Pam fod Leanne yn allweddol i ymgyrch etholiadol Plaid Cymru yn 2021

Pam ydw i o blaid cadw Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru?

Mae’n bwysig nodi ar y dechrau nid oherwydd fy mod yn erbyn Rhun nac Adam. Mae’r ddau ohonynt yn wleidyddion galluog, praff, abl ac o sylwedd, ac yn gaffaeliad mawr i’r Blaid ac i wleidyddiaeth yng Nghymru. Rwy’n falch cyd-weithio â nhw a’u hadnabod fel ffrindiau a chyd-bleidwyr.

Nid ‘Leannite’ mohonof chwaith, oherwydd nid plaid un person mo Plaid Cymru — ni, yr aelodeath, yw Plaid Cymru. Pleidiwr ydwyf.

Rwy’n cefnogi Leanne am resymau tactegol gwleidyddol, ac yn credu, oherwydd fy nehongliad i o wleidyddiaeth, mai Leanne yw’r mwyaf tebygol o sicrhau fod y Blaid yn ffurfio Llywodraeth a fydd yn ei dro yn ein harwain at annibyniaeth.

Tair ffordd tuag at annibyniaeth

Mae yna dair ffordd, hyd y gwelaf i, o gyrraedd y nod o sicrhau fod Cymru yn datgan ei hannibyniaeth fel gwladwriaeth sofran.

1) Trwy ddefnyddio dulliau trais a dechrau chwyldro arfog

2) Trwy fod Senedd Prydain, o dan bwysau Lloegr, yn cael gwared ar Gymru am ein bod ni’n ormod o fwrn arnyn nhw ac yn ormod o niwsans

3) Trwy fod Cymru’n mynnu ei hannibyniaeth trwy’r blwch pleidleisio

Fydd o ddim yn dod fel syndod i’r rhai hynny ohonoch sydd yn fy adnabod nad ydwyf o blaid yr opsiwn cyntaf (rwy’n heddychwr!). Ond y gwir yw nad yw Cymru’n cefnogi’r opsiwn hon chwaith oherwydd, heblaw am ambell i weithred gan MAC ac ambell i unigolyn arall yng nghanol y ganrif ddiwethaf, mae Cymru ar y cyfan wedi ceisio dulliau heddychlon i gyrraedd ei hamcanion gwleidyddol.

Efallai’n wir mai Lloegr fydd yn penderfynu ’rhoi’ annibyniaeth i Gymru yn dilyn ymadawiad yr Alban a’r 6 Sir yng Ngogledd Iwerddon. Efallai bydd y fonllef o du Lloegr ynghylch natur parasitaidd Cymru — yn byw oddi ar floneg Lloegr (nonsens, wrth gwrs) — yn ddigon i olygu y bydd Lloegr am gael gwared ar Gymru. Cawn weld.

Y llwybr mwyaf tebygol yw bod Cymru yn mynnu ei hannibyniaeth trwy ddulliau gwleidyddol — y blwch balot. Neu’n fwy cywir sawl blwch balot.

Oherwydd cyn cyrraedd diwrnod y refferendwm ar ein hannibyniaeth (ac mi ddaw), rhaid yn gyntaf cael Llywodraeth mewn grym sy’n fodlon deddfu er mwyn darparu’r refferendwm hwnnw.

Gall y refferendwm fod trwy gydsyniad llywodraeth y wladwriaeth, fel a ddigwyddodd yn yr Alban yn 2014, neu fel refferendwm ymgynghorol heb gydsyniad y wladwriaeth ond trwy law y Llywodraeth datganoledig, fel a gafwyd yng Nghatalunya. Naill ffordd neu’r llall, mae’n rhaid wrth lywodraeth ym mae Caerdydd sydd am weld y peth yn digwydd.

Hyd yma dim ond un blaid wleidyddol sydd wedi dangos y parodrwydd i wneud hyn, sef Plaid Cymru. Mae pob un blaid arall sydd wedi ei hethol ar bob un lefel yng Nghymru yn bleidiau unoliaethol, sydd yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru.

Plaid Cymru mewn Llywodraeth

Y gwir yw os ydym am weld Cymru’n ennill ei hannibyniaeth yna rhaid yn gyntaf sicrhau fod Plaid Cymru yn arwain Llywodraeth Cymru.

Ond sut mae gwneud hyn?

Ar yr un llaw mae’n fater o fathemateg eithaf crai — faint o bleidleisiau sydd angen eu hennill; pwy sy’n debygol o roi pleidlaisi’r Blaid; a sut mae cael y bobl yma allan i bleidleisio ar ddiwrnod etholiad.

Mae’r un yn wir wrth gwrs gyda’r cwestiwn ‘annibyniaeth’ — pan ddaw diwrnod y refferendwm bydd angen 50% + 1 o bleidleisiau i ennill (heblaw ei fod yn refferendwm aml-ddewis, sydd yn eithaf tebygol).

Fel y dywedodd Paul Kavannagh, y Wee Ginger Dug, yng Nghaernarfon yr wythnos hon, “We only need a simple majority. We don’t have to please all of the people”.

I’r diben hyn felly mae Leanne Wood yn hollol iawn: mae’n fater o waith caled. Rhaid mynd allan, cerdded y strydoedd, a chasglu’r wybodaeth yma. Rhaid cnocio drysau a siarad â phobl.

Y Torïaid

Yr hyn sy’n amlwg, fel mae Cai Larsen eisoes wedi ei nodi, ydy fod y rhan helaethaf o bleidleiswyr sy’n debygol o bleidleisio dros Blaid Cymru wedi bod, yn hanesyddol, yn pleidleisio dros y Blaid Lafur. Mae’r un yn wir yn yr Alban, ac wrth gwrs yr hyn sydd wedi digwydd yno yw bod pleidleiswyr Llafur yn bennaf, ynghyd a phleidleiswyr newydd, wedi mynd drosodd at yr SNP. Ychydig bach iawn o bleidleiswyr Torïaidd sydd wedi trosglwyddo at yr SNP.

Noder yn 2010 fe bleidleisiodd 1,035,028 dros Lafur yn yr Alban. O’r bleidlais honno cadwodd Llafur dros eu hanner, ond fe aeth ddeg wnaeth yn fwy o bleidleiswyr Llafur bleidleisio dros yr SNP nag a bleidleisiodd dros y Torïaid. Aeth bron i dreian o’u pleidleiswyr (dros 300,000) at yr SNP. Dim ond 3% aeth at y Torïaid.

Rŵan, beth fyddai’r ymateb wedi bod pe byddai’r SNP wedi datgan eu pont yn barod i glymbleidio gyda’r Torïaid? A fyddai’r pleidleiswyr Llafur yma wedi mynd drosodd at yr SNP, gyda Llafur yn gwaedu’n groch ‘Vote SNP, get Tory!’. Mae’n eithaf amlwg fod y gair ‘toxic’ yn hollol addas ar gyfer y Torïaid yng Nghymru ac yn yr Alban.

Yn yr un modd yng Nghymru yn 1999, mae’r holl dystiolaeth anecdotal yn dangos mai pleidleiswyr Llafur traddodiadol roddodd eu pleidlais i Blaid Cymru bryd hynny, a arweiniodd at y canlyniadau hanesyddol y flwyddyn honno,

The most dramatic results of all were Plaid’s victories in Islwyn, Rhondda and Llanelli, all previously rock-solid Labour seats. At Islwyn, Neil Kinnock’s former constituency, the nationalists’ vote rose by a huge 35.7 per cent, which propelled it from fourth to first place. In Rhondda, Wayne David, Euro MP and Mr Blair’s favourite to become leader of the assembly if Mr Michael lost, was beaten into second place, falling victim to a swing of 35.4 per cent towards Plaid.

In North Wales, Plaid quadrupled its vote to take Conwy from Labour.

Other swings towards the nationalists among industrial seats in the south were: Cynon Valley 31.9 per cent, Neath 27.6 per cent and Pontypridd 26.8 per cent. Conversely, Labour lost 34.7 per cent of its general election votes in Islwyn, 33.9 per cent in Rhondda, 32.7 per cent in Merthyr Tydfil and Rhymney, 31.1 per cent at Torfaen and 29.8 per cent in Swansea East.

(Independent)

Os edrychwn ar y gefnogaeth i annibyniaeth, sef raison d’etre Plaid Cymru, fe welwn, yn ôl y polau piniwn, y daw y potensial am gefnogaeth yn bennaf o du pleidleiswyr Llafur. Ym mhôl piniwn Yes Cymru a gynhaliwyd ym Mai 2017, gwelwyd fod dros hanner pleidleiswyr Torïaidd yn llwyr wrthwynebus i annibyniaeth. Ar raddfa o 0–10 gyda 0 yn llwyr wrthwynebus a 10 yn llwyr gefnogol nododd 51% o Dorïaid 0, se feu pont yn llwyr wrthwynebus. Dim ond 12% o Geidwadwyr oedd gyda barn ffafriol (sgorio 6–10), gyda 29% o Lafurwyr yn dangos agwedd ffafriol. Pan ofynnwyd iddyn nhw ddychmygu fod y Ceidwadwyr yn adennill grym (cyn etholiad 2017) mynegodd 44% o Lafurwyr fod ganddyn nhw agwedd ffafriol tuag at annibyniaeth gyda dros 1 o bob 5 yn llwyr gefnogol (sgorio 10).

Mae’n berffaith amlwg nad oes gan y Torïaid ddiddordeb yng Nghymru, nac yn nyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae’n amlwg hefyd nad oes gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr ddim byd yn gyffredin. Ychydig iawn, iawn o bleidleiswyr Ceidwadol ddaw drosodd at y Blaid. Mae yna rai eithriadau, wrth gwrs, ond ar y cyfan mae daliadau’r Blaid yn wrthun i bleidleiswyr Ceidwadol.

Mae’n ddoeth felly datgan yn glir nad oes bwriad gan Blaid Cymru igael unrhyw fath o glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Ymgyrch Arlywyddol

Mae nifer o’r bobl fydd yn darllen y darn yma yn bobl sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth. Ond i’r rhelyw o bobl, ychydig iawn o sylw y maen nhw’n ei roi i wleidyddiaeth yn eu bywydau bob dydd. Rwy’n cofio un gwleidydd yn dweud wrthyf fod Aelod Seneddol yn debyg i bêl-droediwr yn y drydedd adran — tua’r un cyflog a thua’r un lefel o adnabyddiaeth.

Mae ‘brand recognition’ — adnabyddiaeth bersonol — yn beth prin iawn, a hynod, hynod o werthfawr. Dyna pam fod gwleidyddiaeth Brydeinig yn ymdebygu fwyfwy i wleidyddiaeth Arlywyddol yr UDA. Mae pobl yn uniaethu gyda’r arweinydd yn fwy na gyda’r blaid wleidyddol. Amlygir hyn heddiw gyda thwf Corbyn. Mae pobl yn meddwl eu pont yn pleidleisio iddo ef, er bod y rhan fwyaf o ASau a dderbyniodd eu pleidlais yn gwrthwynebu Corbyn a’i wleidyddiaeth!

Mae pob tystiolaeth yn dangos mai Leanne Wood yw un o wleidyddion mwyaf adnabyddus Cymru. Yn wir, hi ar y cyd a Carwyn Jones yw’r ddau wleidydd mwyaf adnabyddus. Does neb arall yn dod yn agos atyn nhw o ran adnabyddiaeth.

Yn ôl y pôl piniwn a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, dywedodd 27% o etholwyr yng Nghymru nad oedd ganddyn nhw farn ynghylch Carwyn Jones (h.y. ddim yn gwybod digon amdano), gyda bron i chwarter o’r etholwyr Llafur yn methu a mynegi barn amdano!

Dywedodd dros hanner yr etholwyr nad oedden ganddyn nhw farn am Andrew RT Davies, ac yntau wedi bod yn arweinydd y Ceidwadwyr ac wedi cael platfform ers 2011. Bydd lefel adnabyddiaeth ei olynydd yn llawer iawn llai.

Dywedodd 70% o etholwyr Cymru nad oedd ganddyn nhw farn ynghylch olynydd tebygol Carwyn Jones, Mark Drakeford — ac yntau wedi bod yn Ysgrifennydd Cabinet uchel ei broffil ers 2012!

Cymharwch hyn gyda’r ymateb i Leanne Wood, gyda dim ond 31% yn methu a mynegi barn, a 36% o etholwyr Llafur gyda barn ffafriol ohoni (roedd gan 45% o etholwyr Llafur farn ffafriol o Carwyn Jones).

(Ar y pwynt yma mae’n werth nodi ymateb etholwyr Plaid Cymru i Jeremy Corbyn a Theresa May, gyda 67% o bleidleiswyr Plaid Cymru gydag agweddau anffafriol o Theresa May a 39% gydag agweddau anffafriol o Corbyn).

Diffyg adnabyddiaeth

Yn y pôl piniwn a gynhaliwyd ym mis Mehefin eleni gofynnwyd pa un o ddarpar olynwyr Carwyn Jones fyddai orau. Dywedodd 65% o’r bobl a ymatebodd nad oeddynt yn gwybod, ac 17% arall yn dweud dim un ohonyn nhw. Cafodd Mark Drakeford 3% yn unig a Vaughan Gething 4%.

Mae hyn yn syfrdanol! Cymharwch hyn gyda ffugurau Leanne Wood, uchod.

Ar yr adeg pan fo pob plaid arall yn rhanedig a chydag arweinydd newydd nag ŵyr neb dim byd amdano, mae ganom ni’r gwleidydd mwyaf adnabyddus ac sy’n cael ei hoffi fwyaf drwy Gymru, sydd hefyd yn apelio yn fawr at y garfan o etholwyr yr ydym angen eu hennill drosodd. Byddai cael gwared ohoni’n ffôl ac anghyfrifol yn fy marn i. Gwn nad yw hi at ddant pawb — pwy sydd. Ond os ydyn ni o ddifri am gipio grym, a ffurfio llywodraeth er mwyn cael refferendwm ar ein hannibyniaeth, yna rhaid i ni fanteisio ar bob erfyn gwleidyddol sydd gennym.

Tystiolaeth glir

Mae’r dystiolaeth yn glir. Does dim amheuaeth mai Leanne Wood yw un o’n hasedau gwleidyddol mwyaf effeithiol.

O gael arweinydd arall yn lle Leanne yna bydd yn rhaid cychwyn o’r dechrau i adeiladu adnabyddiaeth a phroffil cenedlaethol. Y gwir ydy nad yw’r platform yma am fodoli rhwng rŵan a 2021 i ganiatáu i ni greu’r adnabyddiaeth yma.

Y rheswm fod pobl yn yfed Coca-Cola ac nid Panda Cola yw am eu bod nhw’n gyfarwydd a’r brand. Does fawr ddim gwahaniaeth yn y cynhwysion.

Ennill yn 2021

Bydd ennill etholiad 2021 yn ddigon anodd beth bynnag, ond mi fydd hyd yn oed yn anos fyth gydag arweinydd newydd heb adnabyddiaeth, ond yn cynnig llawer gwell cyfle i ni gydag arweinydd hoffus, adnabyddus a chredadwy.

Yn olaf, gyda Brexit yn brysur agosau ac yn dinistrio pob dim sy’n dod o fewn can milltir iddo, mae’n rhaid iBlaid Cymru ddangos cysondeb ac arweiniad. Mae gennym ni gyfle yn y fan yma i ddangos ein bod ni’n blaid credadwy, unedig, gydag arweinydd profiadol i’n harwain trwy’r moroedd tymhestlog. Bydd gan y ddwy brif blaid arall arweinyddion newydd, fydd yn gorfod treilio tipyn o’u hamser ar gael trefn ar eu cabinet newydd, adnabyddiaeth o’r rol a dyletswyddau. Bydd yr etholwyr yn gweld anrhefn ac ansicrwydd.

O gadw Leanne Wood gallwn gyfleu darlun o hyder a phrofiad — nodweddion cwbl allweddol i unrhywun sydd am ffurfio Llywodraeth ac ennill cefnogaeth yr etholwyr.

Does dim pwynt trafod gwahaniaethau polisi — yr aelodaeth sy’n sofran yn hyn o beth. Dylai’r tri ymgeisydd fod yn dweud yr un pethau.

Mae’n gwestiwn tactegol, ac i fy meddwl i mae’n eithaf clir: rhaid cadw Leanne Wood yn arweinydd er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i ni fedru ffurfio Llywodraeth yn 2021.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.