Croesawi cynnig i gynnwys Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy yn rhan o Ardal o Harddwch Eithriadol

Mae Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd yn dweud y byddai cynlluniau i osod statws swyddogol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar Langollen a Dyffryn Dyfrdwy o gymorth i’r diwydiant twristaidd mewn cyfnod anodd. Mae Mabon, sydd a theulu yn ffermio yn Nyffryn Dyfrdwy, wedi croesawi’r cynnig gan ddweud y byddai yn dod a nifer o fuddianau. 

Meddai Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd, 

“Mae’r cynnig yma yn newyddion da i Langollen a Dyffryn Dyfrdwy. Rwy’n siwr y bydd y statws swyddogol yma yn rhoi hwb i dwristiaeth ac yn denu hyd yn oed yn fwy o dwristiaid i’r ardal. Byddai’r hwb yma i’r economi leol i’w groesawi yn enwedig mewn cyfnod economaidd anodd.” 

Cydnabu Mabon fod gan y cynnig o roi statws Ardal o Brydferthwch Eithriadol Naturiol bwysigrwydd personol iddo: 

“Mae gan yr ardal yma a argymhellir bwysigrwydd hanesyddol a diwyllianol i Gymru. Dyma oedd ardal Glyndwr. Mae yma gylchoedd cerrig, ceiri hynafol, a dwsinau y dyddynau hynafol, oll wedi chwarae rhan greiddiol yn hanes ein cenedl. Ond mae hefyd yn ardal odidog o hardd, a byddai’n wych petai’r ardal yn cael ei chydnabod. Rwy’n ymfalchio yn y ffaith fod gen i deulu yn ffermio yn Nyffryn y Ddyfrdwy, yn nghysgod Cadair Bronwen, ac rwy’n gwerthfawrogi hynodrwydd yr ardal ac yn croesawi unrhyw gynlluniau i ddathlu’r hynodrwydd yma.” 

Ychwanegodd Mabon 

“Mae yna broblem sylweddol yn yr ardal gyda cherbydau yn difetha’r tir, yn feiciau ac yn gerbydau 4×4 yn gadael niwed ofnadwy i’r tir wrth iddyn nhw scramblo. Gobeithio y bydd rhoi statws swyddogol i’r ardal yn rhoi terfyn a’r y moduro anghyfrifol yma.”