn cydymffurfio a norm cymdeithas. Mae’n anghywir dweud mae ymateb y Gwyddelod oedd anwybyddu. Roedd nifer yn anwybyddu bid siwr; ond doedd yna ddim trefn na phroses i ddwyn achosion bryd hynny. Dyna pam y gwelwyd carfan fach yn codi arfau yn erbyn anghyfiawnderau eu hoes.

    Dwi i ddim chwaith yn credu mai’r cyngor y dylid ei roi i rywun dall, byddar, rhywun sydd a cerebral palsy, neu i’r gymuned ddu, fwslemaidd, hoyw, traws-rywiol yw i ddatblygu crwyn mwy trwchus ac fod y galw enwau yn eu “cryfhau yn fewnol”.

    Pam fod cymdeithas yn edrych i lawr eu trwynau pan fo rhywun yn dweud ‘spastic’ neu ‘retard’ fel termau sarhaus erbyn hyn? Ai am fod pobl oedd yn dioddef o cerebral palsy neu anableddau meddyliol yn eu hanwybyddu ac wedi magu crwyn mwy trwchus? Ai am fod gwell addysg wedi bod a chymdeithas yn parchu anableddau? Na.

    Oes mai pethau amgenach i boeni amdan, dyfodol S4C yn un peth. Ond pwy obaith sydd o weld parhad i sefydliadau Cymreig os yw’r math yma o agwedd trahaus yn cael rhydd-hynt i’w gwyntyllu, ac yn llywio meddyliau y rhai hynny sydd yn penderfynu ar fodolaeth sefydliadau megis S4C?

    Mae’r hyn y mae Liddle wedi ei wneud yn rhan o batrwm sydd yn mynd yn ol ganrifoedd o’r sefydliad Prydeinig yn creu eraill (yn yr achos yma ni’r Cymry) i fod yn ‘wahanol’, yn ‘od’, mae sylwadau Liddle yn bwydo i fewn i’r naratif yma. Mewn amgylchiadau o’r fath pan fo hyn yn dderbyniol pwy syndod yw hi nad oes yna ddealltwriaeth heb son am werthfawrogiad o bwysigrwydd a rol S4C? Pam ddiawl y dylid achub sianel deledu i bobl diflas, sy’n bwyta pethau rhyfedd ac yn cael cyfathrach a defaid ac yn perthyn i’r oes a fu? Nid gwareiddiad mohono ni yn amlwg ond ‘aliens’. Mae’n creu naratif ac amgylchiadau i gyfiawnhau ymosodiadau llawer mwy difrifol a sinistr.

Comments are closed.