Syria — pam bomio rwan?

Bob blwyddyn mae rhywun yn edrych ymlaen at ryw ddigwyddiad blynyddol o bwys – yr Eisteddfod, Sesiwn Fawr Dolgellau, Carnifal y pentref, ac yn y blaen.

Rhywbeth arall sy’n ymddangos i fod fel petai wedi datblygu’n ddigwyddiad blynyddol yw’r dadlau ynghylch mynd i ryfel mewn gwlad yn y Dwyrain Canol.

Unwaith eto eleni rydym ni’n dadlau a ddylid ymuno mewn ymgyrch dreisiol yn erbyn Bashar Al Assad, arlywydd Syria.

Y gri, fel oleuaf ddwywaith o’r blaen, yw bod lluoedd Llywodraeth Syria wedi ymosod ar rai o ddinasyssion y wlad gydag arfau cemegol.

Mae’r defnydd o arfau cemegol yn ‘linell goch’ i wledydd gorllewinol, ac yn cyflyru pobl i alw am ryfel.

Mae’r defnydd o arafu cemegol yn ffiaidd.

Mae’n werth cadw mewn cof nad oes yna dystiolaeth fod yna arfau cemegol wedi cael eu defnyddio eto, er does yna ddim amheuaeth fod yna arfau cemegol wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol. Y gwir trist yw fod sawl un o’r ochrau yn y rhyfel dieflig yma wedi defnyddio arfau cemegol dros y blynyddoedd diwethaf, ac, yn ogystal a hynny, fod y Deyrnas Gyfunol a gwledydd eraill wedi bod yn gwerthu’r cynhwysion i greu arfau cemegol i Syria a gwledydd eraill.

Ar ben hynny mae asiantaeth newyddion FARS (asiantaeth newyddion Iran sydd yn lled annibynnol o’r Llywodraeth, yn union yr un fath a’r BBC yma) yn adrodd fod Saudi Arabia wedi defnyddio arfau cemegol yn Yemen. Mae yna honiadau eraill o’r defnydd o arfau cemegol yn Yemen hefyd. Mae’r Human Rights Watch wedi beirniadu Israel am ddefnyddio phosphorus yn Gaza. A phwy all anghofio’r ffaith fod yr Unol Daleithiau wedi cyfaddef iddynt ddefnyddio arfau cemegol ‘white phosphorus’ yn Fallujah, Irac yn 2004.

Ni dadl ‘whataboutism’ yw hyn – dangos rhagrith a diffyg cysondeb ydyw, a chodi cwestiwn ynghylch y cymhelliad i fynd i ryfel. Mae’r bobl bwysig yn dweud fod y defnydd o arfau cemegol yn ‘linell goch’, ac ymhlith y pethau mwyaf ffiaidd y gall unrhyw un ei wneud, ond eto mae ffrindiau i’r pwysigon yma yn defnyddio arfau cemegol ac mae nhw eu hun yn euog o’u defnyddio a gwerthu cynhwysion i’w cynhyrchu.

Felly mae plant Douma yn haeddu ein sylw, ein galar a’n dicter yn fwy na phlant Ma’rib neu Fallujah.

Ond yr hyn sydd yn fy mhoeni fwyaf am y ddadl yma am y defnydd o arfau cemegol yw ei fod mewn gwirionedd yn cyfiawnhau y lladd a dioddefaint anferthol sy’n digwydd o ganlyniad i arfau eraill.

Mae llawer iawn yn fwy o bobl (yn cynnwys plant os mai dyma’ch prif bryder) yn marw o ganlyniad i arfau bychain mewn rhyfeloedd ar draws y byd nag o ganlyniad i unrhyw erfyn arall.

Mae 80% o bawb sy’n cael eu hanafu neu lladd mewn rhyfel neu frwydrau arfog yn bobl ddiniwed. O’r rhain mae 90% yn cael eu hanafu neu eu lladd o ganlyniad i arfau bychain. Bob munud o bob dydd mae rhywun yn cael eu lladd gan ddryll.

A phwy sy’n gwerthu’r arfau yma? Yn ôl y Small Arms Survey, sefydliad dyngarol o’r Swistir, y gwerthwyr mwyaf yw’r Unol Daleithiau, yna daw’r Eidal, yr Almaen, Brasil, Awstria, Dde Corea, Rwsia, Tsieina, Gwlad Belg, Gweriniaeth Siec, Twrci, Norwy a Siapan.

Ond wrth gwrs dydy’n Llywodraethau na’n sylwebwyr gwleidyddol ni’n dweud dim am hyn.

Arfau cemegol yn cael eu defnyddio gan bobl ddrwg nad ydyn ni’n eu hoffi yw’r linell goch, yn ôl ein gwleidyddion a sylwebyddion.

Dywed ein sylwebyddion nad oes dim byd mwy ffiaidd na fod Assad yn defnyddio arfau cemegol ar blant ei wlad ei hun. Ystyriwch hyn o ddifri. Mae yna gannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu lladd yn Syria, y mwyafrif helaeth o ganlyniad i arfau bychain. Ond mae’r lladd diweddar yma yn waeth na’r rhai hynny i gyd? Ers pryd mae yna gynghrair yn rhestri lefel ffieidd-dra lladd plant?

Yna mae’r ddadl cwbl dwp ein bod ni’n mynd i fomio Assad.

Pam ein bod ni’n mynnu dweud pethau mor orffwyll bob tro? Fydd Assad yn berffaith ddiogel. Bomio  milwyr sydd wedi cael eu drafftio neu eu dallu gan bropaganda fyddwn ni – yn blant i rywun, yn rhieni i rywun arall. Yn amlach na pheidio mae yna bobl ddiniwed hefyd yn cael eu lladd mewn ymgyrchoedd fomio o’r fath, oherwydd eu bod nhw wedi targedu’r lle anghywir, neu fod yna broblem fecanyddol neu ryw esgus neu’i gilydd.

Tydi bomio, ac ymuno a rhyfel, byth yn datrys rhyfel, ac mae’n orffwyll a ffôl i feddwl ei fod am wneud.

Peidiwch â chael eich cam-arwain gyda’r lluniau trist o ymosodiadau cemegol – gwir ai peidio. Mae’n drist i ddweud fod hyn yn digwydd mewn gwledydd eraill hefyd, ein gwladwriaeth ni sy’n gwerthu’r cynhwysion yn aml, ac mae llawer iawn mwy o ladd a dioddefaint wedi digwydd cyn hyn, ac yn dal i ddigwydd mewn gwledydd eraill nad ydy’r Deyrnas Gyfunol yn dangos unrhyw arlwy o ddiddordeb i ymyrryd ynddo, ond does gan y Llywodraeth a sylwebyddion ddim diddordeb mewn materion dyngarol bryd hynny.

Peidied chwaith a chredu fod bomio ac ymuno mewn rhyfel yn weithred dyngarol. Dydy lladd ddim yn weithred dyngarol.

Na, rhywbeth arall sy’n eu cymell i weithredu’n filwrol y tro hwn.

Beth yw hyn, wn i ddim. Ond rwy’n sicr nad rhesymau dyngarol ydyw. Rwy’n gwbl sicr mai rhesymau hunanol yn ymwneud a budd y Llywodraeth a’i ffrindiau ydyw. Dywed rhai mai pibell nwy ydyw, dywed eraill mai canolfannau milwrol yn y Dwyrain Canol ydyw, ymhlith llu o theorïau eraill.

Wna i ddim esgus mod i’n gwybod y cymhelliad, ond rwy’n sicr yn gwybod nad yw’n altrwistaidd.

Felly rwy’n ymbilio ar bawb i plîs peidio ag ymuno yn yr hysteria diweddar yma sy’n ein cymell i ryfel. Fydd hyn yn sicr yn arwain at hyd yn oed yn fwy o ddioddefaint a marwolaethau diangen.