Gwleidyddiaeth gudd a thrist ynni

Mae Tori o Landrillo wedi gofyn am fy marn ynghylch ynni gwynt.

Mae’n gwestiwn amserol yn dilyn y protest diweddar i lawr yn y Bae yn gwrthwynebu datblygu melinau gwynt a philonau trydan ar draws rhannau o Gymru.

Fy ymateb sydyn i (Twitter) oedd fy mod i o blaid ynni adnewyddol gan cynnwys melinau gwynt, mewn egwyddor, ond nad yw popeth o hyd yn ddu a gwyn.

Mae’r frwydr yn erbyn melinau gwynt yn cynyddu yma yng Nghymru, ac mae’r ddadl wedi symud ymlaen o’r NIMBYS’m gwreiddiol i fod yn un sy’n dweud fod cymunedau lleol ar eu colled tra fo ambell i gwmni cyfoethog yn elwa. Mae hon yn ddadl yr oeddwn i fy hun wedi ei gyflwyno adeg etholiadau 2005, gan ddweud y dylai cymunedau lleol elwa o unrhyw ddatblygiadau. Rwy’n dal wrth y gred yma – mae’n hanes ni yng Nghymru yn dangos y tlodi anferthol a ddaeth yn sgil cael ein hadnoddau naturiol wedi eu rheibio er mwyn elwa rhai teuluoedd breintiedig.

Cyflwynodd Angharad Mair dadl debyg mewn colofn yn Golwg tua dwy flynedd yn ol.

Fy mhryder i serch hynny yw fod y ddadl yma yn cael ei gyflwyno gan nifer fel estyniad o’r NIMBY.

Os ydym ni wirioneddol yn credu mewn hawl cymunedau i gael budd economaidd o’r ynni a ddarperir oddi yno, rhaid hefyd estyn yr un hawl i bob cymuned sy’n darparu adnoddau ynni, boed yma yng Nghymru, yn Norwy, Venezuela, De Affrica, cymunedau Aborijini Awstralia, Tajikistan, Georgia ayb ayb

Mae llawer o drafferthion y byd heddiw yn dod o’r ffaith fod cwmniau mawrion a llywodraethau yn ‘dwyn’ yr hyn sy’n creu ynni ac yn dwyn tir i gludo’r ynni hynny oddi wrth nifer o gymunedau tlawd y byd.

Ystyriwch y nwy ac olew a ddefnyddir yma sy’n tarddio o Nigeria, Angola, Azerbaijan; neu’r iwraniwm sydd angen i greu ynni niwclear a ddaw o Namibia neu diriogaeth gogledd Awstralia? Beth am y gwledydd sydd ar hyd llwybr y pibellau nwy megis Chechnya, Georgia ayb? Mae cannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu lladd mewn rhyfeloedd, wedi dioddef salwch, neu dlodi enbyd oll yn sgil uniongyrchol i’r ynni yr ydym ni yn ei ddefnyddio. Mae miloedd o lowyr yn Rwsia a De Affrica yn gallu cydymdeimlo yn llwyr a thrigolion Merthyr a Dowlais adeg y Crawshays.

Os ydym ni felly am gadw at yr egwyddor o adael i gymunedau gael budd economaidd o’r ynni oni ddylid rhoi’r un budd i gymunedau eraill?

Dioddefaint erchyll y bobl anweladwy yma sy’n sybsideiddio ein ynni rhad yma heddiw. Pwy sy’n talu am driniaeth pobl sy’n cael salwch yn sgil byw yng nghanol dwst iwraniwm Namibia? Pwy sy’n talu teuluoedd sydd wedi colli aelodau yn sgil rhyfeloedd canoldir Asia? Pwy sy’n talu trieniaid Nigeria yng nghanol y rhyfel cartref yno?

A ydyn ni’n fodlon talu’r pris ychwanegol a ddaw o ganiatau i gymunedau gael pris teg am eu hadnoddau?

Dyma oedd fy ymateb i golofn Angharad Mair:

Annwyl olygydd, 

Mewn colofn diweddar yn y cylchgrawn yma, meddai Angharad Mair fod ffermydd gwynt yn “achosi diflastod enfawr i drigolion cyffredin pentrefi Cymru tra’n llenwi pocedi cyfranddalwyr cwmniau rhyngwladol mawrion” ac “(does) dim byd sy’n warchodol gymunedol amgylcheddol gyfeillgar amdanyn nhw o gwbl” gan restri Statkraft, Siemens a Carillion fel rhai o’r cwmniau sydd am elwa  o’r arian a wneir allan o ynni gwynt Cymru ar draul pobl leol. 

Mae’n codi pwynt pwysig iawn ynghylch yr egwyddor cyffredin o rannu cyfoeth, ynghyd a’r pwynt dyfnach nad ystyrir yn aml iawn, sef gwleidyddiaeth ynni. 

Mae egwyddor sylfaenol ei herthygl ynghylch yr angen i Gymry gael budd economiadd yn ogystal ag amgycheddol allan o ddatblygu diwydiant ynni adnewyddol yn edrych yn un ddigon rhesymegol ar yr olwg gyntaf. Ond os ydyw’n egwyddor ein bod ni yn elwa o’r ynni yr ydym yn ei gynhyrchu, yna dylai fod yn egwyddor i bawb arall yr un modd. Mae felly yn egwyddor anghynaladwy os nad ydym ni am newid ein ffordd o fyw yn sylfaenol. 

Rhaid edrych ar ffynhonell yr ynni yr ydym eisioes yn ei ddefnyddio.  Mae’r Deyrnas Gyfunol yn ddibynnol ar y canlynol er mwyn cynhyrchu ynni :

Nwy 37.7%, olew 38% glo 16.7% niwclear 5.8%; ynni adnewyddol 1.8% (ffugyrau Llywodraeth San Steffan 2007). 

Daw y rhan helaethaf o lawer o’r egni yr ydym ni yn ei ddefnyddio o olew a nwy. Mae’r llywodraeth Brydeinig yn affwysol o wael am ddilyn gwraidd y cynnyrch yr ydym yn ei fewnforio – efallai ei bod hi’n well peidio a gwybod y gwir weithiau – ond yn ol y llywodraeth daw y mwyafrif helaeth o’r olew a ddefnyddir yma o Norwy a daw y nwy o’r Iseldiroedd a gwlad Belg. Tra fo Norwy yn wlad sydd yn cynhyrchu biliynnau o alwynni o olew ei hun, a Belg a’r Isediroedd yn delio mewn biliynnau o fetrau ciwbaidd o nwy, daw’r rhan helaethaf o’r olew a nwy o wledydd eraill. Dyma restri rhai o’r prif ddarparwyr: Nigeria, Angola, Azerbaijan, Mozambique, Kazakhstan, Iran, Tanzania, Libya, Georgia, Algeria ac yn y blaen. Faint o drigolion a chymunedau y gwledydd yma sydd yn elwa o’r ynni a gynhyrchir allan o’u hadnoddau hwy?  Wrth gwrs, mae cwmniau olew a nwy mawr y byd, megis ExxonMobil, Shell, Total, Elf, BP yn parhau i ecsploitio gwledydd tlotaf y byd,Angola,Ethiopia,Chad,Cameroon… 

Yn ogystal a hyn beth am y dioddefaint pellach i gannoedd o filoedd o bobl gwbl ddiniwed a wneir er mwyn medru cyflewni y cynnyrch gwerthfawr yma i ni gael ynni? Ystyriwch y ffrae bresenol rhwng Rwsia ar yr un llaw a’r Unol Daleithau ac Ewrop ar y llaw arall i gael pibell nwy o ganoldir Asia i orllewin Ewrop, gyda thrigolion diniwed Affganistan yn marw yn ei miloedd oherwydd pryder y gorllewin fod Rwsia am gael rheolaeth dros y mwyafrif o gyflenwad nwy y byd, wedi’r cyfan mae digon o nwy ac olew yn Kazakhstan, Kyrgyzstan, Uzbekistan a Tajikistan i gynnal y gorllewin a ddegawdau. Beth hefyd am y cannoedd o filoedd sydd yn byw o dan ormes yng ngwledydd canoldirAsiayma, lle y daw peth o’r nwy sydd yn ein cynhesu ni o? A phwy sy’n cofio y cannoedd a laddwyd yn y rhyfel diweddar ynGeorgia? Gwraidd hwn hefyd oedd awydd Rwsia i gadw rheolaeth ar y bibell nwy holl bwysig sydd yn mynd trwy’r wlad.  Mae’r ‘Great Game’ yn ei hanterth unwaith eto, yr unig wahaniaeth yw nad Prydain yw’r ymerodraeth sy’n cystadlu gyda Rwsia am gyfoeth adnoddauAsiayn yr unfed ganrif ar hugain. 

Beth am ffynhonellau eraill? Glo. Daw’r rhan fwyaf o’r glo a ddefnyddir ym Mhrydain bellach o Rwsia, De Affrica a Cholombia. Faint o drigolion a chymunedau cyffredin y gwledydd yma sydd yn elwa o’r glo a ddaw i Brydain o’u tiroedd a llafur hwy? Niwclear? Faint o drigolionNamibia,Brazil, ac Aborijiniaid Tiriogaeth Gogledd Awstralia sydd yn elwa o’r Iwraniwm a geir o’u tiroedd er mwyn cynhyrchu Niwclear naill ai yma neu yn Ffrainc? Heb son am y niwed difrifol i iechyd y bobl hynny sydd yn byw yn yr ardaloedd lle y mwyngloddir yr Iwraniwm oherwydd y dwst ymbelydrol a ddaw yn ei sgil? 

Ydy, mae Angharad Mair wedi codi pwynt pwysig iawn y mae’n werth i ni gyd ei ystyried yngylch gwleidyddiaeth yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio, a’r dioddefaint enbyd a thlodi affwysol y mae cannoedd o filoedd o bobl yn eu dioddef er mwyn i ni fedru cynnau ein cyfrifiaduron a chael paned o de poeth. 

Mae’r angen ar i Gymru gynhyrchu ei hynni ei hunan felly nid yn unig yn bwysig i’r mudiad gwyrdd, ond mae’n orfodol arnom er mwyn sefydlogrwydd ynni byd eang ac er lles ein cyd-ddyn – y dynion a’r menywod hynny mewn gwledydd a chymunedau tlawd ar draws y byd sydd naill ai yn cael eu dal yng nghanol rhyfeloedd imperialaidd nas gwyddont hwy ddim yn ei gylch, neu yn gorfod llafurio hyd farwolaeth er mwyn i ni gynnal ein bywydau bras ac i ambell i gyfranddalwr wneud ffortiwn ar eu cefnau. 

Dyliwn ni yma yng Nghymru yn fwy nag unrhyw un arall ddeall hyn gan arwain yr agenda i gael aelwydyddhunangynhaliol, wedi’r cwbl, efallai fod Crawshay a’i deulu wedi hen ymadael a ni bellach ond mae eu disgynyddion cyfalafol yn parhau i elwa ar drail dioddefaint miliynnau ar draws y byd heddiw. 

Yr eiddoch yn gywir, 

Mabon ap Gwynfor

Advertisements

One thought on “Gwleidyddiaeth gudd a thrist ynni

  1. Yr hoelen ar ei phen fan hyn:
    “Mae llawer o drafferthion y byd heddiw yn dod o’r ffaith fod cwmniau mawrion a llywodraethau yn ‘dwyn’ ynni a dwyn thr i gludo’r ynni hynny oddi wrth nifer o gymunedau tlawd y byd.”
    Dyma’n union safbwynt Fred Harrison yn ei lyfr “The Predator Culture”. A sut mae goresgyn hyn? Sut mae sicrhau bod “cymunedau lleol elwa o unrhyw ddatblygiadau”? Trwy sicrhau bod llywodraeth (ganolog a lleol) yn cael ei ariannu trwy rhent tir. Mae ‘tir’ yn yr ystyr economaidd clasurol yn cynnwys adnoddau naturiol. Gall cwmniau tramor ddod yma i godi melynau gwynt ar bob cyfrif, ond iddyn nhw dalu rhent i’r gymdeithas leol am ei hadnoddau. Bydd ei helw felly ar ei chyfalaf a’i llafur ac nid ar adnoddau a ddarparwyd gan natur (monopoli).

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s